
Ceri James
Uwch Ddarlithydd mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Trosolwg
Dechreuais fy ngyrfa mewn gwaith ieuenctid a chymuned yng Nghaerdydd yn 1988 fel gweithiwr allgymorth cymunedol, cyn mynd ymlaen i weithio gyda phobl ifanc ddigartref. Es i fyw yn Llundain yn 1991 er mwyn astudio ar gyfer fy nghymhwyster proffesiynol mewn gwaith ieuenctid a chymuned. Yna, treuliais bedair blynedd ar hugain yn Llundain yn gweithio mewn nifer o fwrdeistrefi yng nghanol Llundain, mewn rolau uwch-ymarferydd ac uwch reolwr mewn amrywiaeth eang o wasanaethau gwaith ieuenctid a chymuned. Roeddwn yn Swyddog Hyfforddi llawn amser am wyth mlynedd a bum yn addysgu ar lefel AU am bedair blynedd ar raglenni israddedig gwaith ieuenctid a chymuned yng Ngholeg Eglwys Crist Caergaint. Roeddwn yn arholwr allanol ar gyfer rhaglen BA Anrh gwaith ieuenctid a chymuned Prifysgol Metropolitan Llundain am dair blynedd ac yn aelod o'r Panel NYA ar gyfer cymeradwyo rhaglenni BA Gwaith Ieuenctid a Chymuned am bedair blynedd. Mae gen i Dip HE a gradd BA anrh mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned, cymhwyster lefel 6 Rheoli Gwasanaethau Integredig y Sefydliad Rheolaeth Siartredig, Diploma Ôl-raddedig mewn Gwaith Ieuenctid a Datblygu Cymunedol a MA mewn Addysg. Dychwelais i Gaerdydd yn haf 2014 i swydd ddarlithio ym Met Caerdydd, yn dysgu ar y rhaglen israddedig Gwaith Ieuenctid a Chymuned a'r Diploma Ôl-radd mewn Datblygu Cymunedol a Gwaith Ieuenctid.