
Dr Lana St Leger
Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth Strategol
Ysgol Reoli Caerdydd
Trosolwg
Mae Dr Lana St Leger yn ymchwilydd gyrfa gynnar ac yn Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth Strategol yn Ysgol Reoli Caerdydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Cyn ymuno â'r Adran Farchnata a Strategaeth yn 2022, bu'n gweithio fel Darlithydd mewn Rheoli Chwaraeon yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac ym Mhrifysgol Caerfaddon yn yr Adran Iechyd, Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.
Cwblhaodd Lana ei Ph.D. yn 2020 a ymchwiliodd i rôl chwaraeon cymunedol wrth annog defnydd o'r Gymraeg ymhlith pobl ifanc y tu hwnt i giât yr ysgol, a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae diddordebau ymchwil Lana yn canolbwyntio ar bedwar prif faes: Sosioieithyddiaeth ac Ieithyddiaeth Anthropolegol, Astudiaethau Cymunedol, Llesiant Cenedlaethau'r dDyfodol, a Pholisi ac Ymarfer.
Cyhoeddiadau Ymchwil
‘Defnyddiwch y Gymraeg’: community sport as a vehicle for encouraging the use of the Welsh language
Evans, L., Bolton, N., Jones, C. & Iorwerth, H., 7 Chwef 2019, Yn: Sport in Society. 22, 6, t. 1115-1129 15 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid