Skip to content
Cardiff Met Logo

Dr Kathryn Addicott

Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Adnoddau Dynol
Ysgol Reoli Caerdydd

Trosolwg

Ymunodd Kathryn â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd ym mis Medi 2009 ac mae'n Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Adnoddau Dynol yn Adran Busnes, Rheolaeth a'r Gyfraith. Mae hi wedi bod yn Gadeirydd Grŵp Maes AD ers mis Rhagfyr 2019.

Bu Kathryn yn Uwch Ddarlithydd am wyth mlynedd gyda'r Ganolfan Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Morgannwg ac roedd yn Gydlynydd Hyfforddiant ar gyfer Canolfan Arfer Pontio'r Cenedlaethau Cymru a ariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn gyfrifol am ei gwasanaeth hyfforddi ac ymgynghori ledled Cymru. Mae hi hefyd wedi dysgu ystod o gyrsiau achrededig ar gyfer y Ganolfan Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Caerdydd. Cyn gweithio mewn AU, roedd ganddi wyth mlynedd o brofiad o reoli yn y sector gwirfoddol, yn fwyaf diweddar fel Dirprwy Gyfarwyddwr mudiad gwirfoddol seilwaith.

Enillodd MBA gyda Rhagoriaeth ym Mhrifysgol Morgannwg ym 1997, enillodd TAR (PCET) o Brifysgol Caerdydd yn 2006, a Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Ymchwil Gymdeithasol Gymhwysol o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2010. Mae Kathryn yn Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch (FHEA), ac yn Aelod Academaidd Cysylltiol o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD), y ddau ohonynt yn rwydweithiau proffesiynol hanfodol ar gyfer datblygiad parhaus gweithgareddau addysgu, dysgu ac ymchwil.