Skip to content
Cardiff Met Logo

James Newman

Darlithydd mewn Adsefydlu Chwaraeon a Thylino
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Trosolwg

Mae James yn ddarlithydd mewn Adsefydlu a Thylino Chwaraeon ar y radd BSc (Anrh) Cyflyru, Adsefydlu a Thylino Chwaraeon (SCRAM) ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Ers graddio yn 2013 gyda gradd BSc (Anrh) Therapi Chwaraeon, mae James wedi datblygu ei astudiaethau drwy gwblhau MSc mewn Adsefydlu Chwaraeon. Dros y blynyddoedd, mae wedi gweithio gyda chlybiau chwaraeon proffesiynol fel Brentford FC, Peterborough United FC a Chlwb Rygbi Saracens. Ymhlith hyn, mae James hefyd wedi datblygu practis clinigol, ers bod yn hunangyflogedig yn Llundain.