Skip to content
Cardiff Met Logo

Martin Honey

Uwch Ddarlithydd
Ysgol Reoli Caerdydd

Trosolwg

Mae Martin yn darlithio ar amrywiaeth eang o bynciau yn ymwneud â chyllid. Mae hefyd wedi dysgu'n helaeth ar gyrsiau rheoli lletygarwch sy'n cwmpasu agweddau ariannol, economaidd, rhyngwladol a chyfoes ynghyd â chyrsiau ar ddylunio cyfleusterau lletygarwch. Bu gynt yn gydlynydd traethawd hir ar gyfer yr adran.

Wedi ei addysgu ym Mhrifysgol Surrey, mae wedi gweithio i gwmni gwestai rhyngwladol yn flaenorol a chwmni mawr o gyfrifwyr/ymgynghorwyr rheoli siartredig. Mae wedi ymgymryd â gwaith cynghori ar gyfer nifer o sefydliadau.

Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys strategaethau goroesi ar gyfer carfannau hŷn ac amrywiol o fyfyrwyr ac mae wedi cyhoeddi a darlithio yn y maes hwn.