
Emma Thayer
Arweinydd Rhaglen: TAR Drama Uwchradd
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Trosolwg
Dechreuais fy ngyrfa fel athro Drama Uwchradd ac AB (Addysg Bellach) wrth berfformio a chyfarwyddo ar yr un pryd mewn cynyrchiadau lled-broffesiynol yng Nghaerdydd. Hyfforddais gyda'r Royal Shakespeare Company mewn partneriaeth â Phrifysgol Warwick am dair blynedd fel rhan o'u Learning and Performance Network, gan ennill Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysgu Shakespeare ar ôl hynny. Trwy'r profiad hwn a hyfforddiant pellach, datblygais hoffter angerddol o Ddrama fel cyfrwng ar gyfer cydlyniant cymunedol. Fe wnes i ddylunio a hwyluso dau brosiect Shakespeare ar raddfa fawr - cynhyrchiad ‘Regional School’s Festival’ o The Merchant of Venice (2012) a 'Shakespeare on Film' (2013). Roedd y prosiectau yma’n cwrdd ag agenda gymunedol ond fe'u cydnabuwyd yn genedlaethol hefyd - rhoddodd y BBC sylw yn y cyfryngau i'r ddau ddigwyddiad a chynhaliwyd y 'Regional Schools Festival’' fel rhan o 'Ŵyl Shakespeare y Byd' mewn cydweithrediad â’r 'Olympiad Diwylliannol', 2012.
Fe’m cyflogwyd fel darlithydd Drama ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ym mis Medi, 2013 a datblygais sawl modiwl israddedig newydd ('Drama as a Cross-curricular Tool for Learning’, ‘Exploring the Teaching of Drama’ ac ‘Other Theatres’) wrth wneud fy MA (Add.), a gwblheais yn 2015. Yn ystod fy ail flwyddyn academaidd yn Met Caerdydd, cefais fy mhenodi’n ymchwilydd i British Council Cymru fel rhan o daith Cymuned Ddysgu Broffesiynol Ryngwladol i Los Angeles, lle bûm i (ynghyd â fy nghyd-gynrychiolwyr o’r proffesiwn addysgu) yn ymchwilio i’r defnydd o’r Celfyddydau o fewn cyd-destun Anghenion Addysgol Arbennig.
Yn 2016 cefais fy mhenodi’n Arweinydd Rhaglen ar gyfer TAR Drama Uwchradd ac ers hynny rwyf wedi parhau i ddatblygu fy mhroffil ymchwil ac ymarfer proffesiynol. Ar hyn o bryd rwy'n cyd-ymchwilio (gyda chydweithwyr TAR eraill) i ddulliau trawsgwricwlaidd o addysgu a dysgu o fewn Addysg Gychwynnol Athrawon mewn ymateb i argymhellion diwygio cwricwlwm Dyfodol Llwyddiannus Donaldson (2015).
Cyhoeddiadau Ymchwil
Integreiddio’r cwricwlwm: yr heriau sy’n wynebu ysgolion cynradd ac uwchradd wrth ddatblygu cwricwlwm newydd yn y celfyddydau mynegiannol
Kneen, J., Breeze, T., Davies-Barnes, S., John, V. & Thayer, E., 11 Mai 2020, Yn: Curriculum Journal. 31, 2, t. e85-e103Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Curriculum integration: the challenges for primary and secondary schools in developing a new curriculum in the expressive arts
Kneen, J., Breeze, T., Davies-Barnes, S., John, V. & Thayer, E., 14 Chwef 2020, Yn: Curriculum Journal. 31, 2, t. 258-275 18 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Emma and Tom Talk Teaching
Breeze, T. & O'Dubhchair, E., Medi 2018Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall