Skip to content
Cardiff Met Logo

Yr Athro Delyth James

Athro Seicoleg Iechyd mewn Ymarfer Fferylliaeth
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Trosolwg

Mae Delyth yn Athro Seicoleg Iechyd mewn Ymarfer Fferylliaeth yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn Is-gadeirydd etholedig Corff Athrawon. Yn ystod ei gyrfa mae Delyth wedi cynhyrchu hyd at £2m mewn incwm grant ar gyfer cynnal gweithgareddau ysgolheictod ac ymchwil.

Mae hi'n fferyllydd cofrestredig gyda dros 20 mlynedd o brofiad o weithio mewn practis clinigol yn Llundain a De-ddwyrain Lloegr. Mae gyrfa academaidd Delyth (yng Nghymru a Lloegr) wedi canolbwyntio ar gydweithio agos â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i wneud gwaith ymchwil gymhwysol ac ymarfer arloesol. Mae ymchwil Delyth yn tynnu ar ddamcaniaeth seicolegol i fynd i'r afael â phroblemau sy'n ganolog i'r ffordd y mae pobl yn defnyddio meddyginiaeth.

Mae hi'n gweithio ar ryngwyneb ystod o ddisgyblaethau eraill fel technoleg ddigidol, celf a dylunio, a ffisioleg i lywio sawl prosiect gwahanol. Mae ganddi ddiddordeb penodol ym meysydd datblygu cyfathrebu gweledol i gefnogi cymryd meddyginiaeth, cynllunio ymyriadau cymhleth mewn gofal iechyd, ac addysgu gweithwyr proffesiynol i gynnal ymgynghoriadau effeithiol i gefnogi newid ymddygiad.

Yn ystod ei gyrfa cyhoeddodd dros 100 o allbynnau a chyflwynodd yn eang mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae'n Olygydd Cyswllt ​i'r​International Journal of Pharmacy Practice, yn aelod o Fwrdd Golygyddol Pharmacy, ac wedi adolygu llawysgrifau i dros ugain o gyfnodolion eraill. Mae Delyth wedi bod yn Is-Gadeirydd ac yn aelod o banel beirniadu a phwyllgorau trefnu Cynhadledd Flynyddol Ymchwil Ymarfer Fferylliaeth y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a Chynhadledd Ymchwil Ymarfer Gwasanaethau Iechyd a Fferylliaeth.

Mae Delyth yn Gymrawd Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr, ac yn Gymrawd yr Awdurdod Addysg Uwch. Mae hi hefyd yn aelod o Gymdeithas Seicolegol Prydain ac Isadran Seicoleg Iechyd. Mae hi'n aelod gweithgar o Bwyllgor Moeseg Ymchwil GIG Cymru a grŵp llywio Ymchwil Fferylliaeth Cymru.

Cyhoeddiadau Ymchwil

Embedding an Illustrator in the Process of Co-Producing Resources to Enhance Communication and Shared Decision-Making for Patients Prescribed High-Risk Medication

Morgan, A. H. & James, D. H., 6 Rhag 2024, Yn: Patient Education and Counseling. 132, t. 108589 108589.

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

A Systematic Review of Symptoms of Pernicious Anemia

Seage, H., Bennett, A., Ward, N., semedo, L., Plattel, C., Suijker, K., Vis, J. & James, D., 10 Gorff 2024, Yn: Food and Nutrition Bulletin. 45, 1_suppl, t. S34-S39

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

Development of a Vitamin B12 deficiency Patient-Reported Outcome Measure for clinical practice and research

Suijker, K. I. M., Plattel, C. H. M., Seage, H., Ward, N., James, D. & Vis, J. Y., 10 Gorff 2024, Yn: Food and Nutrition Bulletin. 45, 1_suppl, t. S73-S79

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

Adherence to Parkinson's disease medication: A case study to illustrate reasons for non-adherence, implications for practice and engaging under-represented participants in research

James, D., Smith, J., Lane, E., Thomas, R., Brown, S. & Seage, H., 17 Mai 2024, Yn: Exploratory Research in Clinical and Social Pharmacy. 14, t. 100450 100450.

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

Using the common-sense model of illness representations to explore individuals’ experiences and perceptions of migraine and its management in the United Kingdom

Seage, C. H., Evans, R., Scott, K. Z., Nazir, W. & James, D. H., 3 Ebr 2024, Yn: International Journal of Pharmacy Practice. 32, 3, t. 223-228 6 t.

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

Can a mock medication-taking learning activity enable pharmacy students to experience the range of barriers and facilitators to medication adherence? An analysis informed by the Theoretical Domains Framework and COM-B model

Mantzourani, E., James, D. H., Akthar, M. A., Brown, S. L., Yemm, R., Lehnbom, E. C., Hanrahan, J. R. & Seage, C. H., 19 Rhag 2023, Yn: Exploratory Research in Clinical and Social Pharmacy. 13, t. 100393 100393.

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

Changing medication-related beliefs: A systematic review and meta-analysis of randomized controlled trials

Sheils, E., Tillett, W., James, D., Brown, S., Dack, C., Family, H. & Chapman, S. C. E., 23 Hyd 2023, Yn: Health Psychology. 43, 3, t. 155-170 16 t.

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

Development of a Questionnaire to Measure Public Perceptions of the Role of Community Pharmacy in Public Health (PubPharmQ)

James, D. H., Rapado, R., Brown, S. L., Kember, J., Hodson, K. L. & Prior, A.-L., 8 Medi 2023, Yn: Pharmacy. 11, 5

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

Using the theoretical domains framework to determine the barriers and facilitators to medication adherence in Parkinson's disease

Smith, J. C., Seage, C. H., Lane, E. & James, D. H., 4 Awst 2023, Yn: Exploratory Research in Clinical and Social Pharmacy. 11, 100309.

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

The Role of Medication Beliefs in COVID-19 Vaccine and Booster Uptake in Healthcare Workers: An Exploratory Study

Dale, C., Seage, C. H., Phillips, R. & James, D., 7 Gorff 2023, Yn: Healthcare (Switzerland). 11, 13, 1967.

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

Proffil Archwiliwr Ymchwil Visit the research portal