Skip to content
Cardiff Met Logo

James Thie

Uwch Ddarlithydd Hyfforddiant a Pherfformiad Chwaraeon (Athletau)
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Trosolwg

Mae James wedi bod yn aelod o Ysgol Chwaraeon Caerdydd dros gyfnod o 3 degawd; yn gyntaf, fel myfyriwr israddedig ym 1997, cyn dychwelyd fel hyfforddwr yn 2008 a dechrau ar ei astudiaethau ôl-raddedig MA yn 2010. Yn 2011, daeth yn aelod o staff sy'n arbenigo yn ochr perfformiad ymarferol y Modiwl Athletau.

Rhwng ei astudiaethau, mae James wedi cael gyrfa clodriw fel athletwr proffesiynol 1500m. Gydag uchafbwyntiau yn cynnwys gorffen yn y 4ydd safle  ym Mhencampwriaethau Dan Do'r Byd 2004, a chyrraedd rownd derfynol Pencampwriaethau Ewrop ac mae wedi cynrychioli Cymru mewn dwy o Gemau'r Gymanwlad; Melbourne a Delhi. Yn 2014, daeth James yn Hyrwyddwr Meistri'r Byd  ac mae'n dal i gael ei ddefnyddio'n rheolaidd fel sylwebydd digwyddiadau a darlledu ar gyfer  y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol ac Eurosport i enwi ond rhai. 

Mae'r wybodaeth a ddatblygodd o'i yrfa ryngwladol wedi caniatáu i James sefydlu grŵp hyfforddi cynyddol lwyddiannus sy'n cynnwys myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr. Mae'r grŵp hwn wedi ennill cydnabyddiaeth yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.   

Ar ôl 5 mlynedd yn arbenigo mewn cystadlaethau yn gweithio fel Uwch Reolwr Athletau Cymru, gyda’r tair olaf o hyn ochr yn ochr â  Met Caerdydd, mae James bellach yn aelod amser llawn o'r staff ac  yn defnyddio ei brofiad NGB o fewn y modiwlau datblygu chwaraeon.  Mae James hefyd yn Gyd-Arweinydd Modiwl ar SSP4001 Cyflwyniad i Egwyddorion a Thechnegau Cymhwysol mewn Ymarfer Proffesiynol. 

Cyhoeddiadau Ymchwil

Coffee ingestion enhances 1-mile running race performance

Clarke, N. D., Richardson, D. L., Thie, J. & Taylor, R., 1 Gorff 2018, Yn: International Journal of Sports Physiology and Performance. 13, 6, t. 789-794 6 t.

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

Proffil Archwiliwr Ymchwil Visit the research portal