Skip to content

TAR Uwchradd Ieithoedd (11-18 Ystod Oedran) gyda SAC

Two pupils are sitting in a classroom. One pupil has his hand raised. Two pupils are sitting in a classroom. One pupil has his hand raised.
01 - 02

Ydych chi’n angerddol am ieithoedd? Ydych chi eisiau ysbrydoli pobl ifanc i ddysgu mwy am ddiwylliannau eraill? Trwy ddod yn athro iaith, byddwch yn gallu mynd â dysgwyr ar hyd eu taith ddarganfod eu hunain wrth iddynt feistroli iaith ac archwilio ei helfennau diwylliannol hefyd.

Nid yn unig y byddwch yn gallu rhannu eich gwybodaeth arbenigol am y pwnc gyda’ch dysgwyr, ond byddwch hefyd yn eu cefnogi a’u harwain, gan eu hannog i fentro, gwneud camgymeriadau a’u helpu i fagu hyder.

Gwybodaeth Allweddol

Ar gyfer gofynion mynediad, profion cyn mynediad a sut i ymgeisio, ewch i dudalen y cwrs TAR Uwchradd.

Ynglŷn â TAR Ieithoedd

Ar ein cwrs TAR ym Met Caerdydd cewch gyfle i ymgysylltu’n feirniadol â theorïau a dulliau addysgu iaith fel defnyddio iaith darged yn yr ystafell ddosbarth, addysgu gramadeg, asesu a gwahaniaethu ac addysgeg trawsgwricwlaidd. Bydd agweddau eraill yn cynnwys canolbwyntio ar addysgu ieithoedd TGAU a Safon Uwch, defnyddio TG yn yr ystafell ddosbarth, defnyddio adnoddau dilys a dad-drefedigaethu’r cwricwlwm ITM.

Bydd y cwrs TAR yn rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r ymwybyddiaeth feirniadol angenrheidiol i chi gychwyn ar eich gyrfa addysgu. Ym Met Caerdydd mae gennych y posibilrwydd i hyfforddi fel athro Ffrangeg; Ffrangeg a Sbaeneg; Sbaeneg ac mae nifer gyfyngedig iawn o leoedd i hyfforddi mewn Ffrangeg ac Almaeneg.

Cefnogir ein sesiynau pwnc-benodol gan siaradwyr gwadd o’n Ysgolion Partneriaeth, consortia rhanbarthol, a Phrifysgol Caerdydd i gyfoethogi ein rhaglen. Yn ystod ein sesiynau pwnc-benodol, cewch gyfle i archwilio ymchwil a thrafod sut y gellir ei ymgorffori yn ein harferion addysgu.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Byddwn yn eich cefnogi i ddatblygu fel athrawon iaith o ansawdd uchel sy’n gallu gwneud i ieithoedd ddod yn fyw a chyflwyno gwersi sy’n gynhwysol ond a fydd yn herio ac yn cyffroi pob dysgwr. Cewch eich arwain gan diwtor arbenigol sydd â phrofiad helaeth fel athro ac arweinydd ieithoedd.

Mae Ieithoedd hefyd yn cael ei gydnabod fel pwnc blaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru, ac felly bydd pob myfyriwr llwyddiannus yn derbyn bwrsariaeth gwerth £15,000 tra byddwch yn hyfforddi yng Nghymru ar gyfer Ieithoedd a bodloni meini prawf cymhwysedd.

Beth yw’r ffordd orau o baratoi at astudio TAR mewn Ieithoedd?

Argymhellwn yn gryf eich bod yn arsylwi ar wersi iaith ar waith yn eich ysgol uwchradd leol cyn i chi ddechrau ar eich cwrs hyfforddi athrawon. Bydd eich arsylwadau a’ch myfyrdodau yn eich galluogi i gyfrannu’n llawnach at y trafodaethau a’r myfyrdodau yn ystod ein rhaglen ymsefydlu.

Byddem hefyd yn argymell eich bod yn edrych ar y fanyleb CBAC ar gyfer TGAU a Safon Uwch yn eich iaith arbenigol. Mae testunau craidd ar gyfer A2 neu wylio ffilmiau lefel UG hefyd yn ffynhonnell dda o ymchwil. Yn olaf, os oes gennych iaith atodol y gwnaethoch ei hastudio ar gyfer Safon Uwch neu hyd yn oed TGAU, bydd cwrs ar-lein/ap neu gofrestru mewn dosbarth nos lleol yn gwella eich sgiliau iaith.

Cysylltwch â Ni

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, cysylltwch â Kerry Bevan, Arweinydd y Rhaglen TAR Uwchradd Ieithoedd.

Cysylltwch â Kerry Bevan