Ynglŷn â’r TAR Saesneg
Pan fyddwch yn astudio TAR Uwchradd Saesneg ym Met Caerdydd, byddwch yn archwilio ffyrdd arloesol o ddod â’ch cariad eich hun at ddarllen a llenyddiaeth, ysgrifennu a llefaredd at y bobl ifanc rydych chi’n gweithio â nhw. Bydd ein cwrs ym Met Caerdydd yn eich paratoi i ateb gofynion addysgu pwnc craidd yn y sector Uwchradd. Mae eich cynnydd tuag at SAC yn ganolog i ddylunio’r cwrs drwy ganolbwyntio ar addysgu rhyngweithiol, arloesol fydd yn eich paratoi i gymryd eich camau cyntaf mewn lleoliadau ysgol ac am hirhoedledd mewn gyrfa addysgu hynod werthfawr (ac weithiau’n heriol!).
Enw Da a Rhagoriaeth Addysgu
Mae’r cwrs wedi ffynnu yn ystod y blynyddoedd diwethaf trwy gyflwyno rhaglenni arloesol, hybrid ond mae dychwelyd i ddarparu’n llawn amser, ar ddarpariaeth campws yn golygu y byddwch yn elwa o ymgysylltu â thiwtoriaid a chyfoedion mewn lleoliad wyneb yn wyneb trwy gydol y flwyddyn. Mae ein tiwtoriaid Saesneg arbenigol, sydd â chefndiroedd addysgu Uwchradd ac Addysg Bellach, yn deall gofynion ymarfer yn yr ystafell ddosbarth. Byddant yn gweithio’n agos gyda chi i ddatblygu eich sgiliau a’ch profiadau yn yr ystafell ddosbarth Uwchradd Saesneg. Byddant yn eich tywys wrth i chi gynllunio, gwerthuso a mireinio eich addysgu. Rydym yn ffodus o gael perthynas waith ardderchog gyda chydweithwyr mewn Ysgolion Partneriaeth a myfyrwyr y gorffennol fel ei gilydd. Mae ymchwil ac ymholiad wrth wraidd ein rhaglen a bydd yn dod yn rhan annatod o’ch addysgu gwybodus eich hun am ymchwil. Mae ein mentoriaid pwnc Saesneg yn brofiadol iawn a byddant yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd drwy gydol eich blwyddyn hyfforddi.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Rydym ni’n cadw cysylltiadau agos gyda’n graddedigion, gyda llawer ohonynt yn dychwelyd i’r cwrs yn aml i gyfrannu mewn capasiti proffesiynol a sesiynau arweiniol yn eu harbenigeddau pwnc. Mae bron pob un o raddedigion y rhaglen TAR Uwchardd Saesneg yn symud i gyflogaeth lawn amser, naill ai mewn addysgu yn yr ystafell ddosbarth neu feysydd sydd â chysylltiad agos. Mae gan Met Caerdydd hanes hir o ragoriaeth ym maes addysg athrawon ac mae’r rhagolygon gyrfa ar ôl cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannu yn hynod gadarnhaol.
Beth yw’r ffordd orau o baratoi ar gyfer astudio cwrs TAR yn Saesneg?
Mae yna sawl peth y gallwch chi ei wneud i baratoi ar gyfer astudio TAR Saesneg:
- Archwilio cyfleoedd am brofiad yn yr ystafell ddosbarth cyn i chi ymgeisio. Byddai profiad yn yr ystafell ddosbarth Saesneg Uwchradd yn well, ond efallai na fydd hyn yn bosibl ac y byddwch am ddarganfod mwy am yr ystafell ddosbarth Gynradd er mwyn cymharu a darganfod pa un sydd orau gennych.
- Siarad ag ymarferwyr yn eich maes pwnc i gael gwybod mwy am rôl athro Saesneg mewn lleoliad Uwchradd. Bydd hyn rhoi gwybodaeth gwerthfawr i chi a bydd yn rhoi cyfle i chi ofyn am ymarfer ac addysgeg, a chael gwybodaeth y gallwch ei chyflwyno yn ystod eich cyfweliad am le ar y rhaglen.
- Ystyried eich gwybodaeth pwnc Saesneg – pa destunau rydych chi wedi mwynhau eu hastudio a pham? A oes unrhyw feysydd iaith neu lenyddiaeth sy’n eich herio ac a hoffech adolygu neu ailedrych arnynt?
- Archwilio gwefan CBAC ar gyfer gwybodaeth am fanylebau TGAU ac UG/Safon Uwch. Ceisiwch ddarganfod pa destunau naratif a barddoniaeth sy’n cael eu defnyddio ar bob lefel ac archwilio’r rhestrau darllen i gael gwybod eich barn chi am y testunau hyn.
- Ystyried y rhesymau pam rydych wedi dewis dysgu Saesneg. Wnaethoch chi fwynhau Saesneg yn ystod eich amser yn yr ysgol neu oedd eich athro Saesneg yn ysbrydoliaeth i chi? Ydych chi wedi astudio’r Saesneg o safbwynt academaidd a nawr yn dymuno gweithio gyda phobl ifanc er mwyn sbarduno’r un angerdd ynddyn nhw? Darganfyddwch eich ‘pam’ a byddwch yn barod i’w rannu gyda ni!