Skip to content
Cardiff Met Logo

Martin Morgan

Technegydd Arddangoswr Gwneud: Cyfryngau Cymysg
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Trosolwg

Deuthum i Brifysgol Metropoli​tan Caerdydd (UWIC) (Athrofa Addysg Uwch De Morgannwg ar y pryd) yn 1989 i gwblhau cwrs City and Guilds mewn Addurno, roeddwn yn wyth ar hugain oed ar y pryd yn fyfyriwr aeddfed fel petai, o fewn chwe mis o fod ar y cwrs, gofynnwyd i mi ymuno â'r tîm Addurno, fel eu technegydd a chefais ganiatâd i barhau â'm hastudiaethau rhan amser. Des i ffwrdd gyda Chyntaf mewn Theori a Rhagoriaeth mewn Ymarfer ac roeddwn i wrth fy modd gyda phob munud ohono. Cyn hynny roeddwn wedi bod yn brentis Adeiladu Ceiryn ysbeidiol dros gyfnod o chwe blynedd yn gweithio i ddyn gwych a oedd wedi dysgu ei grefft fel Prentis yn y cwmni ceir ym Mryste. Roedd y swydd yn golygu stripio pob math o geir clasurol i'w hailwampio gan wneud bonedi, seddi, paneli drysau, gwneud ac argaenu bordiau blaen, gan adnewyddu popeth ynddo mewn gwirionedd. Dyma lle dwi'n credu y cefais fy nghariad at greu, dysgu technegau newydd a dwlu ar brosesau’n gyffredinol. Ym 1995 roeddwn ynghlwm wrth y cwrs Sylfaen mewn Celf a Dylunio. Yma bûm yn ddigon ffodus i weithio ochr yn ochr ag academydd gwych a oedd yn Ddylunydd Gwneuthurwr. Arweiniodd yr ochr 3D o’r cwrs sylfaen, lle dangoswyd llu o dechnegau newydd a hynod ddiddorol i mi (rhai hollol beryglus, Arllwys Haearn Bwrw - Ond stori arall yw honno!). Tra yn Llandaf dechreuodd ein gweithdai ddarparu ar gyfer anghenion Tecstilau (Argraffu a Dylunio Patrymau ar y pryd). Tua 2003/4 symudodd y Cwrs Sylfaen i Gampws Gerddi Howard ac arhosais i ehangu a chefnogi ochr y gwneuthurwyr llewyrchus newydd, gan ddod â'r sgiliau a ddysgais eisoes i mewn tra'n dal i ddysgu rhai newydd. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i weithio ochr yn ochr â rhai o'r bobl a'r timau mwyaf caredig a gwybodus a oedd yn fodlon trosglwyddo eu gwybodaeth i mi, ac yn ei dro nawr rwy'n ei throsglwyddo i'r myfyrwyr.