
Dorne Edwards
Dirprwy Gyfarwyddwr ELTC (Dros Gyfnod Mamolaeth
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Trosolwg
Symudais o swydd rheoli busnes yn y sector preifat i Brifysgol Caerdydd ym 1996, lle treuliais lawer o flynyddoedd mewn swyddi rheoli yn cefnogi addysgu, dysgu ac ymchwil. Fe wnes i fwynhau hyfforddi a mentora yn arbennig, ac ar ôl coleddu breuddwyd gydol oes o addysgu Saesneg i oedolion, penderfynais fynd amdani yn 2013.
Ar ôl cwblhau Tystysgrif Caergrawnt mewn Addysgu Saesneg i Oedolion (CELTA) a Pharatoi i Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes (PTLLS) yn llwyddiannus, es ymlaen wedyn i addysgu sgiliau llythrennedd a rhifedd i oedolion yn y gymuned a Sgiliau Saesneg am Oes yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Dechreuais weithio yn yr ELTC yn ystod haf 2014 fel Tiwtor Saesneg achlysurol, ac ymunais â'r tîm craidd y gwanwyn canlynol.
Ym mis Ionawr 2017 deuthum yn Ddirprwy Gyfarwyddwr ELTC (Dros Gyfnod Mamolaeth).