
Dr Katherine Fitzgerald
Prif Ddarlithydd mewn Seicoleg Glinigol neu Fforensig
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Trosolwg
Mae Dr Katherine Fitzgerald yn Ymarferydd Seicolegydd cofrestredig gyda'r Cyngor Gweithwyr Proffesiynol Gofal Iechyd ac yn Seicolegydd Clinigol Siartredig gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn gweithio mewn lleoliadau iechyd clinigol i gefnogi cleifion, teuluoedd, a staff i reoli cyflyrau iechyd, diagnosis a thriniaethau sy’n newid bywydau. Yn ogystal â gweithio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae Dr Fitzgerald yn gweithio fel ymarferydd seicolegydd hynod arbenigol yn y GIG, i Rwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru. Cyn hyn, mae Dr Fitzgerald wedi gweithio fel seicolegydd clinigol mewn amrywiaeth o leoliadau iechyd, gan gynnwys gwasanaethau canser, adferiad covid, gwasanaethau arennol, ac adsefydlu cymhleth. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys gofal sy'n ystyriol o drawma mewn lleoliadau iechyd corfforol; EMDR mewn lleoliadau iechyd corfforol; ymyriadau ymwybyddiaeth ofalgar/symud/ioga ar gyfer gwytnwch ac adferiad mewn lleoliadau iechyd a chymunedol, a lles staff gofal iechyd.