Skip to content
Cardiff Met Logo

Adeline Miles

Uwch Ddarlithydd mewn Adsefydlu ac Anafiadau Chwaraeon
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd

Trosolwg

Mae Adeline yn Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Chwaraeon Caerdydd ac mae ganddi rôl allweddol wrth ddarparu elfen adfer y gradd Tylino, Adfer a Chyflyru ar gyfer Chwaraeon (SCRaM ).  Mae hi hefyd yn ymarfer fel Ffisiotherapydd yng Nghanolfan Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Caerdydd sy'n ei galluogi i gynnal a datblygu ei sgiliau clinigol a'i chymhwysedd, ac yn llywio ei rôl academaidd trwy gyflwyno'r arfer mwyaf cyfredol, wedi'i seilio ar dystiolaeth i'w myfyrwyr.