
Dr Jenny Mercer
Prif Arweinydd Astudiaethau Graddedig a Darllenydd
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Trosolwg
Mae Dr Jenny Mercer yn Ddarllenydd mewn Dulliau Ansoddol at Seicoleg Gymhwysol ac yn Arweinydd Astudiaethau i Raddedigion ym maes Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae ganddi brofiad ac arbenigedd helaeth mewn addysg ddoethurol:
Mae Jenny wedi dal swydd uwch fel Arweinydd Astudiaethau i Raddedigion ym maes Gwyddorau Iechyd ers 2015, gyda chyfrifoldeb am weithredu a llywodraethu rhaglenni doethurol, myfyrwyr a goruchwylwyr. Mae hi’n cadeirio Is-bwyllgor Graddau Ymchwil yr Ysgol ac mae’n aelod o Bwyllgor Graddau Ymchwil y Brifysgol.
Mae ei phroffil yn cynnwys nifer o fyfyrwry PhD a gwblhawyd (gweler ‘Addysgu’ am broffil goruchwylio), cadeirio vivas ac archwilio traethodau ymchwil doethurol mewn amrywiaeth o SAU yn y DU. Mae Jenny yn cyflwyno cyrsiau hyfforddi a gweithdai i ymchwilwyr doethurol a goruchwylwyr sy’n cwmpasu sawl agwedd ar y daith ddoethurol.
Yn 2020 sefydlodd y Fenter Llesiant Doethurol ym Met Caerdydd, sy’n cynnig adnoddau pwrpasol, cyfeirio clir ac yn cynnal ymchwil i ddeall a gwella profiad y myfyrwyr ymhellach. Ar hyn o bryd, mae’n arwain menter AU Cymru gyfan, Researcher Wellbeing Cymru’, drwy ddatblygu platfform llesiant digidol. Cafodd ei gwaith i wella’r amgylchedd ar gyfer ymchwilwyr doethurol ym Met Caerdydd ei gydnabod gyda gwobr ‘Effaith Gymunedol Ymchwilwyr Doethurol y Flwyddyn’ yn 2023. I Jenny, goruchwylio myfyrwyr doethuriaeth yw’r rhan fwyaf buddiol o’i swydd.
Mae ei hymchwil yn cynnwys nifer o ddulliau ansoddol (e.e., dadansoddiad thematig, theori sylfaen, dadansoddiad ffenomenolegol dehongliadol, dyluniadau cyfranogol). Mae allbynnau yn berthnasol i is-ddisgyblaethau iechyd, fforensig, addysg a seicoleg gymdeithasol. Mae ei ffocws ar hyn o bryd ar ddau faes eang o lesiant a phrofiad y myfyrwyr:
Llesiant: y rôl y gall yr awyr agored, cysylltu â natur ac anifeiliaid ei chwarae wrth wella iechyd a llesiant. Mae hi wedi sicrhau cyllid allanol ar gyfer sawl gwerthusiad o fentrau gofal gwyrdd. Jenny yw arweinydd thema ‘Cysylltu â Natur a Mannau Gwyrdd’ o fewn Grŵp Ymchwil Iechyd a Lles y Cyhoedd yn YChGIC.
Profiad y myfyrwyr: ers cwblhau ei hastudiaeth ddoethurol ei hun sy’n dwyn y teitl ‘Access and Beyond: mature students’ transitions into and through higher education’ mae Jenny wedi cynnal diddordeb brwd ym mhrofiad myfyrwyr o addysg uwch. Mae llawer o’i gwaith yn canolbwyntio ar grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol gyda chyhoeddiadau ar ddysgwyr hŷn annhraddodiadol, myfyrwyr rhyngwladol, dynion sy’n astudio seicoleg ac ymchwilwyr doethurol. Mae hi’n Arweinydd Ymchwil Cysylltiedig Seicoleg Gymhwysol YAPhCC mewn Addysg a Lleoliadau Cymunedol.
Yn fwy diweddar mae’r ddau faes hyn wedi uno, gyda ffocws ar lesiant ymhlith ymchwilwyr doethurol, a’r strategaethau maen nhw’n eu defnyddio i ymdopi â straen.
Cyhoeddiadau Ymchwil
Conceptualising space in doctoral education: a meta-ethnographic analysis of research spaces and their impact
Saddington, N., Heggs, D. & Mercer, J., 2 Chwef 2025, Yn: Journal of Further and Higher Education. t. 1-18 18 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
To Seclude or Not to Seclude? Using Grounded Theory to Develop a Model of the Seclusion Decision-Making Process Used by Mental Health Nurses in Forensic Services
Lawrence, D., Stubbings, D., Watt, A. & Mercer, J., 16 Ion 2025, Yn: Issues in Mental Health Nursing. t. 1-12 12 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
130 Promoting health enhancing physical activity through social prescribing in Wales: A delivery and recommendations framework for nature-based wellbeing support programmes
Sellars, P., Crone, D., Mercer, J. & Clayton, D., 26 Medi 2024, Yn: European Journal of Public Health. 34, Supplement_2Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Cyfarfod Abstract › adolygiad gan gymheiriaid
252 Moving with nature: developing guidelines to promote physical activity in nature for those living with mental health problems
Sellars, P., Bennett, A., Crone, D., Mercer, J. & Clayton, D., 26 Medi 2024, Yn: European Journal of Public Health. 34, Supplement_2Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Cyfarfod Abstract › adolygiad gan gymheiriaid
“This place does a lot more than produce milk”: a reflexive thematic analysis of staff experiences of supporting prison dairy workers
Payne, L., McMurran, M., Glennan, C. & Mercer, J., 31 Gorff 2024, Yn: Journal of Forensic Psychiatry and Psychology. 35, 6, t. 853-865 13 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
How understanding Doctoral researchers’ coping strategies can inform Higher Education institutions’ response to their stress
Mercer, J. & Thomas, J., 19 Ion 2024, Yn: Research in Post-Compulsory Education. 29, 1, t. 117-137 21 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
A phenomenological study on the lived experience of men with Chronic Fatigue Syndrome
Snell, G. E., Seage, C. H. & Mercer, J., 17 Gorff 2023, Yn: Journal of Health Psychology. 29, 3, t. 225-237 13 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
The Impact of Working with Farm Animals on People with Offending Histories: A Scoping Review
Payne, L., McMurran, M., Glennan, C. & Mercer, J., 8 Meh 2022, Yn: International Journal of Offender Therapy and Comparative Criminology. 67, 12, t. 1282-1302 21 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
“I feel happier in myself with the dogs”: the perceived impact of a prison animal programme for well-being
Mercer, J., Williams Davies, E., Cook, M. & Bowes, N. J., 10 Chwef 2022, Yn: Journal of Forensic Practice. 24, 2, t. 81-94 14 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Dismissal, distrust, and dismay: A phenomenological exploration of young women’s diagnostic experiences with endometriosis and subsequent support
Wren, G. & Mercer, J., 2 Rhag 2021, Yn: Journal of Health Psychology. 27, 11, t. 2549-2565 17 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid