Enw Da a Rhagoriaeth Addysgu
Mae’r rhaglen TAR Mathemateg yn un uchel ei pharch ymhlith ysgolion, arweinwyr ac athrawon yng Nghymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae sesiynau’r Brifysgol yn hwyl, yn gydweithredol ac yn heriol. Mae ymchwil addysgol wedi’i weu’n fedrus drwy gydol y rhaglen i herio ac ehangu eich meddwl. Mae siaradwyr gwadd o ysgolion Partneriaeth, consortia rhanbarthol a sefydliadau allanol fel Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru (RhGMBC) yn cael eu galw i mewn i gyfoethogi a gwella’r ddarpariaeth a addysgir.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae rhagolygon gyrfa athrawon mathemateg sy’n graddio o Bartneriaeth Caerdydd yn gadarnhaol iawn. Mae bron pob un o’r graddedigion TAR Mathemateg yn sicrhau gwaith llawn amser yn syth ar ôl cwblhau’r rhaglen TAR ac mae llawer yn parhau i wneud cynnydd yn gyflym i rolau rheoli canol ac uwch. Mae’r galw am athrawon Mathemateg cyfrwng Cymraeg yn eithriadol o uchel ac mae athrawon dan hyfforddiant da’n aml yn cael cynnig eu dewis o rolau ar draws sawl ysgol yng Nghymru!
Mae Mathemateg hefyd yn cael ei gydnabod fel pwnc blaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru, ac felly bydd pob myfyriwr llwyddiannus yn derbyn bwrsariaeth gwerth £15,000 tra byddwch yn hyfforddi yng Nghymru ar gyfer Mathemateg a bodloni meini prawf cymhwysedd.
Beth yw’r ffordd orau o baratoi ar gyfer astudio TAR mewn Mathemateg?
Datblygwch a mireiniwch eich gwybodaeth am y pwnc. Yn y lle cyntaf, ceisiwch gwblhau detholiad o bapurau blaenorol TGAU Haen Uwch CBAC. Allwch chi gofio sut y cawsoch eich dysgu i ddatrys hafaliadau cwadratig, er enghraifft? A oes dulliau eraill nad ydych efallai’n ymwybodol ohonynt? Os felly, gwnewch rywfaint o ymchwil ar-lein a threialwch y dulliau addysgu hyn cyn cychwyn ar eich taith addysgu!
Ar ôl i chi fodloni eich hun gyda TGAU Haen Uwch, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych i fyny ac i lawr y continwwm Mathemateg! Allwch chi gofio sut i gyflwyno differu o egwyddorion sylfaenol i fyfyriwr Blwyddyn 12? Rhywbeth sydd yr un mor bwysig, a fyddech chi’n gwybod sut i lywio sgwrs gyda disgybl Blwyddyn 7 sy’n gofyn, “Pam fod dau finws yn gwneud plws”? Cofiwch, nid yw mathemategydd gwych o reidrwydd yn golygu athro Mathemateg gwych. Fodd bynnag, gall athro Mathemateg gwych sydd hefyd yn fathemategydd gwych newid y byd.