
Dallas Collins
Technegydd Arddangoswr Metel
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
- MA (RCA)
Trosolwg
Astudiodd Dallas gerflunwaith yn y Coleg Celf Brenhinol o 1999-2001 a bu'n darlithydd cerflunwaith a chastio efydd yn Chelsea, Llundain, Bryste a Chaerdydd. Ymunodd ag Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn 2006 lle bu'n gweithio i'r adran cerflunwaith celfyddyd gain gan ddysgu myfyrwyr sut i gastio efydd. Fel artist gweithredol, mae wedi cael nifer o arddangosfeydd a sioeau ledled y DU a thramor gan gynnwys Fenis, Norwy, UDA, Canada a Japan. Cyrhaeddodd Dallas restr fer gwobr cerflunwaith Jerwood yn 2007 ac yn 2010 helpodd i sefydlu cydweithfa artistiaid a gyrhaeddodd y rhestr fer i gynrychioli Cymru yn 54ain Biennale Fenis. Ymunodd Dallas â'r RWA yn 2016 fel artist rhwydwaith a chafodd ei ethol yn Academydd ac yn aelod o gyngor RWA yn 2018. Yn y flwyddyn hon hefyd fe'i dewiswyd yn aelod o Gymdeithas Frenhinol y Cerflunwyr. Yn 2020 ymunodd Dallas â Bwrdd Ymddiriedolwyr yr RWA. Mae bellach yn byw yn Ne Swydd Gaerloyw ac yn gweithio o'i stiwdio ym Mryste.
Mae ei ymarfer ei hun yn archwilio natur gwrthrychau a sut y gall gwyddoniaeth, ffuglen wyddonol a chelf ddod yn gydweithrediad o ddiddordeb cyffredin a all ddatgelu safbwyntiau cyflenwol ar gwestiynau natur, gofod, amser ac entropi.