Skip to content

Rheoli - Meistr mewn Ymchwil (MRes)

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Mae’r cwrs hwn yn darparu ar gyfer astudiaeth ymchwil uwch ym maes Rheoli. Ei nod yw rhoi mewnwelediadau allweddol i ddarpar reolwyr ac arbenigwyr busnes mewn theori ac ymarfer ymchwil o fewn y ddisgyblaeth reoli. Yn benodol, amcanion y cwrs hwn yw:

  1. Darparu hyfforddiant sylfaen mewn sgiliau ymchwil sylfaenol ac uwch sy’n ddigonol i fynd i mewn i raglen Ddoethurol. Mae’r rhaglen hefyd yn addas i ymgeiswyr sydd efallai’n dymuno cael gradd ymchwil, ond nad ydynt am ymrwymo i gyfnod hirach o astudio.
  2. Datblygu ymarfer ymchwil a theori rheoli (cysyniadol, methodolegol, ymarferol a moesegol) ar lefel broffesiynol ac academaidd.
  3. Darparu cyd-destun rhyngddisgyblaethol i ymchwil, gan gael cefnogaeth gan amrywiaeth o gyd-destunau technegol, academaidd a disgyblaeth.
  4. Datblygu a chymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth allweddol o theori Rheoli ac ymarfer ymchwil i systemau cymhleth, yn systematig ac yn greadigol, i wella arferion rheoli.
  5. Gwella sgiliau dysgu annibynnol a lefel uchel a datblygiad personol ymwybyddiaeth feirniadol o derfynau gwahanol dechnegau ymchwil drwy fodiwlau a dadleuon a addysgir) fel bod ymchwilwyr yn gallu gweithio gyda hunan-gyfeiriad a gwreiddioldeb a chyfrannu at y ddisgyblaeth reoli.

Bydd myfyrwyr yn astudio 180 credyd o astudiaethau arbenigol mewn amrywiaeth o bynciau Rheoli. Mae’r cwrs yn cynnwys 80 credyd o astudio trwy gwrs, ac yna traethawd ymchwil 100 credyd sy’n seiliedig ar ymchwil.

Bydd y modiwlau canlynol yn cael eu hastudio:

  • 3 x modiwl disgyblaeth-benodol 20 credyd a ddewisir o’n portffolio meistr presennol (60 credydau)
  • ASR7001 Ymarfer Ymchwil (20 credydau)
  • Traethawd Ymchwil (100 credydau)

Dyfernir yr MRes ar ôl cwblhau’r holl elfennau a addysgir yn llwyddiannus yn ogystal â chyflwyno Traethawd Ymchwil 25,000 o eiriau.

Y pwynt ymadael ar gyfer y rhaglen hon fydd y Dystysgrif Ôl-Raddedig a enillir drwy gwblhau 60 credyd astudio yn llwyddiannus o raglen meistr gymeradwy yn y Brifysgol.

Defnyddir darlithoedd safonol i alluogi gwybodaeth graidd a deall cynnwys i gael eu cyflwyno i garfan gyfan y modiwl. Ategir hyn gyda seminariaid/gweithdai i ganiatáu archwilio pob agwedd ar gynnwys modiwl (gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau a nodweddion eraill) mewn lleoliad grŵp rhyngweithiol ac ymwthiol. Mae’r rhaglen yn cynnwys goruchwyliaeth un-i-un helaeth i drafod a chyd-destunu’r damcaniaethau a addysgir gyda syniadau myfyrwyr ar sut y bydd eu prosiectau ymchwil yn datblygu. Cefnogir hyn drwy’r VLE Moodle, sy’n darparu mynediad at ddeunyddiau allweddol, taflenni a phapurau ymchwil.

Bydd y traethawd ymchwil yn annog myfyrwyr i weithio o fewn sefydliadau er mwyn cymhwyso eu gwaith ymchwil mewn lleoliad go iawn. Disgwylir i fyfyrwyr rhan-amser gymhwyso eu hymchwil yn eu gweithle fel y bydd cwmnïau’n elwa ar y buddsoddiad a wnaed i fynychu’r cwrs.

Bydd angen cryn dipyn o waith gan y myfyrwyr drwy ddysgu annibynnol a hunan-astudio. Mae astudiaeth o’r fath yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o gysyniadau y modiwl yn annibynnol ac i gwblhau ymarferion ffurfiannol a chyfansymiol.

Bydd Cyfarwyddwr Rhaglen y cwrs yn darparu arweiniad a chyfeiriad strategol yn ystod elfen a addysgir y cwrs. Bydd ef/hi ar gael i bob myfyriwr sydd â phroblemau penodol yn ymwneud â chynnwys a strwythur y cwrs. Bydd Goruchwyliwr hefyd yn cael ei ddyrannu i bob myfyriwr ar ddechrau’r rhaglen. Disgwylir i fyfyrwyr gysylltu â’u Goruchwyliwr yn ystod yr elfen a addysgir, a’i chadw’n ymwybodol o’r cynnydd drwy ‘gyfarfodydd adolygu carreg filltir’ rheolaidd.

Mae pob asesiad modiwl 20 credyd a addysgir yn yr Ysgol yn seiliedig ar 4,000 o eiriau neu gyfwerth. Mae dulliau asesu wedi’u cynllunio i roi cyfle i fyfyrwyr ddangos eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o faterion ymarfer damcaniaethol, cymhwysol a phroffesiynol ac maent yn cynnwys traethodau gwaith cwrs, adroddiadau ymchwil, cyflwyniadau a beirniadaeth.

Mae’r modiwl Traethawd Hir Ymchwil 100 credyd (RES7000) yn cynnwys cynhyrchu traethawd hir ymchwil 16,000 o eiriau a 4,000 o eiriau Adroddiad Ymarfer Myfyriol. Caiff y traethawd hir ei brofi drwy arholiad viva voce.

Disgwylir y bydd llawer o raddedigion o’r cwrs hwn yn mynd ymlaen i ymgymryd â rhaglenni gradd ymchwil a chael swyddi uwch o fewn ystod o fusnesau fel rheolwyr/cyfarwyddwyr.

Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio ar gyfer graddedigion o amrywiaeth o ddisgyblaethau gwahanol. Mae’r gofynion mynediad penodol yn cynnwys:

  • Gradd anrhydedd (2.2 dosbarth neu uwch) mewn disgyblaeth berthnasol
  • Bydd ymgeiswyr sydd â phrofiad gwaith eithriadol a helaeth mewn rolau rheoli hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer mynediad i’r rhaglen

Ymgeiswyr Rhyngwladol:

Bydd angen i fyfyrwyr nad yw eu hiaith gyntaf yn Saesneg ddarparu tystiolaeth o rhuglder i safon IELTS 6.5 o leiaf (gydag o leiaf 6.5 yn y cydrannau Darllen ac Ysgrifennu) neu gyfwerth. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Saesneg, ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Gweithdrefn Ddethol:

Fel arfer, caiff myfyrwyr eu dewis ar sail:

  • ffurflen gais wedi’i chwblhau’n llawn
  • cynnig ymchwil 2000 gair sy’n amlinellu eu maes ymchwil
  • cwricwlwm vitae

Gofynnir i ymgeiswyr ddod i gyfweliad os yw’r cynnig ymchwil a’r cam ymgeisio yn dderbyniol. Gellir cynnal cyfweliadau drwy Skype neu ffôn gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen a Chydlynydd Astudiaethau Graddedig cyn gwneud unrhyw gynnig.

Sut i Wneud Cais:

Dylid gwneud ceisiadau am y cwrs hwn yn uniongyrchol i’r Brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasaneth. Am wybodaeth bellach ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais.

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd gan sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a/neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs ym Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ynghyd â gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y dudalen RPL.

Ar gyfer ymholiadau cwrs penodol, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen, yr Athro Mark Francis:

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.

  • Lleoliad

    Campws Llandaf

  • Ysgol

    Ysgol Reoli Caerdydd

  • Hyd

    12-16 mis.