
Laura Edmunds
Darlithydd mewn Dylunio Tecstilau
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Trosolwg
Graddiodd Laura yn 2011 gyda BA (Anrh) mewn Dylunio Patrymau Arwyneb o Goleg Celf Abertawe. Yn fuan wedyn, derbyniodd Wobr Jane Phillips gyntaf Oriel Mission, Abertawe a Gwobr Arlunio Artist Cymreig y Flwyddyn 2012. Yna symudodd Laura i Orllewin Awstralia i gwblhau ei gradd meistr tra’n gweithio yn Perth Institute of Contemporary Art.
Ar ôl dychwelyd i’r DU, cwblhaodd Laura gymhwyster addysgu TAR a sefydlodd ei harfer stiwdio lle mae wedi arddangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan dderbyn cyllid a gwobrau dethol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Lloegr ac Ymddiriedolaeth Gane wrth gwblhau comisiynau cyhoeddus ar raddfa fawr ar gyfer cleientiaid fel Persimmon Homes a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Cyn hynny bu Laura yn dysgu yng Ngholeg Celf Plymouth ac Ysgol Gelf Bryste.
Mae Laura wedi gweithio fel artist llawrydd ers dros 10 mlynedd gan weithio’n bennaf gyda thecstilau wedi’u hargraffu a’u lliwio, gan ffafrio technegau printiedig â llaw oherwydd eu hymddangosiad nodedig, cariad at broses ac edmygedd dwfn o grefftwaith.