
Kerry Bevan
Uwch Ddarlithydd mewn Addysg Athrawon a Dysgu Proffesiynol ac Arweinydd Pwnc ar gyfer TAR Uwchradd Ieithoedd
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Trosolwg
Ymunodd Kerry â Met Caerdydd fel Tiwtor Cyswllt yn 2020 ac mae wedi bod yn arwain myfyrwyr TAR ITM Uwchradd ers 2021. Mae hi'n gymrawd o'r Academi Addysg Uwch (FHEA).
Astudiodd Kerry Astudiaethau Ewropeaidd gyda Ffrangeg ac Almaeneg ym Mhrifysgol Caerfaddon cyn cwblhau ei TAR mewn ieithoedd yng Ngholeg Homerton, Caergrawnt yn 1997. Mae ganddi brofiad o weithio mewn ysgolion yn Ffrainc a'r Almaen a bu'n gweithio yn Berlin, gan ddysgu Saesneg fel Iaith Dramor ymhlith rolau eraill. Mae ganddi MA mewn Addysg (Cymru) ac roedd ei thraethawd hir yn canolbwyntio ar 'ganfyddiadau myfyrwyr ITM o ddad-drefedigaethu'r cwricwlwm ITM'.
Yn ystod ei gyrfa addysgu mae wedi dal swyddi Pennaeth Ieithoedd, Pennaeth Ffrangeg/Almaeneg a Chyfarwyddwr Ieithoedd mewn Coleg Ieithoedd Arbenigol yn Llundain. Mae hi hefyd wedi bod yn gyfrifol am ABCh yn CA3 a CA4 ac wedi goruchwylio Her Sgiliau TGAU (Bagloriaeth Cymru).
Yn ogystal â’i gwaith ym Met Caerdydd, mae’n gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd yn dysgu Almaeneg ar y rhaglen Ieithoedd i Bawb ac mae wedi dysgu Almaeneg ar y rhaglen israddedig hefyd. Mae hi'n arholwr cymwysedig ar gyfer Sefydliad Goethe yn lefel A1.
Mae Kerry yn arholwr allanol ar gyfer TAR Uwchradd Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Warwick. Mae Kerry yn aelod o Grŵp Llywio Dyfodol Byd-eang Cymru sy’n llywio polisi iaith yng Nghymru a hefyd ar Banel Cynghori Tueddiadau Ieithyddol Cymru. Mae Kerry hefyd yn gweithio gyda CBAC ar y TGAU Almaeneg newydd.
Cyhoeddiadau Ymchwil
An exploration of student MFL teachers’ emerging perceptions of decolonising the MFL curriculum
Bevan, K., 27 Meh 2024, Yn: Wales Journal of Education.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid