Mae rhaglen TAR TGCh a Chyfrifiadura Met Caerdydd yn cynnig hyfforddiant a chymorth ymchwil blaenllaw a fydd yn eich galluogi i ffynnu yn ein hysgolion Partneriaeth Caerdydd rhagorol. Byddwch yn datblygu cymwyseddau addysgu yn yr ystafell ddosbarth mewn perthynas â chynllunio, addysgu ac asesu yn eich pwnc. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o natur a phwrpas y cwricwlwm Cyfrifiadura a sut y gellir ei gyflwyno’n llwyddiannus i ddisgyblion 11 i 18 oed.
Mae gan athrawon cyfrifiadureg gyfle i rymuso’r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr. Mae’n gofyn am ymrwymiad, angerdd at y pwnc a dealltwriaeth fanwl o’r addysgeg sy’n eich galluogi i wella a datblygu dealltwriaeth dysgwr ifanc o’r pwnc anhygoel hwn. Nid yn unig hynny, ond bydd disgwyl i chi hefyd fod yn esiampl gadarnhaol a chefnogi dysgwyr i oresgyn unrhyw heriau a allai fod wedi datblygu o’u profiadau blaenorol o’r pwnc.
Gwybodaeth Allweddol
- Ar gael i’w astudio yn y Gymraeg a’r Saesneg
- 1 flwyddyn yn llawn amser
- Bwrsariaeth Cymhelliant ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth
- Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory
- Bwrsariaeth i Gadw Athrawon Cymraeg mewn Addysg
Ar gyfer gofynion mynediad, profion cyn mynediad a sut i ymgeisio, ewch i dudalen y cwrs TAR Uwchradd.