Skip to content
Cardiff Met Logo

Louise Cook

Uwch Ddarlithydd mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Trosolwg

Dechreuodd Louise ei gyrfa fel gweithiwr prosiect ieuenctid a chymunedol yn ymwneud â’r celfyddydau. Dros y 23 mlynedd diwethaf, mae Louise wedi rheoli ystod eang o brosiectau gwaith ieuenctid gwirfoddol a statudol, gan gynnwys tîm mawr o weithwyr ieuenctid a cymunedol ar y stryd sy’n gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed ledled Rhondda Cynon Taf.

Aeth Louise yn ei blaen i ddod yn Brif Swyddog Ieuenctid a Phennaeth Gwasanaethau i Bobl Ifanc yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf; gyda chyfrifoldeb dros fwy na wyth cant o staff a gwirfoddolwr llawn amser a rhan amser; yn arwain datblygiad strategol a gweithredol y tîm Gwasanaethau i Bobl Ifanc sydd wedi ennill gwobrau, a goruchwylio ystod eang o brosiectau a rhaglenni a ariannwyd yn allanol gan LlG, Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, y Loteri Fawr a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Yn fwy diweddar, symudodd Louise i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ymgymryd â swyddi Cydlynydd Ymgysylltu a Datblygu a Chydlynydd Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS); mae’n cefnogi gweithrediad strategol a gweithredol Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu LlC ac yn cefnogi darpariaeth addysg amgen i bobl ifanc ledled y sir.

Ymunodd Louise â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn llawn amser ym mis Medi 2014. Yno cafodd y cyfle i barhau â’i gwaith partneriaeth hirsefydlog â thîm Ieuenctid a Chymunedol Metropolitan Caerdydd; hyfforddi a chefnogi gweithwyr ieuenctid a gwasanaethau ieuenctid ledled De Cymru a thu hwnt.