
Alastair Tomlinson
Prif Ddarlithydd mewn Gwyddorau Amgylcheddol
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Trosolwg
Cefndir proffesiynol Alastair yw rhyngwyneb iechyd yr amgylchedd ac ymarfer iechyd cyhoeddus. Yn ystod ei yrfa mewn llywodraeth leol deliodd â llygredd sŵn, rheoli clefydau trosglwyddadwy, gwella iechyd a pholisi a strategaeth iechyd yr amgylchedd. Arweiniodd Alastair grŵp partneriaeth Cymru-gyfan o awdurdodau lleol gan sefydlu lleoedd cyhoeddus di-fwg yn llwyddiannus, a datblygodd becyn datblygu sefydliadol i adeiladu ar y potensial i wella iechyd mewn awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae ganddo radd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus o Brifysgol Caerdydd, a Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysgu mewn Addysg Uwch o Fet Caerdydd.
Cyhoeddiadau Ymchwil
Using staged teaching and assessment approaches to facilitate inter-university collaboration and problem-based learning
Dawson, H., Davis, G., Ross, K., Miller, M. V. & Tomlinson, A., 11 Maw 2024, Yn: Frontiers in Public Health. 12, t. 1334729 1334729.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid