Skip to content
Cardiff Met Logo

Dr Elizabeth English

Uwch Ddarlithydd mewn Saesneg
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Trosolwg

Ymunais â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2014, ar ôl gweithio fel Darlithydd Ymweld yn Royal Holloway a Goldsmiths, Prifysgol Llundain. Derbyniais radd BA mewn Llenyddiaeth Saesneg, MA mewn Moderniaeth ac Awduron Modern, a doethuriaeth mewn Llenyddiaeth Saesneg yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain. Derbyniais gyllid gan AHRB ac AHRC i astudio fy ngraddau ôl-raddedig. Fe wnes i gwblhau fy ymchwil ddoethurol yn 2011 ac roedd yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng ffurfiau diwylliannol poblogaidd a llenyddiaeth lesbaidd mewn perthynas â sensoriaeth lenyddol Brydeinig ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Mae fy monograff cyntaf, Lesbian Modernism: Censorship, Sexuality and Genre Fiction, yn adeiladu ar y gwaith ymchwil hwn ac yn ymchwiliad rhyngddisgyblaethol i effeithiau sensoriaeth llywodraethau ar gynhyrchu llenyddiaeth, gan dynnu ar hanes diwylliannol a chymdeithasol, dyniaethau meddygol, ac astudiaethau cwiar a rhywedd.

Mae’r awydd i ddathlu hanes ysgrifennu gan fenywod a’i berthnasedd i ni heddiw yn ganolog i’m gwaith ymchwil. Mae’n canolbwyntio’n bennaf ar ysgrifennu gan fenywod yr ugeinfed ganrif a’r defnydd o lenyddiaeth i lywio’r cyflyrau gwleidyddol a chymdeithasol cymhleth sy’n gysylltiedig â rhywedd. Mae’n tynnu ar amrywiaeth o ddisgyblaethau i wneud hyn, yn cynnwys dyniaethau meddygol, hanes cymdeithasol a diwylliannol, ac astudiaethau cwiar a rhywedd. Rwyf wedi cyhoeddi nifer o draethodau ac erthyglau ar ddiwylliant a llenyddiaeth yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain, yn cynnwys pynciau fel addysg menywod a ffuglen drosedd, teithio drwy amser cwiar, rhywoleg mewn ffuglen wtopaidd, a bywgraffiadau hanesyddol cwiar menywod. Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ar gasgliad wedi’i olygu o’r enw Interrogating Lesbian Modernism: Histories, Forms, Genres, sydd o dan gontract gydag Edinburgh University Press. Mae’r gyfrol hon yn cyflwyno tair pennod ar ddeg o benodau wedi’u comisiynu o’r newydd sy’n ailasesu ac ymchwilio i ystyron, defnyddiau a chyfyngiadau moderniaeth lesbaidd drwy archwilio amrywiaeth eang o awduron, genres a hanesion. Rwy’n Gyd-Gadeirydd Modernist Network Cymru (https://modernistnetworkcymru.org); rwy’n aelod o fyrddau y Journal of Historical Fictions ac argraffnod ffuglen wyddonol Goldsmiths Press, Gold SF; ac rwyf wedi bod yn adolygydd i Pennsylvania State University Press, University of Florida Press, Journal of the Midwest Modern Language Association, a Journal of Homosexuality. Rwyf wedi trefnu sawl cynhadledd ryngddisgyblaethol ryngwladol a digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd.

Rwy’n croesawu datganiadau o ddiddordeb am ymchwil PhD yn y meysydd uchod.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch fi ar Twitter @E_C_English neu ar Academia.edu.Cardiff

Cyhoeddiadau Ymchwil

Orwell and Katharine Burdekin

English, E., 19 Rhag 2024, The Oxford Handbook of George Orwell. Waddell, N. (gol.). Oxford University Press

Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion CynhadleddPennodadolygiad gan gymheiriaid

Imaginative biography: Margaret Goldsmith, Vita Sackville-West and lesbian historical life writing

English, E., 2 Meh 2023, Interrogating Lesbian Modernism: Histories, Forms, Genres. English, E., Funke, J. & Parker, S. (gol.). Edinburgh University Press, t. 99-119 21 t.

Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion CynhadleddPennodadolygiad gan gymheiriaid

Interrogating Lesbian modernism: Histories, forms, genres

English, E., Funke, J. & Parker, S., 2 Meh 2023, Edinburgh University Press. 313 t.

Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadLlyfradolygiad gan gymheiriaid

Introduction

English, E., Funke, J. & Parker, S., 2 Meh 2023, Interrogating Lesbian Modernism: Histories, Forms, Genres. Edinburgh University Press, t. 1-28 28 t.

Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion CynhadleddRhagair/cyflwyniad

‘Much Learning Hath Made Thee Mad’: Academic Communities, Women’s Education and Crime in Golden Age Detective Fiction

English, E., 26 Maw 2020, Yn: Women: A Cultural Review. 31, 1, t. 23-51 29 t.

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

Tired of London, tired of life: The queer pastoral in The Spell

English, E., 17 Ebr 2017, Sex and Sensibility in the Novels of Alan Hollinghurst. Palgrave Macmillan, t. 95-110 16 t.

Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion CynhadleddPennodadolygiad gan gymheiriaid

Lesbian Modernism: Censorship, Sexuality and Genre Fiction

English, E., 2015, Edinburgh University Press. 224 t.

Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadLlyfradolygiad gan gymheiriaid

Journals and student engagement with literary theory

Eaglestone, R. & English, E., 2013, Yn: English in Education. 47, 1, t. 18-32 15 t.

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

Proffil Archwiliwr Ymchwil Visit the research portal