Skip to content

TAR Uwchradd Cerddoriaeth (11-18 Ystod Oedran) gyda SAC

A teacher stands with a group of pupils. Two of the pupils are holding an acoustic guitar. A teacher stands with a group of pupils. Two of the pupils are holding an acoustic guitar.
01 - 02

Mae bron pob person ifanc ar lefel uwchradd yn dwli ar gerddoriaeth! Fe welwch chi nhw’n gwrando ar eu hoff fandiau a chantorion pryd bynnag y byddan nhw’n cael ychydig o amser i ymlacio. Hefyd, y grŵp hwnnw o ddisgyblion sy’n byw ac yn anadlu cerddoriaeth: fe welwch chi nhw yn yr adran bob amser egwyl a chinio yn ffurfio bandiau, canu eu hoff ganeuon, neu ymarfer eu hofferynnau. Fel cerddor, bydd cyfle i chi dreulio’ch diwrnod gwaith yn rhannu’r pwnc rydych yn ei garu gyda phobl ifanc a chlywed eu gwaith creadigol yn cymryd siâp. Byddwch hefyd yn dod i adnabod disgyblion y tu allan i’r ystafell ddosbarth trwy’r gweithgareddau allgyrsiol megis cyngherddau a sioeau, gan weld ochr wahanol i’r bobl ifanc yn eich ysgol.

Gwybodaeth Allweddol

Ar gyfer gofynion mynediad, profion cyn mynediad a sut i ymgeisio, ewch i dudalen y cwrs TAR Uwchradd.

Ynglŷn â TAR Uwchradd Cerddoriaeth

Wrth astudio TAR Uwchradd Cerddoriaeth ym Met Caerdydd, byddwch eisoes yn cael eich addysgu i safon uchel ym maes cerddoriaeth (boed hynny trwy radd ‘glasurol’ cerddoriaeth neu radd mewn technoleg cerddoriaeth, cynhyrchu neu ysgrifennu caneuon – y mae galw mawr am lawer iawn am hynny gyda disgyblion). Byddwn yn eich helpu i gyfieithu’r wybodaeth bwnc a’r angerdd am gerddoriaeth i brofiadau dysgu sy’n sicrhau bod pob person ifanc rydych chi’n ei ddysgu yn cael ei gynnwys mewn profiadau cerddorol o ansawdd uchel.

Enw Da a Rhagoriaeth Addysgu

Ar y campws, bydd gennych sesiynau cerddoriaeth ymarferol mewn gofodau arbenigol sy’n eich galluogi i ddatblygu eich addysgegau cerddoriaeth, boed hynny’n addysgu disgyblion i gyfansoddi gan ddefnyddio technoleg cerddoriaeth neu berfformio cerddoriaeth roc yn yr ystafell ddosbarth. Byddwch yn cael eich arwain gan diwtoriaid arbenigol sydd â phrofiad helaeth fel athrawon ac arweinwyr cerddoriaeth. Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi gan ein harddangoswr technegol ym maes technolegau cerddoriaeth a chynhyrchu byw.

Mae gweithgareddau ymchwil ac ymholi wedi’u hymgorffori yn y rhaglen i ddyfnhau ac ehangu eich ffordd o feddwl ac rydym yn gweithio’n agos gyda’n holl Ysgolion Partneriaeth i roi’r profiadau ymarfer clinigol gorau i’n myfyrwyr. Mae siaradwyr gwadd o’n Hysgolion Partneriaeth a sefydliadau allanol yn cyfoethogi ac yn gwella’r ddarpariaeth a addysgir.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Byddwn ni’n eich cefnogi i ddatblygu fel athrawon cerdd o safon uchel sy’n gallu gwneud i gerddoriaeth ddod yn fyw a chyflwyno gwersi sy’n gynhwysol ond a fydd yn herio a chyffroi pob dysgwr. Mae’r rhagolygon o ran gyrfa ar ôl cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus ym Mhartneriaeth Caerdydd yn hynod gadarnhaol. Mae bron pob person graddedig yn sicrhau cynigion o waith llawn amser cyn cwblhau’r rhaglen TAR ac mae llawer yn parhau i symud ymlaen yn gyflym i swyddi o gyfrifoldeb.

Beth yw’r ffordd orau o baratoi ar gyfer astudio TAR mewn Cerddoriaeth?

Datblygwch a mireinio eich gwybodaeth bwnc a’ch athroniaeth addysgu. Meddyliwch yn ofalus am pam eich bod eisiau dysgu’r pwnc a pherthnasedd cerddoriaeth yng nghyd-destun y Cwricwlwm newydd i Gymru.

Rydym yn argymell yn gryf i arsylwi ar y pwnc sy’n cael ei ddysgu mewn ystafell ddosbarth uwchradd prif ffrwd: mae sawl cyd-destun lle mae cerddoriaeth yn cael ei ddysgu, a dim ond un ohonynt yw’r ystafell ddosbarth uwchradd prif ffrwd. Cofiwch fod cerddoriaeth yn faes pwnc eang iawn ac, er nad oes angen i chi fod yn arbenigwr ym mhob un ohonynt, mae angen i chi fod yn ymrwymedig i ehangu eich meddwl y tu hwnt i’ch arbenigedd cerddorol eich hun fel y gallwch wasanaethu eich holl ddisgyblion. Siaradwch ag athro cerdd uwchradd a darganfod beth mae’r swydd yn ei gynnwys fel eich bod chi’n gwybod beth rydych chi’n cofrestru amdano! Fel cerddor sy’n cael ei addysgu i lefel gradd, mae’n debygol y byddwch chi’n perfformio, yn cyfansoddi neu’n creu cerddoriaeth i lefel uchel iawn. Sut fyddwch chi’n gwneud y pwnc yn hygyrch i bobl ifanc sydd ddim yn ymgysylltu â cherddoriaeth y tu allan i’r ystafell ddosbarth?

Cysylltwch â Ni

Am wybodaeth bellach am y rhaglen, cysylltwch â Tom Breeze, Arweinydd Rhaglen TAR Uwchradd Cerddoriaeth.

Cysylltwch â Tom Breeze