Skip to content
Cardiff Met Logo

Dr Duncan Cook

Uwch Ddarlithydd mewn Ffotograffiaeth
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd - PhD MA (RCA) PGCE

Trosolwg

Mae Duncan Cook yn Uwch Ddarlithydd yn YGDC ac ar hyn o bryd mae'n arwain y cwrs BA (Anrh) Ffotograffiaeth yn ogystal â chyflwyno'r rhaglen Constellation (hanes a theori). Mae Duncan yn addysgwr ac ymchwilydd profiadol ac wedi addysgu ar gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig mewn nifer o brifysgolion y DU. Ar ôl graddio mewn Celfyddyd Gain yn 1992 bu Duncan yn gweithio mewn therapi celf cyn mynd ymlaen i ddatblygu ei ymarfer dysgu yn y sectorau AB ac Addysg Oedolion. Yno bu'n darlithio ac yn gweithio fel safonwr allanol ar draws ystod o bynciau gan gynnwys HNC/HND a Ffotograffiaeth City and Guilds, Astudiaethau Sylfaen mewn Celf a Dylunio yn ogystal ag Astudiaethau Hanes Celf, y Cyfryngau, Ffilm a Chyfathrebu.

Yn dilyn cyrsiau ôl-raddedig mewn Ffotograffiaeth yn Central Saint Martins a'r Coleg Celf Brenhinol aeth Duncan ymlaen i gynnal Prosiect Ymchwil Doethurol yn yr RCA. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n gweithio fel Tiwtor Cyswllt yn Adran Astudiaethau Beirniadol a Hanesyddol yr RCA a hefyd yn ysgrifennu, addysgu ac arwain cyrsiau BA (Anrh) mewn Celf a Dylunio a Chelfyddydau Digidol a ddilyswyd gan Brifysgol Kingston a Phrifysgol Gorllewin Llundain. Yn fwyaf diweddar mae wedi dysgu ymarfer a theori i fyfyrwyr israddedig ar gyrsiau Ffotograffiaeth Celfyddyd Gain, Ffotograffiaeth Olygyddol a Ffotograffiaeth Fasnachol ym Mhrifysgol Gorllewin Llundain a Phrifysgol Swydd Gaerloyw.

Fel ymchwilydd, ymarferydd a siaradwr gwadd, mae Duncan wedi cyfrannu at nifer o gynadleddau ac arddangosfeydd cenedlaethol a rhyngwladol ar Ffotograffiaeth a Diwylliant Gofodol gan gynnwys y Ganolfan Ymchwil Hanes Ffotograffig, Cymdeithas yr Haneswyr Celf, Ysgol Gelf Slade ac Ysgol Bensaernïaeth Bartlett.