
Dr Konstantina Kalogirou
Darlithydd mewn Addysg Athrawon a Dysgu Proffesiynol
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Trosolwg
Mae Konstantina yn Ddarlithydd mewn Addysg Athrawon a Dysgu Proffesiynol yn Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd ac yn addysgu yn y BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwys (SAC), a'r rhaglen TAR Cynradd. Mae hefyd yn diwtor Prifysgol am leoliadau TAR ysgol gynradd. Cyn hyn roedd Konstantina yn athrawes Saesneg a Saesneg fel Iaith Ychwanegol, a Dirprwy Bennaeth Chweched Dosbarth Ysgol Uwchradd Cathays. Mae wedi ennill profiad amrywiol ar draws y sector addysg gan weithio fel Athrawes Saesneg yng Ngwlad Groeg, Lloegr ac yn fwyaf diweddar yng Nghymru.
Mae gan Konstantina BA (Anrh) mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg o Brifysgol Aristotle Thessaloniki, Gwlad Groeg. Cwblhaoedd ei MA mewn Theatr Gymhwysol: Drama mewn Cyd-destunau Addysgol, Cymunedol a Chymdeithasol yng Ngholeg Goldsmiths, Prifysgol Llundain. Derbyniodd ei PhD mewn Addysgeg o Brifysgol Aristotle Thessaloniki yn 2018.
Diddordebau ymchwil Konstantina yw Addysgeg Ryngweithiol a Chaffael Ail Iaith, yn enwedig defnydd Drama mewn Addysg wrth addysgu a dysgu. Ar hyn o bryd mae'n astudio cymwyseddau gwahanol celfyddydau mynegiannol a threftadaeth ddiwylliannol mewn cyd-destunau addysgol. Mae wedi cyhoeddi am Ddrama mewn Addysg, Caffael Ail Iaith, a chymwysiadau Treftadaeth Ddiwylliannol mewn Addysg.
Mae wedi arwain sawl prosiect ymchwil, a ariannwyd ymhlith eraill gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Ysgoloriaethau Gwladwriaeth Groeg (IKY), a fframwaith Erasmus+ yr Undeb Ewropeaidd.
Cyhoeddiadau Ymchwil
A study on creative object biographies. Can creative arts be a medium for understanding object-human interaction?
Trimmis, K. P., Marini, C., Katsilerou, Z., Marinou, M., Kapsali, K., Perdikopoulou, M., Soumintoub, V., Brkić Drnić, K., Drnić, I., Theodoroudi, E., Tzortzopoulou Gregory, L., Fernee, C. L. & Kalogirou, K., 4 Maw 2024, Yn: Archaeological Dialogues.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
A Town of Many: Drama and Urban Heritage Landscapes as Mediums for Second Language Acquisition and Social Inclusion
Kalogirou, K., Stamenkovic, D., Fernee, C. L. & Trimmis, K. P., 28 Ion 2021, Yn: Global Education Review. 7, 4Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Performative Archaeology: Exploring the Use of Drama in Archaeology Teaching and Practice
Trimmis, K. P. & Kalogirou, K., 1 Gorff 2018, Yn: Scenario.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Vocabulary Acquisition via Drama: Welsh as a second language in the primary school setting
Kalogirou, K., Beauchamp, G. & Whyte, S., 19 Mai 2017, Yn: Language Learning Journal. 47, 3, t. 332-343 12 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid