
Lisa Davies
Darlithydd mewn Rheolaeth Marchnata Digidol
Ysgol Reoli Caerdydd
Trosolwg
Mae Lisa Davies yn Ddarlithydd mewn Rheoli Marchnata Digidol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn Arweinydd Modiwl ar gyfer Cyfryngau Digidol ar Waith BSP4070. Mae gan Lisa brofiad sylweddol yn y diwydiant marchnata a dylunio, ar draws y sector cyhoeddus a phreifat, B2B a B2C. Mae hi wedi ymrwymo i addysg sy'n canolbwyntio ar ymarfer sydd a ffocws broffesiynol gan alluogi myfyrwyr i gyflawni eu potensial yn y gweithle marchnata cystadleuol. Cyn ymuno â'r byd academaidd yn 2019 bu Lisa mewn rolau Rheoli Brand a Marchnata Cwsmeriaid, Dylunio Graffig a Rheoli Stiwdio Dylunio ar gyfer cwmnïau blaenllaw FMCG, SaaS a theledu rhyngweithiol.
Ym Met Caerdydd, mae Lisa yn gweithio ar draws cyrsiau gradd israddedig ac ôl-raddedig gan gynnwys Rheoli Marchnata - BA (Anrh), Rheoli Marchnata Ffasiwn - BA (Anrh), Prynu Ffasiwn a Rheoli Brand - BA (Anrh), Lletygarwch Rhyngwladol a Rheoli Twristiaeth - BA (Anrh) a Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA).
Mae Lisa wedi’i chymeradwyo gan y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) i ddysgu Technegau Marchnata Digidol ar Lefel 4 a 6.