Ynglŷn â TAR Hanes
Mae’r rhaglen yn ymdrin â phob agwedd ar addysgu a dysgu hanes o fewn canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru gyda phwyslais ar ddull gweithredol gan ddefnyddio gweithgareddau ymarferol a strategaethau i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Ymhlith y nodweddion allweddol y mae ffocws ar ddefnyddio ffynonellau cynradd a chynllunio effeithiol ar gyfer yr ystod gallu gyfan i sicrhau bod pob disgybl yn gwneud cynnydd. Byddwch yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth bwnc sy’n angenrheidiol i gyflwyno’n llwyddiannus ac asesu’r cwricwlwm i fyfyrwyr hyd at a chan gynnwys TGAU a Safon Uwch.
Mae gweithio gyda’n hysgolion ym Mhartneriaeth Caerdydd yn gofyn am wybodaeth bwnc ragorol, brwdfrydedd at y pwnc a dealltwriaeth fanwl o’r addysgeg, sy’n caniatáu ichi ddod yn ymarferydd rhagorol. Byddwch yn esiampl gadarnhaol ac yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu gwerthfawrogiad o hanes fel pwnc academaidd.
Enw Da a Rhagoriaeth Addysgu
Mae’r rhaglen TAR Hanes yn uchel ei pharch ymhlith ysgolion, arweinwyr ac athrawon yng Nghymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae sesiynau’r Brifysgol yn gyffrous, yn ysgogi’r meddwl, yn gydweithredol ac yn heriol. Mae ymchwil addysgol yn rhan annatod o’r rhaglen ynghyd â phrofiad ymarferol a chymorth gan eich tiwtor pwnc a’ch mentor pwnc. Mae’r tiwtor pwnc wedi addysgu mewn amrywiaeth o ysgolion gwahanol, mewn sawl rôl wahanol gan gynnwys fel Pennaeth Hanes am fwy na 25 mlynedd. Mae sawl un o’r mentoriaid pwnc yn gyn-fyfyrwyr y cwrs TAR Hanes a allant rannu eu profiad a’u harbenigedd.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae rhagolygon gyrfa athrawon hanes sy’n graddio o Bartneriaeth Caerdydd yn hynod gadarnhaol. Mae’r rhan fwyaf o’r graddedigion TAR Hanes yn sicrhau gwaith llawn amser yn syth ar ôl cwblhau’r rhaglen TAR ac mae llawer yn parhau i wneud cynnydd cyflym i swyddi cyfrifol. Mae galw mawr iawn am athrawon Hanes cyfrwng Cymraeg, ac mae nifer o athrawon dan hyfforddiant yn cael cynnig eu dewis o rolau ar draws sawl ysgol yng Nghymru.
Beth yw’r ffordd orau o baratoi at astudio TAR mewn Hanes?
Datblygwch a mireiniwch eich gwybodaeth bwnc a’ch athroniaeth addysgu. Ystyriwch yn ofalus pam eich bod chi eisiau addysgu’r pwnc a pherthnasedd hanes i ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. A ddylem ni fod yn addysgu hanes o safbwynt arweinwyr neu’r werin? Sut allwn ni sicrhau bod y pwnc yn amrywiol ac yn gynhwysol? A all gwersi o’r gorffennol lywio’r dyfodol? Dyma’r math o gwestiynau y bydd angen i chi eu hystyried ar eich taith i ddod yn athro ardderchog!