Skip to content

TAR Uwchradd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (11-18 Ystod Oedran) gyda SAC

Two pupils are sitting in a classroom. One pupil has his hand raised. Two pupils are sitting in a classroom. One pupil has his hand raised.
01 - 02

Mae’r rhaglen TAR Uwchradd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) ym Met Caerdydd yn cynnig llwybr uniongyrchol at ddyfarniad Statws Athro Cymwysedig ac mae ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd y cwrs yn eich paratoi’n llawn at addysgu Crefydd, Gwethoedd a Moeseg mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru neu du hwnt.

Bydd yn rhoi dealltwriaeth gadarn i chi o bwysigrwydd CGM fel pwnc gorfodol yn y Cwricwlwm i Gymru a sut i’w addysgu mewn ysgolion uwchradd. Byddwch yn ennill dealltwriaeth ardderchog o’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau sy’n gysylltiedig â CGM yng Nghymru a Lloegr.

Gwybodaeth Allweddol

Ar gyfer gofynion mynediad, profion cyn mynediad a sut i ymgeisio, ewch i dudalen y cwrs TAR Uwchradd.

Ynglŷn â TAR Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Bydd y cwrs yn eich galluogi i ddatblygu gwybodaeth ragorol am y pwnc ac yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o’r addysgeg sydd ei angen er mwyn bod yn ymarferydd pwnc rhagorol. Trwy ymchwil ac ymholi, byddwch yn archwilio dadleuon cyfoes ym maes Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg i’ch cefnogi i weithio gyda’n hysgolion ym Mhartneriaeth Caerdydd. Bydd y rhaglen Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg uwchradd yn rhoi’r hyder i chi addysgu byd-olwg crefyddol ac anghrefyddol a materion a phynciau cyfoes ar draws yr ystod oedran 11-18, gan gynnwys TGAU a Safon Uwch. Cewch gyfle i weithio’n agos â gwahanol bynciau’r Dyniaethau a Meysydd Dysgu a Phrofiad. Yn ogystal, byddwch yn cael cyfleoedd i gydweithio ag athrawon dan hyfforddiant TAR cynradd ar ddylunio’r cwricwlwm gan ganolbwyntio ar gynnydd i’r holl ddysgwyr.

Byddwch yn gallu rhannu eich brwdfrydedd dros y pwnc a defnyddio gweithgareddau creadigol ac atyniadol i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ddilyn amrywiaeth o yrfaoedd lle gwerthfawrogir CGM yn fawr. Mewn byd sy’n llawn o heriau moesegol a moesol, byddwch yn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o grefydd, cred, diwylliant, cymuned a chynefin a all helpu i feithrin ymdeimlad o le a pherthyn.

Enw Da a Rhagoriaeth Addysgu

Mae’r rhaglen TAR CGM yn uchel ei pharch ymhlith ysgolion, arweinwyr ac athrawon yng Nghymru, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae sesiynau’r brifysgol yn gyffrous, yn heriol a diddorol. Mae gan y tiwtor pwnc brofiad addysgu eang mewn amrywiaeth o ysgolion a lleoliadau addysg bellach gwahanol, mewn sawl rôl wahanol gan gynnwys fel Pennaeth Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, yn ogystal â phrofiad helaeth fel cynghorydd ac ymgynghorydd pwnc. Mae ymchwil addysgol yn rhan annatod o’r rhaglen ynghyd â phrofiad ymarferol a chymorth gan eich tiwtor pwnc a’ch mentor pwnc. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n holl Ysgolion Partneriaeth i ddarparu’r profiadau ymarfer clinigol gorau i’n myfyrwyr. Mae siaradwyr gwadd o’n Hysgolion Partneriaeth a sefydliadau allanol yn cyfoethogi’r ddarpariaeth a addysgir.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Nod y cwrs TAR Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yw paratoi athrawon dan hyfforddiant i fod yn ymarferwyr hynod fedrus, hyderus, beirniadol fyfyriol, ac arloesol sy’n ymroddedig i ddysgu proffesiynol gydol oes ac addysg pobl ifanc. Mae rhagolygon gyrfa ar ôl cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus ym Mhartneriaeth Caerdydd yn hynod gadarnhaol. Mae’r rhan fwyaf o’r graddedigion yn sicrhau cynigion ar gyfer gwaith llawn amser yn syth ar ôl cwblhau’r rhaglen TAR ac mae llawer yn parhau i wneud cynnydd cyflym i swyddi cyfrifol. Mae galw mawr iawn am athrawon CGM cyfrwng Cymraeg.

Beth yw’r ffordd orau o baratoi at astudio TAR mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg?

Datblygwch a mireiniwch eich gwybodaeth bwnc a’ch athroniaeth addysgu. Ystyriwch yn ofalus pam eich bod eisiau addysgu’r pwnc a pherthnasedd CGM i ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Ymchwiliwch i’r newidiadau diweddar i’r pwnc yng Nghymru gan gynnwys darllen adrannau perthnasol canllawiau cwricwlwm MDaPh y Dyniaethau ar wefan Hwb. Archwiliwch fanylebau, cyn-bapurau ac adroddiadau Arholwyr TGAU a Safon Uwch CBAC. Ewch i ymweld â mannau arwyddocaol i bobl grefyddol ac sy’n credu, ac ystyriwch sut bydd dysgwyr yn elwa o brofiadau o’r fath.

Cysylltwch â Ni

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, cysylltwch â Paula Webber, Arweinydd y Rhaglen TAR Uwchradd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

Cysylltwch â Paula Webber