
Christa Haworth
Tîm Academaidd sy'n Arwain Hyfforddi a Dadansoddi Addysg Gorfforol Chwaraeon
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Trosolwg
Mae Christa yn Brif Ddarlithydd yn Ysgol Chwaraeon Caerdydd. Ymunodd â’r Ysgol ym 1993 ar ôl treulio nifer o flynyddoedd yn dysgu Addysg Gorfforol mewn ysgol uwchradd yng Nghaerdydd.
Ar hyn o bryd Christa yw Cyfarwyddwr Rhaglenni Academaidd Ysgol Chwaraeon Caerdydd ac mae'n gyfrifol am reolaeth weithredol yr holl raglenni academaidd a gynigir yn yr Ysgol. Mae hi'n gweithio gyda'r Cydlynwyr yn yr Ysgol i sicrhau cysondeb systemau a gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â chyflwyniad academaidd, asesu, rheoli a sicrhau ansawdd a gwella ansawdd yr holl raglenni a addysgir yn yr Ysgol.
Mae hi'n chwarae rhan allweddol wrth lywio’r rhaglen datblygu staff ar draws yr ysgol. Mae ei haddysgu israddedig yn canolbwyntio ar Addysg Gorfforol ac Addysg Hyfforddwyr Campau Dŵr.