Skip to content
Cardiff Met Logo

Dr Mikel Mellick

Prif Ddarlithydd
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Trosolwg

Daw Mikel o Brisbane, Awstralia a dechreuodd yn yr ysgol ym 1997. Ers yr amser hwnnw mae wedi ymgymryd ag amrywiaeth o swyddi  gan weithio'n bennaf ar ddarpariaeth yr ysgol o raglenni seicoleg chwaraeon ôl-raddedig. Bu'n allweddol yn natblygiad y rhain, gan ysgrifennu a pharhau fel unig gyflwynydd ar ddau fodiwl craidd.  Mae Mikel yn arbenigo mewn Seicoleg Cwnsela a dulliau therapiwtig mewn Ymarfer Seicoleg Chwaraeon a Lles Meddwl Athletwyr a Phersbectifau Datblygiadol.

Mae Mikel yn cydbwyso ei ymrwymiadau academaidd wrth gynnal practis preifat fel Seicolegydd Ymarferydd Cofrestredig (HCPC) gan weithio'n bennaf ym maes cymorth Iechyd Meddwl Athletwyr a Digwyddiad Bywyd Mawr. Mae ganddo gefndir mewn nyrsio, gwyddoniaeth ymddygiad, seicoleg cwnsela a seicoleg chwaraeon. Mae'n aelod llawn a sylfaen o'r Is-adran Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff (BPS) ac mae'n Gymrawd Cysylltiol Cymdeithas Seicolegwyr Prydain. Mae hefyd yn oruchwyliwr cofrestredig ar gyfer ymarfer Hyfforddiant Cam 2 mewn ymarfer Seicoleg Chwaraeon BPS.

Mae Mikel yn arwain ar Iechyd Meddwl a Lles yr ysgol ac mae'n Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac wedi'i hyfforddi mewn Sgiliau Ymyrraeth Hunanladdiad Cymhwysol. Yn 2015 dyfarnwyd Cymrodoriaeth Addysgu dan Arweiniad Myfyrwyr Prifysgol i Mikel i gydnabod Rhagoriaeth Addysgu.

Cyhoeddiadau Ymchwil

“I feel like a fish out of water”: interpreting the occupational stress and well-being experiences of professional classical musicians

Willis, S., Mellick, M., Neil, R. & Wasley, D., 14 Awst 2024, Yn: Frontiers in Psychology. 15, t. 1374773 1374773.

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

Supporting sports officials’ mental health and well-being using the Trauma-Informed Practice Developmental Model

Brick, N., Breslin, G., Mellick, M. & Webb, T., 4 Ebr 2024, Mental Health and Well-Being Interventions in Sport: Research, Theory and Practice. Taylor and Francis, t. 123-138 16 t.

Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion CynhadleddPennodadolygiad gan gymheiriaid

Soccer Referee Mental Health: Developing a Network of Soccer Referee Mental Health Champions

Mellick, M., 1 Ion 2020, The Psychology of Soccer. Taylor and Francis, t. 278-291 14 t.

Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion CynhadleddPennodadolygiad gan gymheiriaid

The relationship between occupational demands and well-being of performing artists: A systematic review

Willis, S., Neil, R., Mellick, M. & Wasley, D., 4 Maw 2019, Yn: Frontiers in Psychology. 10, MAR, 393.

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygl adolyguadolygiad gan gymheiriaid

Personal narrative and the ethics of disclosure: A case study from elite sport

Mellick, M. & Fleming, S., 10 Meh 2010, Yn: Qualitative Research. 10, 3, t. 299-314 16 t.

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

Proffil Archwiliwr Ymchwil Visit the research portal