Ynglŷn â TAR Daearyddiaeth
Bydd y cwrs gafaelgar hwn yn rhoi’r hyder i chi addysgu llu o bynciau Daearyddiaeth cyfoes ar draws yr ystod oedran 11-18. Mae addysgu’ch arbenigedd pwnc ar lefel uwchradd yn rhoi cyfle i chi rannu eich brwdfrydedd a defnyddio gweithgareddau creadigol ac atyniadol i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ddilyn amrywiaeth o yrfaoedd lle gwerthfawrogir Daearyddiaeth yn fawr. At hynny, cewch gyfle i gydweithio’n agos â phynciau gwahanol, megis y rhai yn y gwyddorau, y dyniaethau a’r celfyddydau, er mwyn magu hyder wrth addysgu’n drawsgwricwlaidd.
Mae gweithio gyda’n hysgolion ym Mhartneriaeth Caerdydd yn gofyn am wybodaeth bwnc ragorol, brwdfrydedd at y pwnc a dealltwriaeth fanwl o’r addysgeg, sy’n caniatáu ichi ddod yn ymarferydd rhagorol. Byddwch yn esiampl gadarnhaol ac yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu gwerthfawrogiad o Ddaearyddiaeth fel pwnc academaidd.
Enw Da a Rhagoriaeth Addysgu
Mae gan diwtor y cwrs TAR Daearyddiaeth brofiad addysgu helaeth mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg, mewn sawl rôl, gan gynnwys Arweinydd Daearyddiaeth. Mae sesiynau’r brifysgol yn ddiddorol, yn gydweithredol ac yn gefnogol. Mae gweithgareddau ymchwil ac ymholi wedi’u hymgorffori yn y rhaglen i ddyfnhau ac ehangu eich ffordd o feddwl ac rydym yn gweithio’n agos gyda’n holl Ysgolion Partneriaeth i roi’r profiadau ymarfer clinigol gorau i’n myfyrwyr. Mae siaradwyr gwadd o’n Hysgolion Partneriaeth a sefydliadau allanol yn cyfoethogi ac yn gwella’r ddarpariaeth a addysgir.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Nod y cwrs TAR Daearyddiaeth yw paratoi athrawon dan hyfforddiant i fod yn ymarferwyr hynod fedrus, hyderus, myfyriol feirniadol ac arloesol sy’n ymroddedig i ddysgu proffesiynol gydol oes ac addysg pobl ifanc. Yn y brifysgol, bydd eich sesiynau arbenigol yn eich paratoi i addysgu eich pwnc hyd at a chan gynnwys Safon Uwch, a bydd sesiynau fel rhan o Faes Dysgu ehangach y Dyniaethau yn datblygu eich hyder wrth addysgu ar draws amrywiaeth o bynciau. Yn ystod eich lleoliadau ymarfer clinigol, gallwch ddisgwyl addysgu sawl agwedd ar Ddaearyddiaeth ar draws yr ystod oedran 11-18.
Beth yw’r ffordd orau o baratoi at astudio TAR mewn Daearyddiaeth?
Datblygwch a mireiniwch eich gwybodaeth bwnc a’ch athroniaeth addysgu. Ystyriwch yn ofalus pam eich bod chi eisiau addysgu’r pwnc a pherthnasedd Daearyddiaeth i ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Yn y lle cyntaf, rhowch gynnig ar gwblhau detholiad o gyn-bapurau TGAU CBAC. Bydd hyn yn rhoi cipolwg i chi ar y themâu sy’n cael eu trafod yn y cwricwlwm. Allwch chi gofio lleoliad eich teithiau gwaith maes yn yr ysgol? Allwch chi gofio sut y cawsoch eich addysgu a chamau’r broses ymholi? Gwnewch rywfaint o waith ymchwil ar-lein ac archwiliwch bynciau ac adnoddau a grëwyd gan sefydliadau megis y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol a’r Gymdeithas Ddaearyddol. Rhowch gynnig ar y rhain cyn cychwyn ar eich taith addysgu gyffrous!
Unwaith y byddwch yn fodlon â’r TGAU Haen Uwch, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych i fyny ac i lawr y continwwm Daearyddiaeth. Sut fyddech chi’n cyflwyno myfyriwr Blwyddyn 12 i strategaethau ar sut i liniaru ac addasu i newid hinsawdd? Yr un mor bwysig, a fyddech chi’n gwybod sut i lywio sgwrs gyda disgybl Blwyddyn 7 sy’n gofyn, “Pam mae ymfudwyr eisiau symud i’r DU”?