
Dr Anna Stembridge
Uwch Ddarlithydd
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Trosolwg
Mae ymrwymiad Anna at ragoriaeth wedi llywio, cymell a siapio ei hathroniaeth o fewn ei gwaith, ac yn ymestyn hefyd i’w bywyd tu hwnt i’r gwaith. Mae’n angerddol dros bobl, dros ferched ym myd chwaraeon a thros arweinyddiaeth. Mae ei sgiliau cyfathrebu cryf, ei brwdfrydedd a’i hawydd i sicrhau ‘rhagoriaeth’ wedi’i symbylu i geisio creu diwylliant ‘tîm’ sy’n gwerthfawrogi ac yn ysgogi systemau sy’n cyfoethogi profiadau’r dysgwyr a’r timau.
Fel Uwch Ddarlithydd, mae wedi gwneud cyfraniad sylweddol i faes hyfforddiant chwaraeon ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, yn ogystal â’r modiwlau perfformiad ym maes pêl-rwyd. Yn ystod ei chyfnod gyda’r ysgol chwaraeon, mae Anna hefyd wedi darparu ystod o wasanaethau ymgynghorol i athletwyr, hyfforddwyr a Chyrff Rheoli Cenedlaethol. Treuliodd gyfnod arbennig o dair blynedd a hanner ar secondiad gyda England Netball fel Prif Hyfforddwr y Tîm Cenedlaethol.
Fel cyn Prif Hyfforddwr a chyn athletwraig ryngwladol, mae Anna yn gallu cyfleu gofynion chwaraeon ar lefel perfformiad uchel a sut i ddelio gyda chyfnodau heriol. Mae’n cynnig gwybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarferol o fewn yr amgylchedd elît hwn sy’n berthnasol i brofiad y myfyrwyr ond hefyd i feysydd proffesiynol eraill fel busnes, addysg a rheolaeth.
Mae Anna ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer gradd PhD sy’n seiliedig ar fethodoleg awtoethnograffeg, gan ddefnyddio ymarfer myfyriol ar berfformiad critigol a phrofiad bywyd, i archwilio’r prosesau a’r profiadau dysgu sy’n helpu hyfforddwyr i ymdopi’n well gyda gofynion perfformiad y byd hyfforddi elît.
Mae’r ffaith bod Anna wedi cael ei dewis i gymryd rhan yn Rhaglen Hyfforddwyr Elît UK Sport yn dyst i’w gwaith caled, ei phenderfyniad a’i hymrwymiad i hyfforddiant ac arweinyddiaeth yn y DU. Mae’r rhaglen arbennig hon wedi rhoi cyfleoedd unigryw iddi fanteisio ar arbenigedd, technoleg a phrofiadau o’r radd flaenaf, yn ogystal â bodloni gofynion yr hyfforddwr a’r gamp unigol.