
Trosolwg
Dr Hughes yw Dirprwy Ddeon Ysgol Reoli Caerdydd.
Ymunodd â'r Brifysgol ym mis Hydref 2001 fel Uwch Ddarlithydd ar ôl 8 mlynedd yn gweithio fel darlithydd Cyfrifiadura a Systemau Gwybodaeth yng Ngholeg Ystrad Mynach ac yn ystod y cyfnod hwnnw cafodd gymhwyster TAR.
Fel Cydymaith Ymchwil Prifysgol Caerdydd, bu'n gweithio ar brosiect ymchwil a noddwyd gan Labordy Ymchwil Ffyrdd yr Adran Drafnidiaeth (TRRL).
Mae ganddo radd BSc a gradd PhD o Brifysgol Cymru.
Bu Dr Hughes yn Bennaeth Adran rhwng 2006 a 2012 gyda chyfrifoldeb am ddefnyddio adnoddau staff a rheoli llinell staff yn y meysydd Cyfrifiadura ac Iaith/Astudiaethau Diwylliannol yn strategol.
Yn y rôl hon bu'n arwain yr holl Ddigwyddiadau Dilysu ac Adolygu Cyfnodol ar gyfer yr adran.
Mae wedi bod yn gyfrifol am agweddau strategol a gweithredol dysgu ac addysgu yn yr Ysgol ers 2012 gan gynnwys recriwtio staff a llwyth gwaith.
Mae'n Gadeirydd Bwrdd Arholi profiadol yn cadeirio Byrddau Arholi gartref a thramor yn rheolaidd, ac mae wedi cadeirio digwyddiadau Dilysu ac Adolygu Cyfnodol ar draws y brifysgol.
Mae Dr Hughes wedi gweithio am nifer o flynyddoedd fel Cadeirydd Pwyllgor Rheoliadau a Llawlyfr Academaidd y Brifysgol ac mae wedi bod yn gyfrifol am oruchwylio cyflwyno a gweithredu nifer o Reoliadau allweddol. Mae hefyd wedi cadeirio Pwyllgor Ansawdd a Safonau Academaidd Met Caerdydd yn flaenorol.