
Yr Athro Clive Cazeaux
Athro Estheteg
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
- BA MA PhD
Trosolwg
Astudiais Gelf Gain yng Ngholeg Goldsmiths, Prifysgol Llundain (1984-87), a'r cwestiynau y deuthum ar eu traws yno ynghylch natur cynrychiolaeth mewn lluniadu a'm harweiniodd at Athroniaeth. Caniataodd MA mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd imi leoli'r cwestiynau hyn yn theori gwybodaeth Kant (1989-90), a braenaru'r tir ar gyfer fy astudiaeth PhD — yn y Technische Universität, Berlin (1992), ac ym Mhrifysgol Caerdydd (1990-95) — ar sut y gall damcaniaethau diweddar trosiad mewn celf a gwyddoniaeth fod wedi'i lywio gan athroniaeth Kantian.
Ym 1995 cefais fy mhenodi'n Ddarlithydd mewn Athroniaeth yn Sefydliad Celf a Dylunio Birmingham, rhan o Brifysgol Canol Lloegr fel yr oedd bryd hynny. Ymgymerais ag Uwch Ddarlithyddiaeth mewn Estheteg yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd, flwyddyn yn ddiweddarach. O 2003 roeddwn yn Arweinydd Rhaglen BA Celf ac Athroniaeth, a rhwng 2007 a 2016 roeddwn yn Bennaeth Graddau Ymchwil yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. Deuthum yn Athro Estheteg yn 2012.