
Jo Farag
Arweinydd Rhaglen TAR Uwchradd, TG a Chyfrifiadura
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Trosolwg
Fi yw Arweinydd Rhaglen TAR Uwchradd - TG a Chyfrifiaduro ac Arweinydd Cwricwlwm TGCh a Chyfrifiadureg (Ysgol Uwchradd Caerdydd) yn ogystal â bod yn Diwtor Personol a Mentor i fyfyrwyr Uwchradd a TAR. Ar ôl ennill Gradd mewn Addysg gan arbenigo mewn Cyfrifiaduro, arbenigedd Mathemateg TAR Cyfrifiaduro ac MSc mewn Cyfrifiaduro, rwyf wedi addysgu Mathemateg a Chyfrifiaduro am fwy nag ugain mlynedd mewn ystod o ysgolion uwchradd yng Nghymru ac Emiradau Arab Unedig, ac wedi dal amrywiaeth o rolau fel Pennaeth Adran, Pennaeth Blwyddyn a rôl Arweinyddiaeth Uwch.
Ymunais ag Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd yn 2019 Fel Uwch Ddarlithydd mewn TG a Chyfrifiaduro ac rwyf hefyd yn cymryd rhan mewn sawl prosiect Digidol. Rwyf yn Arholwr Lefel A i CBAC ac yn Ymgynghorydd i Cymwysterau Cymru. Gweithiais o'r blaen fel Prif Ymarferwr i CSC i gefnogi ysgolion wrth weithredu'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Cyhoeddiadau Ymchwil
Re‐imagining a decolonised, anti‐racist curriculum within initial teacher education in a Welsh university
Davis, S., Watkins, S., Haughton, C., Oliver, E., Farag, J., Webber, P. & Goold, S., 15 Ebr 2024, Yn: British Educational Research Journal. 50, 5, t. 2131-2147 17 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid