
Matthew James
Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli a Datblygu Chwaraeon
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Trosolwg
Ymunodd Matthew â'r Ysgol ym mis Medi 2016 fel Darlithydd rhan amser mewn Rheoli a Datblygu Chwaraeon. Mae ganddo dros ugain mlynedd o brofiad gwaith yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys amrywiaeth o rolau uwch mewn datblygu a rheoli chwaraeon.
Cyn hynny, bu Matthew’n gweithio mewn Addysg Uwch gyda'r Adran Rheoli Hamdden ym Mhrifysgol Sheffield rhwng 2002-2007 a hefyd yn darlithio mewn Rheoli Chwaraeon ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant.