
Bethan Willicombe
Arddangoswr Technegydd (Dylunio Ffasiwn)
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
- BA
Trosolwg
Yna penderfynodd Bethan fynd i fyd gwisgoedd lle bu'n gweithio i Angels the Costumiers, sy'n adnabyddus yn fyd eang fel Cwmni Darparu Gwisgoedd i'r diwydiant adloniant. Unwaith eto, gan ymuno â'u hadran gynhyrchu bu'n gweithio ar wahanol brosiectau ar gyfer Ffilm, Teledu a Theatr.
Gan weithio ochr yn ochr â nifer o ddylunwyr Gwisgoedd a enillodd Oscar megis Sandy Powell, Janty Yates, John Mollo, Deborah Scott a Lindy Hemming datblygodd cariad Bethan at sylw i fanylion. Cafodd gyfle i weithio ar gynyrchiadau anhygoel, Gangs of New York, Enemy at the Gate, The Patriot, Hornblower i enwi dim ond rhai. Bu Bethan yn dylunio'r merched blodau/morwynion ar gyfer priodas Victoria Beckham ac mae'n debyg mai un o'r uchafbwyntiau oedd mesur traed Ioan Gruffydd ar gyfer y gyfres Hornblower!!!
Ar ôl dychwelyd adref a dechrau teulu, aeth Bethan i mewn i'r sector Addysg Bellach lle mae wrth ei bodd yn trosglwyddo ei sgiliau drwy Dorri Patrwm Creadigol ac adeiladu Dillad. Mae Bethan yn mwynhau diweddaru ei sgiliau er mwyn cadw i fyny â’r diwydiant yn gyson. Mae gweithio gyda myfyrwyr a'u gweld yn datblygu'n ddylunwyr llwyddiannus yn bwysig iawn iddi.