
Mark Williams
Uwch Ddarlithydd TAR Uwchradd Hanes
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Trosolwg
Astudiais hanes ym Mhrifysgol Abertawe gan arbenigo mewn trosedd a chymdeithas, hanes Cymru a helfeydd gwrachod yn Ewrop ar ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg. Derbyniais fy TAR o Brifysgol Abertawe a gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Rwyf wedi treulio 23 mlynedd fel Pennaeth Hanes mewn ysgolion uwchradd yn nhri o awdurdodau lleol Cymru. Rwyf hefyd wedi ymgymryd â nifer o rolau ychwanegol mewn ysgolion gan gynnwys Pennaeth Blwyddyn, Cydlynydd Llythrennedd a Llywodraethwr Ysgol. Rwyf hefyd wedi gweithio i awdurdodau lleol yn cynnal rhaglenni ymyrraeth llythrennedd, sefydlu amgylcheddau rhith-ddysgu, hyfforddi staff cymorth mewn ysgolion a lledaenu arfer da. Rwy’n gweithio fel arholwr TGAU a Safon Uwch i sawl bwrdd arholi ac rwyf wedi cyhoeddi nifer o adnoddau ar-lein. Ers 1992, rwyf wedi cyfrannu at hyfforddi athrawon o sawl sefydliad hyfforddiant athrawon gwahanol fel Mentor ac Uwch Fentor. Mae gennyf ddiddordeb arbennig yn natblygiad strategaethau addysgegol i wella profiadau dysgu dysgwyr ac rwyf wedi arwain nifer o raglenni a ariannwyd gan y Gronfa Dreftadaeth i ymgysylltu â dysgwyr sydd wedi dadrithio. Rwy’n awyddus i gynnal fy rôl fel ymarferydd yn y dosbarth ac rwy’n parhau i ddysgu ar draws Cyfnodau Allweddol Tri, Pedwar a Phump mewn ysgol gyfun 11-18.
Cyhoeddiadau Ymchwil
Protecting the Olympic brand: Winners and losers
Hartland, T. & Williams-Burnett, N., Chwef 2012, Yn: Journal of Strategic Marketing. 20, 1, t. 69-82 14 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid