
Charlotte O’Leary
Darlithydd mewn Addysg i Athrawon a Dysgu Proffesiynol
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Trosolwg
Ar ôl graddio gydag Anrhydedd Dosbarth 1af mewn Saesneg ac Astudiaethau Cyfryngau o Goleg Celfyddydau Falmouth (Prifysgol Falmouth bellach) yn 2004, cwblhaodd Charlotte Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon Ysgol-ganolog, gan ennill Statws Athro Cymwysedig yn 2006. Bu Charlotte yn addysgu ar draws yr ystod oedran Cynradd yn Lloegr a De Cymru, gan gymryd cyfrifoldeb arweinyddiaeth pynciau ar gyfer nifer o ddisgyblaethau. Yn 2017, dyfarnwyd Statws Arweinydd Addysg Arbenigol i Charlotte gan y Coleg Cenedlaethol Addysgu ac Arweinyddiaeth a oedd yn cydnabod ei rôl fel ymarferydd Gwella Ysgolion arbenigol mewn llythrennedd cynnar, darllen a ffoneg.
Yn 2017, dyfarnwyd MA mewn Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMH) i Charlotte o Brifysgol De Cymru; canolbwynt hwn oedd archwiliad o'r berthynas rhwng dyhead, cyrhaeddiad ac ymgysylltiad rhieni mewn ysgolion cynradd. Mae Charlotte wedi cwblhau’r dyfarniad Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) a chyn hynny bu’n gweithio fel Pennaeth yng Nghernyw cyn symud i Dde Cymru.
Penodwyd Charlotte yn ddarlithydd ym Met Caerdydd yn 2022. Mae Charlotte yn dysgu ar raglenni BA SAC Cynradd a TAR.