
Cameron Stewart
Uwch Ddarlithydd Addysg Athrawon a Dysgu Proffesiynol mewn Mathemateg Uwchradd
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Trosolwg
Graddiodd Cameron gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Peirianneg Fecanyddol (MEng) o Brifysgol Caerdydd yn 2002. Cwblhaodd ei TAR mewn Mathemateg Uwchradd yn UWIC (Prifysgol Metropolitan Caerdydd erbyn hyn) yn 2003 ac aeth ymlaen i ddysgu mathemateg am 14 mlynedd ar draws tair ysgol uwchradd yn Ne Cymru. Drwy gydol ei yrfa addysgu, cyflawnod nifer o swyddi arwain llwyddiannus cyn ymuno â gwasanaeth gwella ysgolion Consortiwm Canolbarth y De (CSCJES) yn 2017 fel Arbenigwr Pwnc Mathemateg. Yn ddiweddarach symudodd ymlaen i rôl Cynghorydd Strategol ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Yn 2008, cwblhaodd Cameron ei radd Meistr.
Yn dilyn ei benodiad yn Uwch Ddarlithydd ar y rhaglenni TAR Uwchradd, TAR Cynradd, a BA Addysg Gynradd (gyda SAC) yn Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd, cafodd Cameron ei enwi’n Arweinydd Rhaglen TAR Uwchradd Mathemateg yn 2020. Yn 2021, penodwyd Cameron yn Arweinydd AGA ar gyfer Cyfathrebu, Recriwtio a Chadw o fewn tîm Arwain a Rheoli AGA. Cydnabuwyd ei gyfraniadau arweinyddiaeth ymhellach yn 2023 pan gafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Addysg Gychwynnol Athrawon (Ymgysylltu â Myfyrwyr) ar gyfer Partneriaeth AGA Caerdydd. Yn 2021, fe’i hanrhydeddwyd yn ‘Ddarlithydd Ysgol y Flwyddyn’ Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd.
Chwaraeodd Cameron rôl ganolog yn arwain Partneriaeth Caerdydd ar gyfer AGA drwy arolygiad llwyddiannus gan Estyn yn 2022, yn ogystal â sicrhau bod ei holl raglenni AGA yn cael eu hailachredu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn 2024.
Y tu hwnt i arweinyddiaeth, mae Cameron wedi’i fuddsoddi’n ddwfn mewn addysgu a dysgu mathemateg, datblygu mentoriaid, a recriwtio athrawon. Mae wedi cyfrannu at nifer o brosiectau a ariennir mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, Addysgwyr Cymru, a chonsortia rhanbarthol o fewn y meysydd hyn. Fel eiriolwr profiadol dros addysg, mae wedi cynrychioli Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol. Ar hyn o bryd, mae’n ymgymryd â doethuriaeth broffesiynol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Yn ogystal â'i waith ym myd addysg a mathemateg, mae Cameron yn gerddor perfformio angerddol, yn lleisydd, ac yn gynhyrchydd sain sy’n cyfrannu at gynyrchiadau radio, teledu a byw.