
Jane Parry
Darlithydd mewn Dulliau Meintiol a Sgiliau Trosglwyddadwy
Ysgol Reoli Caerdydd
Trosolwg
Ymunais ag UWIC (Prifysgol Metropolitan Caerdydd bellach) yn 2001. Rwy'n Ddarlithydd mewn Dulliau Meintiol ac Ystadegau. Ar hyn o bryd fi yw arweinydd y modiwl ar Gyflwyno Dulliau Meintiol ar ein rhaglen sylfaen.
Mae gen i BSc (Anrh) mewn Mathemateg a Daearyddiaeth a TAR mewn Mathemateg. Mae fy mhrofiad addysgu yn amrywio o ysgolion cynradd / uwchradd i Gyllid MBA ac MSc. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio tuag at yr Academi Addysg Uwch (FHEA).
Yn 2015 cefais ganmoliaeth uchel yn y wobr Cymrodoriaeth Addysgu dan Arweiniad Myfyrwyr.