
Dr Cecilia Hannigan-Davies
Dirprwy Ddeon Addysg a Pholisi Cymdeithasol
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Trosolwg
Cefais fy ngeni a'm haddysgu yng Ngweriniaeth Iwerddon, ac rwyf wedi bod yn academydd ers dros 30 mlynedd. Ymhlith llawer o gymwysterau proffesiynol, mae gen i Radd Baglor Anrhydedd mewn Addysg o Goleg St Patrick, Dulyn, Gradd Meistr mewn Cyfrifiadureg a Chymwysiadau o Brifysgol Queen’s, Belffast yn ogystal â Doethuriaeth mewn Cyfrifiadureg (Systemau Tiwtora Deallus Amlgyfrwng) o Brifysgol Ulster. Rwyf wedi cyhoeddi sawl papur mewn cyfnodolion rhyngwladol a thrafodion cynadleddau ar bwnc dysgu drwy dechnoleg, ac wedi bod yn siaradwr ac yn gyflwynydd arfer gorau mewn llawer o gynadleddau a gweithdai rhyngwladol yn yr UDA ac Ewrop.
Rwy'n Weithiwr Proffesiynol TG Siartredig gyda Chymdeithas Gyfrifiaduron Prydain, statws sy'n dangos cymhwysedd ac ymrwymiad i wybod y diweddaraf ynglŷn â hyrwyddo gwybodaeth a disgwyliadau a gofynion cynyddol y proffesiwn technoleg gwybodaeth. Yn ogystal, rwy'n Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac yn Aelod o'r Gymdeithas Rheoli Prosiectau.
Fel Prif Ddarlithydd mewn Addysg yn Ysgol Addysg Prifysgol Metropolitan Caerdydd, roeddwn yn Gyfarwyddwr Rhaglen y Fframwaith Datblygiad Proffesiynol Parhaus Ôl-raddedig mewn Addysg rhwng Medi 2008 a Medi 2015. Ym mis Ionawr 2015 ymgymerais â rôl Cydlynydd Dysgu, Addysgu ac Asesu ar gyfer yr Ysgol Addysg. Mae gen i hefyd rôl Ansawdd a Safonau Dirprwy Ddeon Cydweithredol rhwng Ionawr a Mehefin 2017.
Yn flaenorol, treuliais 15 mlynedd gyda Phrifysgol Ulster. Roedd fy rôl academaidd ddiweddaraf yn Ulster, yn eu rhith gampws, Campus One, yn cynnwys cyfrifoldeb am ddatblygu staff a chysylltu â chyfadrannau mewn perthynas â dysgu ar-lein. Roedd fy rôl o bwysigrwydd strategol wrth gyflawni nod Campus One o ddarparu dull cyfannol o ddatblygu cyrsiau e-ddysgu o ansawdd. Cyn hyn, treuliais dair blynedd yn darlithio myfyrwyr ôl-raddedig mewn rheoli prosiect gyda Chyfadran Peirianneg Prifysgol Ulster, dros ddwy flynedd fel datblygwr deunyddiau cwrs ar y Rhaglen Technoleg Addysgu a Dysgu (TLTP) ym Mhrifysgol Queen’s, Belffast, a saith mlynedd fel athrawes ysgol gynradd yng Ngweriniaeth Iwerddon.
Cyhoeddiadau Ymchwil
A Research Informed Approach to Initial Teacher Education in Wales: Intentions, Examples and Reflections
Harris, A., Jones, M., Furlong, J., Griffiths, J. & Hannigan-Davies, C., 6 Awst 2021, Teacher Education Policy and Research: Global Perspectives. Springer International Publishing, t. 195-208 14 t.Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
The reform of initial teacher education in Wales: from vision to reality
Furlong, J., Griffiths, J., Hannigan-Davies, C., Harris, A. & Jones, M., 2 Maw 2021, Yn: Oxford Review of Education. 47, 1, t. 61-78 18 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid