
Dr Luis Serrano-Tamayo
Darlithydd mewn Rheoli Prosiectau
Ysgol Reoli Caerdydd
Trosolwg
Ymunodd Dt Serrano-Tamayo â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd fel Darlithydd mewn Rheoli Prosiectau ym mis Chwefror 2023. Mae Luis yn dysgu yn y rhaglen MSc Rheoli Prosiectau, yn goruchwylio traethodau hir ar yr MSc. Rheoli Prosiectau ac MBA (Rheoli Prosiectau) rhaglenni ac yn ymgymryd ag ymchwil mewn Rheoli Prosiectau.
Cyn ei swydd academaidd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, bu Luis yn gwasanaethau am 30 mlynedd yn Llynges Colombia fel Capten y Llynges. Ochr yn ochr â'i uwch swyddi milwrol, mae wedi dysgu modiwlau Rheoli Prosiect ym Mhrifysgol Manceinion, lle gwnaeth ei PhD mewn Rheoli Prosiectau, yn ogystal â Phrifysgolion Colombia uchel eu proffil eraill.
Ar hyd ei yrfa, mae Luis wedi derbyn nifer o anrhydeddau a gwobrau. Derbyniodd +10 o fedalau am wasanaethau nodedig i Luoedd Milwrol Colombia, Llynges Colombia, Surface Force, Academi’r Llynges, ymhlith eraill. Cafodd ei gydnabod fel Ymchwilydd Gwyddonol Milwrol.
Derbyniodd Luis ei dystysgrif PMP (Gweithiwr Proffesiynol Rheoli Prosiect) yn 2014, ar ôl 10 mlynedd o brofiad yn arwain prosiectau i sectorau amddiffyn, technoleg, addysg a diwydiannol i mewn i bortffolio $500 miliwn, gan weithredu prosiectau gwneud penderfyniadau gan ddefnyddio aml-feini prawf a datrys problemau cymhleth. Arweiniodd hefyd greu Swyddfa Rheoli Prosiect Llynges Colombia, yn seiliedig ar safonau PMI, a chydweithio â PricewaterhouseCoopers.
Astudiodd Luis ei MBA yn yr Ysgol Reoli (AMBA, AACSB, EQUIS) yn Universidad de Los Andes, a chagodd ei ddewis yn gynrychiolydd yn yr her "Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn", Cymdeithas MBA (AMBA). Cwblhaodd ei astudiaethau MBA ochr yn ochr ag astudiaethau MSc mewn Peirianneg Fecanyddol. Yn ogystal, mae ganddo brofiad ôl-raddedig arall mewn Diogelwch Cenedlaethol ac Amddiffyn, Rheoli ac Uwch Staff, a Gwleidyddiaeth a Strategaeth Forol.
Mae ei gefndir ym maes amddiffyn a pheirianneg. Mae ganddo B.Sc. mewn peirianneg morol-fecanyddol (gyda thraethawd ymchwil llawryfog), yn gyfochrog â BA mewn Gwyddorau Llynges o Academi’r Llynges "Almirante Padilla". Treuliodd 15 mlynedd gyntaf ei yrfa fel peiriannydd mewn llongau morol, swyddog arweiniol llongau morwrol, darlithydd yr academi forwrol, a rheolwr prosiect ar gyfer prosiectau adeiladu a chynnal a chadw llongau. Yn ystod 15 mlynedd olaf ei yrfa, daeth yn PMP ardystiedig o Lynges Colombia, lle bu’nb arawin prosiectau, rhaglenni a phortffolios blaenllaw yn y sectorau amddiffyn, technoleg, addysg a diwydiannol.
Cyhoeddiadau Ymchwil
Identification of stakeholders and practices of inclusive education
Serrano-Tamayo, L., 21 Rhag 2021, International Journal of Educational and Pedagogical Sciences. 12 gol. World Academy of Science, Engineering and Technology, Cyfrol 15.Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Cyfraniad mewn cynhadledd
Inclusive education in practice: Socialisation of former combatants into society
Serrano-Tamayo, L., Enciso- Congote, J. D., Bulla-Calero, M. C. & Santodomingo-Mendoza, L., 2020, Proceedings of The 3rd International Conference on Advanced Research in Education, Teaching and Learning. Diamond Scientific PublishingAllbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Cyfraniad mewn cynhadledd › adolygiad gan gymheiriaid
Inclusion of illegitimate actors through arts: a perspective from the Colombian peace process
Serrano-Tamayo, L. & Chan, P. W., 1 Awst 2019, Yn: Academy of Management Proceedings.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Cyfarfod Abstract › adolygiad gan gymheiriaid
Tensions of organisational identity in transition from illegitimacy to legitimacy
Serrano-Tamayo, L., Chan, P. W. & Blackwell, P., 5 Gorff 2018, t. 1. 35 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur › adolygiad gan gymheiriaid
Governing with an open strategy? Critical reflections on opening governance and strategy in the recent case of the Colombian peace process
Serrano-Tamayo, L., Chan, P. W. & Blackwell, P., 6 Gorff 2017. 35 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur › adolygiad gan gymheiriaid
Twenty years of strategy as practice scholarship in top journals: A systematic review
Serrano-Tamayo, L., 8 Medi 2016.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur › adolygiad gan gymheiriaid
Aplicación metodología AHP para selección del buque de desembarco anfibio óptimo para la Armada Nacional
Serrano-Tamayo, L., 16 Hyd 2013, Yn: Revista Estudios en Seguridad y Defensa. 8, 16, t. 59-67 8 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Computational optimization of stability, propulsion and manoeuvrability of a riverine vessel
Serrano-Tamayo, L., 2011.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur