
Dr Nina Jones
Uwch Ddarlithydd yn y Cyfryngau Cyfoes
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Trosolwg
Ymunais â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd ym mis Ionawr 2012 ac rwy’n darlithio ar fodiwlau gradd ac uwchraddedig amrywiol (lefelau 4-7) gan gynnwys: Introduction to Media Theory, Media Industries, Moving Image, Digital Cultures and New Media, and Law, Ethics and Landscape.
Mae fy nhraethawd hir ar gyfer fy noethuriaeth, o Brifysgol De Cymru (Gorffennaf 2016) yn edrych ar y BBC a’i effaith ar ecoleg cynhyrchu dramâu teledu yng Nghymru a’r Alban rhwng 2003-2013. Mae’n cynnig ymchwil cynradd gwreiddiol sy’n cyfleu lleisiau’r rheiny sy’n gweithio o fewn y BBC a sefydliadau annibynnol er mwyn asesu’r ffyrdd y maent yn dehongli, trafod a gweithredu mentrau polisi allweddol y BBC yn ogystal â ffactorau di-bolisi eraill sy’n gysylltiedig â’r modd gaiff cenhedloedd a rhanbarthau’r DU eu cynrychioli. Mae’r ymchwil hefyd yn dadansoddi’r ffyrdd gaiff Cymru a’r Alban eu cynrychioli o fewn cynnwys ffuglennol y BBC yn ystod y cyfnod hwn.