Skip to content

TAR Uwchradd Drama (11-18 Ystod Oedran) gyda SAC

A performer leans forward with arms outstretched. He is wearing a gold mask covering his face. A performer leans forward with arms outstretched. He is wearing a gold mask covering his face.
01 - 02

Mae creu, perfformio ac ymateb i ddrama a theatr yn ein helpu i ddeall a gwneud synnwyr o’r byd. Mewn gwersi drama yng nghyd-destun ysgolion uwchradd, mae plant a phobl ifanc yn datblygu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad fel perfformwyr, dylunwyr, beirniaid ac aelodau o’r gynulleidfa. Mae’n bwnc cyfoethog, heriol ac atyniadol sy’n cynnig ffyrdd arbennig o weithio a dysgu. Mae disgyblion yn cydweithio, yn meddwl yn feirniadol, yn creu ac yn rhannu profiadau theatrig sydd, yn eu tro, yn datblygu sgiliau pwnc-benodol a throsglwyddadwy sy’n hanfodol ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiannau creadigol a thu hwnt.

Fel athro drama, byddwch yn rhannu eich brwdfrydedd at ddrama a theatr gyda phobl ifanc ac yn meithrin eu doniau creadigol fel y gallant hwythau hefyd elwa ar y buddion aruthrol sydd gan y pwnc i’w cynnig. Byddwch hefyd yn gweithio gyda disgyblion mewn cyd-destunau allgyrsiol, gan eu gwylio’n ffynnu wrth iddynt gyfrannu at a pherfformio mewn cynyrchiadau ysgol gyfan, a gwylio eu hymatebion i brofiadau theatrig bythgofiadwy.

Gwybodaeth Allweddol

Ar gyfer gofynion mynediad, profion cyn mynediad a sut i ymgeisio, ewch i dudalen y cwrs TAR Uwchradd.

Ynglŷn â TAR Drama

Pan fyddwch yn astudio TAR Uwchradd Drama ym Met Caerdydd, byddwch yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth arbenigol i ddatblygu eich addysgeg ac ymarfer drama. Byddwch yn dysgu sut i drosi eich gwybodaeth a’ch sgiliau eich hun fel artist yn brofiadau dysgu o ansawdd uchel ar gyfer cenhedlaeth newydd o fynychwyr/crewyr drama a theatr. Yn ogystal, byddwn yn eich dysgu sut i harneisio buddion dysgu ehangach y pwnc: sut mae disgyblion yn dysgu am fywyd a’u hunain trwy ddrama a sut y gall drama gyfoethogi a gwella meysydd eraill y cwricwlwm.

Enw Da a Rhagoriaeth Addysgu

Ar y campws, byddwch yn ymwneud â thiwtoriaid profiadol a siaradwyr gwadd mewn mannau drama arbenigol lle byddwch yn archwilio ac yn datblygu addysgeg drama’n ymarferol. Mae gan diwtoriaid arbenigol wybodaeth a phrofiad helaeth fel athrawon ac arweinwyr drama, byddwch yn gweithio’n agos gyda nhw i ddatblygu eich ymarfer. Byddwch yn dysgu sut i gynllunio, addysgu ac asesu pob agwedd ar y pwnc, o hogi sgiliau perfformio disgyblion i gefnogi darpar ddylunwyr cynyrchiadau ifanc.

Mae gweithgareddau ymchwil ac ymholi’n rhan annatod o’r TAR ym Met Caerdydd. Byddwch yn datblygu’r sgiliau academaidd i gynnal eich ymchwil a’ch ymholi eich hun, gan ehangu a dyfnhau eich ffordd o feddwl am y pwnc. Byddwch hefyd yn elwa o brofiad ymarfer clinigol yn ein Hysgolion Partneriaeth. Yno byddwch yn gweithio’n agos â mentoriaid drama profiadol ac ymroddedig, y mae llawer ohonynt yn gyn-fyfyrwyr Met Caerdydd; byddant yn eich helpu i fireinio a datblygu eich ymarfer addysgu ac yn eich annog i ystyried sut mae damcaniaeth yn llywio eich ymarfer.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Mae gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd hanes hir o addysg athrawon mewn drama uwchradd. Mae’r rhagolygon gyrfa ar ôl cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus ym Met Caerdydd yn hynod gadarnhaol. Mae bron pob un o raddedigion y rhaglen sy’n ceisio cyflogaeth llawn amser wedi ennill swyddi addysgu ac mae llawer yn gwneud cynnydd yn gyflym i swyddi cyfrifol, megis pennaeth adran.

Beth yw’r ffordd orau o baratoi ar gyfer astudio TAR mewn Drama?

Ystyriwch pam yr hoffech fod yn athro drama uwchradd; beth sydd gennych chi i’w gynnig i bobl ifanc a chymuned ehangach yr ysgol? Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd ag awch at eu pwnc ac sy’n meddu ar ystod eang o wybodaeth a sgiliau presennol i’w cynnig i ysgolion a phobl ifanc. Treuliwch ychydig o amser yn datblygu eich gwybodaeth am y pwnc ac yn darllen am feysydd llafur drama a theatr TGAU ac UG/Safon Uwch i gael ymdeimlad o gynnwys cyffredin y cwricwlwm yr ymdrinnir ag ef o flynyddoedd 10-13 yn y DU.

Rydym hefyd yn argymell eich bod yn cael profiad yn yr ystafell ddosbarth cyn ymgeisio i’r cwrs. Yn ddelfrydol, byddwch yn ennill y profiad hwn mewn cyd-destun drama uwchradd (bydd profiad mewn ysgol gynradd hefyd yn eich helpu i benderfynu ar y cyd-destun sydd fwyaf addas i chi). Bydd hyn yn rhoi cipolwg amhrisiadwy ar adran ddrama go iawn, rôl yr athro drama; i chi weld â’ch llygaid eich hun sut mae athrawon drama’n gweithio gyda dysgwyr. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio’r profiad hwn yn eich cais ac yn y cyfweliad, gan fyfyrio ar yr hyn a ddysgwyd gennych a’r goblygiadau ar gyfer y dyfodol.

Cysylltwch â Ni

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, cysylltwch ag Emma Thayer, Arweinydd y Rhaglen TAR Uwchradd Drama.

Cysylltwch ag Emma Thayer