Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Os oes gennych chi radd a’ch bod yn gweithio mewn ysgol Uwchradd ond nad oes gennych Statws Athro Cymwysedig (SAC) ar hyn o bryd, dyma’r union gwrs i chi. Mae Llwybr TAR at Statws Athro Cymwysedig ar gyfer Gweithwyr Ysgol yn golygu y gallwch ennill SAC wrth barhau i addysgu yn eich ysgol eich hun. Bydd gennych o leiaf 3 blynedd o gyfrifoldeb addysgu parhaus i’ch galluogi i adeiladu ar eich profiad presennol.
Mae’r TAR arbenigol hwn wedi’i gynllunio ar gyfer athrawon Uwchradd profiadol, heb gymhwyso, gan ddarparu llwybr strwythuredig i gyflawni SAC wrth barhau i addysgu yn eich ysgol. Gan gyfuno dysgu ymarferol yn yr ysgol gydag astudiaeth academaidd wedi’i theilwra i’r unigolyn, bydd y cwrs yn eich galluogi i ennill 40 credyd lefel meistr ochr yn ochr â SAC. Mae’r cynllun unigryw yn sicrhau y byddwch chi’n datblygu’n broffesiynol heb adael eich rôl.
Mae’r TAR hwn yn arbennig o addas i:
- Athrawon â chymhwyster Addysg Bellach mewn ysgolion (e.e., rhai sydd â TAR Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO))
- Athrawon heb gymwysterau sydd eisoes wedi’u cyflogi mewn ysgolion
- Unigolion sydd â chymwysterau / profiad addysgu rhyngwladol nad ydynt yn cael eu cydnabod fel SAC yng Nghymru ar hyn o bryd
- Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch sydd wedi bod yn addysgu yn absenoldeb athro cymwysedig
Mae’r TAR hwn ar gyfer Gweithwyr Ysgol yn mynd i’r afael â bwlch critigol yn system addysg Cymru. Bydd yn darparu llwybr hanfodol i athrawon Uwchradd profiadol heb statws cymwysedig i gyflawni SAC, rhywbeth sy’n gydnaws â nodau ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer rhagoriaeth addysgol. Trwy gydnabod a datblygu sgiliau presennol athrawon sy’n ymarfer, nod y rhaglen hon yw sicrhau gweithlu addysgu mwy teg, medrus a llawn cymhelliant.
Byddwch yn dilyn cwrs blwyddyn amser llawn, sy’n cyfuno darpariaeth y brifysgol a dysgu yn yr ysgol. Mae’r TAR yn unigryw i chi gan ei fod yn seiliedig ar gynllun dysgu a datblygu unigol (ILDP), y cytunir arno o fewn cam cyntaf y cwrs. Byddwch yn datblygu fel athro trwy ddull ymarfer clinigol sy’n seiliedig ar ymchwil.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob maes pwnc.
Mae’r TAR hwn yn amodol ar achrediad llawn gan Gyngor y Gweithlu Addysg.
- Nid yw’r TAR hwn ar gael gan ddarparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon eraill yng Nghymru (cyfrwng Saesneg / cyfrwng Cymraeg) ar hyn o bryd.
- Mae hwn yn llwybr unigryw sy’n seiliedig ar waith, sy’n caniatáu i athrawon aros yn eu swydd bresennol, wrth weithio tuag at SAC a chyflawni’r statws hwnnw.
- Mae’n darparu llwybr amgen i addysgu sy’n hyrwyddo model o addysg gychwynnol athrawon sy’n ymestyn y tu hwnt i gydymffurfiaeth broffesiynol yn unig. Mae’r TAR yn ymgorffori gweledigaeth Partneriaeth Caerdydd drwy ddatblygu athrawon drwy ddull ymarfer clinigol sy’n seiliedig ar ymchwil.
- Mae’r TAR yn unigryw i’r unigolyn gan ei fod yn troi o amgylch cynllun dysgu a datblygu unigol (ILDP), y cytunir arno yng ngham cyntaf y cwrs.
- Mae cynnwys y cwrs dan arweiniad y Sefydliad Addysg Uwch / Ysgol yn cynnig datblygiad proffesiynol mewn tri dull unigryw: Datblygiad Proffesiynol dan arweiniad Sefydliad Addysg Uwch; Datblygiad Proffesiynol dan Arweiniad Ysgol (7 diwrnod); Datblygiad Proffesiynol mewn Ymarfer Clinigol dan Arweiniad Ysgol.
- Amserlen addysgu wedi’i lleihau sy’n caniatáu i athrawon sy’n ymarfer gael cyfle i ddefnyddio dull ymchwil ac ymholiad sy’n cyd-fynd â’u haseiniadau a’r meysydd ffocws a nodwyd yn eu cynllun dysgu a datblygu unigol.
- Ennill 40 credyd ar lefel meistr.
- Ymarfer clinigol sy’n seiliedig ar ymchwil lle mae cyfleoedd strwythuredig yn galluogi athrawon dan hyfforddiant i ddefnyddio theori i archwilio ymarfer ac i’r gwrthwyneb.
- Diwylliant dysgu cefnogol a chydweithredol.
- Mae’r model yn sicrhau’r profiad hanfodol o weithio gyda chymheiriaid sy’n arbenigo yn eu pwnc / cyfnod dewisol (2 gyfnod oedran) a dysgu ganddynt.
- Bydd cymorth ar gael i athrawon sy’n ymarfer i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg eu hunain ynghyd â defnydd disgyblion o’r Gymraeg.
- Ymarfer clinigol sy’n seiliedig ar ymchwil lle mae cyfleoedd strwythuredig yn galluogi athrawon dan hyfforddiant i ddefnyddio theori i archwilio ymarfer ac i’r gwrthwyneb.
- Cyfleoedd cyfoethogi sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn adeiladu ar gryfderau a datblygu sgiliau dysgu ac arwain arloesol, cydweithredol a phroffesiynol.
- Dim ond ymarferwyr cyfrwng Cymraeg fydd yn y garfan gyntaf o weithwyr mewn ysgolion sy’n dilyn y cwrs TAR hwn (Mehefin 2025); bydd yr ail garfan o weithwyr ysgol (Mehefin 2026) ar gael i ymarferwyr cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg.
Mae hyfforddi i addysgu ym Met Caerdydd yn gyfle cyffrous i ddysgu o fewn Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon, sef yr unig ddarparwr hyfforddiant TAR Uwchradd yn ne-ddwyrain Cymru i gael ei achredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon yn cynnwys Met Caerdydd a’i hysgolion cysylltiedig, ac mae’n cydweithio â Phrifysgol Rhydychen, Prifysgol Caerdydd, Consortiwm Canolbarth y De (CSC), Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS) a Chyngor Dinas Caerdydd. Mae Partneriaeth Caerdydd yn cydweithio i sicrhau y bydd ein darpar athrawon nid yn unig yn cyrraedd y safonau proffesiynol ar gyfer SAC ond yn ceisio gwneud mwy na hynny drwy gyfrwng addysg broffesiynol o’r radd flaenaf sy’n ymarferol drylwyr ac yn ddeallusol heriol.
Bydd graddedigion yn datblygu’r gwerthoedd a’r nodweddion a fydd yn eu galluogi i fod yn gyflogadwy iawn ac yn barod i ymateb i ofynion yr ystafell ddosbarth.
Dysgwch mwy am Bartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon.
Bydd Llwybr TAR i Statws Athro Cymwysedig (SAC) ar gyfer Gweithwyr Ysgol yn rhoi cyfle i chi wella a mireinio eich sgiliau iaith Gymraeg. Bydd y garfan gyntaf o athrawon sy’n ymarfer yn rhai cyfrwng Cymraeg, a bydd y gefnogaeth yn cael ei deilwra’n benodol i’ch anghenion chi. Bydd y rhaglen yn cael ei ehangu yn yr ail flwyddyn i ymarferwyr cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg. Bydd eich siwrnai iaith Gymraeg yn unigryw i chi, a bydd eich datblygiad yn y Gymraeg yn canolbwyntio ar eich sgiliau iaith personol a datblygiad Cymraeg eich disgyblion.
Cesglir gwybodaeth cyn mynediad am brofiad yn ystod cyfnod sefydlu’r rhaglen. Cynhelir 10 awr o fewnbwn Sefydliad Addysg Uwch ffurfiol ar ddechrau a diwedd y rhaglen i’ch helpu i ganolbwyntio ar eich sgiliau Cymraeg personol ac ar addysgeg. Bydd ymweliadau tiwtoriaid prifysgol â’r ysgol yn cynnwys canolbwyntio ar weithredu addysgeg Gymraeg a datblygu sgiliau personol.
Byddwch yn derbyn cyfanswm o 35 awr o ddatblygiad sgiliau iaith Gymraeg (10 awr yn y brifysgol a 25 awr o gymorth ysgol / dysgu cyfunol). Bydd hyn yn cynnwys cyfuniad o sesiynau addysg uwch a addysgir yn y cyfnod sefydlu a’r cyfnod olaf, adnoddau ar-lein wedi’u teilwra i’ch anghenion unigol a chefnogaeth gan Arweinydd Cymraeg yr ysgol. Byddwch yn cael eich cyfeirio at yr adnoddau a gynigir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Byddwch yn treulio amser gydag Arweinydd Cymraeg eich ysgol fel rhan o’r datblygiad proffesiynol yn ystod ymarfer clinigol dan arweiniad yr ysgol, a byddwch yn cael cynnig cymorth pwrpasol wedi’i deilwra yn seiliedig ar eich anghenion Cymraeg unigol chi. Yn ystod y rhaglen, byddwch yn casglu portffolio o dystiolaeth i gofnodi eich cynnydd o ran siarad, gwrando, darllen, ysgrifennu ac addysgeg datblygu’r Gymraeg. Hefyd, bydd angen i chi fodloni elfen sgiliau Cymraeg y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth (PSTL) o ran disgrifydd SAC ar bwyntiau asesu allweddol.
Bydd yr holl waith papur sy’n ymwneud â lleoliadau cyfrwng Cymraeg yn cael ei gwblhau yn Gymraeg. Byddwch yn cael dewis pa iaith i’w defnyddio i gyflwyno asesiadau academaidd ysgrifenedig. Mae hyn yn unol â pholisi’r Brifysgol. Fodd bynnag, bydd ymarferwyr cyfrwng Cymraeg yn cael eu hannog i gyflwyno asesiadau ysgrifenedig yn Gymraeg, er mwyn datblygu eu defnydd o Gymraeg academaidd ymhellach.
Bydd cyfanswm o 120 diwrnod yn cael eu treulio mewn ysgol yn ystod y rhaglen hon. Byddwch wedi’ch lleoli yn eich ysgol yn bennaf, ond cewch gyfle i ennill profiad mewn lleoliad addysg gwahanol er mwyn gwella eich gwybodaeth pwnc-benodol hefyd.
Byddwch yn treulio 7 diwrnod yn un o ysgolion arweiniol y bartneriaeth lle bydd cyfle i chi ganolbwyntio ar agweddau allweddol ar addysgeg dan law darparwyr addysg a datblygiad proffesiynol blaenllaw yn y sector uwchradd.
Mae’r rhaglen wedi’i strwythuro’n dri cham er mwyn darparu llwybr cydlynol a hylaw i athrawon sy’n ymarfer, sy’n gydnaws â’u cyfrifoldebau proffesiynol mewn ysgolion. Mae’n dechrau yn ystod hanner tymor olaf tymor yr haf. Bydd yr amseriad hwn yn caniatáu i chi gael cyflwyniad llawn ffocws a strwythuredig i’r rhaglen, gan sicrhau proses bontio llyfn i’ch taith ddysgu broffesiynol.
Mae’r cam cyntaf, Dealltwriaeth / Insights, yn gyfle i chi gael cymorth gan eich Uwch Fentor a’ch Tiwtoriaid Prifysgol, er mwyn datblygu eich Cynllun Dysgu a Datblygu Unigol (ILDP). Mae’r Cynllun hwn yn ganolog i’r rhaglen, gan gynnig fframwaith personol wedi’i deilwra i anghenion, profiadau a dyheadau unigryw pob athro sy’n ymarfer. Mae’r dull pwrpasol hwn yn sicrhau bod eich dysgu proffesiynol yn berthnasol, yn cefnogi’ch cynnydd tuag at Statws Athro Cymwysedig (SAC), ac yn gwerthfawrogi eich rôl fel athro ac fel dysgwr, gan wneud y mwyaf o effaith eich profiad blaenorol.
Mae’r ail gam, Gwella / Enhancement, yn darparu diwrnod a hanner yr wythnos i chi ar gyfer gweithgareddau datblygiad proffesiynol dan arweiniad yr ysgol neu’r Sefydliad Addysg Uwch, gan gynnwys pedwar o’r saith diwrnod Hyfforddi dan Arweiniad Ysgol Arweiniol a drefnir gydol y flwyddyn academaidd. Yn ystod y cam hwn, byddwch yn cymryd rhan mewn tri ymchwiliad trogylch – sganio, canolbwyntio, datblygu syniad, dysgu proffesiynol, gweithredu, a gwirio – fel eich aseiniad cyntaf. Bydd y dull strwythuredig ond hyblyg hwn yn eich helpu i archwilio a gwella eich ymarfer yn feirniadol trwy fyfyrio bwriadol sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Trwy feithrin chwilfrydedd a hunan-ymwybyddiaeth, bydd y broses hon yn annog twf proffesiynol parhaus sy’n gydnaws â’ch nodau datblygu.
Mae’r trydydd cam, Ysbrydoli / Inspire, yn dechrau gyda lleoliad amgen tair wythnos, lle byddwch yn canolbwyntio ar wella eich gwybodaeth am gynnwys addysgeg pwnc-benodol trwy ennill profiad mewn lleoliad addysg gwahanol. Ar ôl dychwelyd i’ch prif leoliad, byddwch yn rhannu’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth newydd gyda’ch adran, gan feithrin dysgu ac arloesi cydweithredol. Gydol y cam olaf hwn, byddwch yn parhau i elwa ar ddiwrnod yr wythnos o ddatblygiad proffesiynol dan arweiniad yr ysgol neu’r sefydliad addysg uwch. Hefyd, byddwch yn cymryd rhan mewn ymholiad ymchwil weithredu, gan ganolbwyntio ar ddatblygiad a chynnydd dysgwyr wrth fyfyrio ar effaith eich ymarfer eich hun yn eich pwnc. Mae’r ymholiad hwn yn annog defnyddio dirnadaeth broffesiynol a dadansoddiad beirniadol i hyrwyddo dysgu ac addysgu.
Ar ben hynny, byddwch yn derbyn 60 diwrnod o gynnwys rhaglenni dan arweiniad sefydliad addysg uwch neu’r ysgol. Mae hyn yn cynnwys:
- Sesiynau wyneb yn wyneb traddodiadol sy’n cwmpasu cynnwys dangosol fel addysgeg ac asesu cynhwysol, systemau atebolrwydd, llais a hawliau disgyblion, datblygiad dynol, cymorth ar gyfer ADY a Saesneg fel Iaith Ychwanegol, addysgeg iaith Gymraeg.
- Gweithdai dealltwriaeth broffesiynol sy’n cwmpasu cynnwys dangosol fel addysgeg ac asesu wedi’i seilio ar ymchwil, llais a hawliau disgyblion, cymorth ADY a Saesneg fel Iaith Ychwanegol, diogelu a llesiant.
- Dysgu ar-lein ac astudiaeth dan gyfarwyddyd sy’n cwmpasu cynnwys dangosol fel damcaniaethau addysgeg, damcaniaethau asesu a’r defnydd o arsylwi fel offeryn ymchwil; cymorth ADY a chynhwysiant.
Byddwch yn dilyn 3 modiwl gwahanol:
Ymarfer Proffesiynol 1 (40 credyd ar lefel 6)
Mae’r modiwl hwn yn seiliedig ar waith yn yr ysgol (60 diwrnod) a byddwch yn datblygu cymhwysedd yn erbyn y Safonau Proffesiynol statudol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth trwy eich addysgu ac asesu ymarferol, arsylwadau ysgrifenedig, myfyrdodau, ymchwil a gosod targedau personol.
Ymarfer Proffesiynol 2 (40 credyd ar lefel 6)
Mae’r modiwl hwn yn seiliedig ar waith yn yr ysgol (60 diwrnod) a byddwch yn datblygu cymhwysedd cyflawn yn erbyn y Safonau Proffesiynol statudol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth trwy eich addysgu ac asesu ymarferol, arsylwadau ysgrifenedig, myfyrdodau, ymchwil a gosod targedau personol.
Ymchwiliadau i Ymarfer 1 (40 credyd ar lefel 7)
Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar 2 aseiniad lle byddwch yn adeiladu ar eich gallu i fyfyrio’n feirniadol ar addysgeg ac ymarfer, a gwerthuso hynny, wrth wella eich gallu i fodloni elfennau Addysgeg, Arloesi a Dysgu Proffesiynol y Safonau Proffesiynol.
Mae’r cyfleoedd dysgu ac addysgu yn y brifysgol ac yn yr ysgol wedi’u cynllunio i ategu ei gilydd er mwyn sicrhau eich bod yn gwneud y cynnydd gorau posib. Mae’r dulliau a ddefnyddir yn pwysleisio ac yn hwyluso sgiliau datblygu beirniadol ac yn ymwneud ag integreiddio ymchwil ac ymholi, ymarfer a theori. Yn y brifysgol ac yn yr ysgol fel ei gilydd, byddwch yn cael profiad o ddulliau dysgu dan arweiniad tiwtor a dysgu hunangyfeiriedig, gan ddatblygu mwy o annibyniaeth a gallu i fyfyrio wrth weithio’ch ffordd drwy’r cwrs. Bydd cyfleoedd rheolaidd gydol y cwrs i chi adolygu eich cynnydd personol gyda’ch tiwtor a chymryd cyfrifoldeb am gynllunio eich dysgu eich hun a rhoi hynny ar waith.
Yn y brifysgol, bydd y dulliau dysgu ac addysgu yn cynnwys darlithoedd, seminarau, gweithdai Mewnwelediad Proffesiynol a thiwtorialau, oll wedi’u hategu drwy ddefnyddio amgylchedd dysgu rhithwir Prifysgol Met Caerdydd. Mae dysgu ar-lein ac astudio dan gyfarwyddyd yn nodweddion o’r rhaglen hon, ac yn rhan annatod o’ch datblygiad proffesiynol. Bydd cyfres o adnoddau ar-lein yn cael eu darparu i’ch galluogi i wneud y gorau o’ch anghenion ymchwil ac addysgeg personol.
Bydd Datblygiad Proffesiynol dan Arweiniad yr Ysgol sy’n rhan o’ch Ymarfer Clinigol yn cael ei deilwra i fynd i’r afael â’r bylchau a nodwyd yn eich Cynllun Dysgu a Datblygu Unigol. Mae hyn yn sicrhau bod eich dysgu yn cael ei bersonoli a’i fod yn gydnaws â gweledigaeth y rhaglen. Bydd disgwyl i bob ysgol gynllunio cyfleoedd dysgu sy’n canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth pwnc-benodol ac addysgeg athrawon sy’n ymarfer—nid yn unig yn eu pwnc nhw ond hefyd mewn llythrennedd, rhifedd, Cymraeg, a chymhwysedd digidol. Law yn llaw â hyfforddiant diogelu sylfaenol, bydd ysgolion hefyd yn cael eu cyfarwyddo i ymdrin â rhai pynciau craidd i fynd i’r afael â meysydd fel gwybodaeth pwnc, datblygiad y Gymraeg, ac ati.
Mae eich profiad o arwain gwersi yn adeiladu dros y tri thymor. Bydd hyn yn cael ei sgaffaldu gan ddulliau addysgu tîm yn ogystal â chymryd rhan mewn addysgu annibynnol. Yn ystod y TAR, bydd gofyn i chi fod yn fwyfwy cyfrifol am addysgu dosbarth, neu ddosbarthiadau, yn annibynnol dros gyfnod parhaus a sylweddol (30% yn codi i 80%). Bydd disgwyl i chi ddilyn amserlen addysgu yn y lleoliad ysgol amgen am 3 wythnos a bydd mentor yn cael ei ddyrannu ar gyfer y lleoliad addysgu byrrach hwn.
Byddwch yn treulio 7 diwrnod yn Ysgol Arweiniol y Bartneriaeth sydd wedi ei dynodi i chi gan ganolbwyntio ar agweddau craidd ar addysgeg a chynllunio Cwricwlwm.
Mae’r cwrs yn cynnwys dau aseiniad ysgrifenedig ar lefel 7 sy’n cael eu gwasgaru dros y flwyddyn. Mae’r ddau aseiniad prifysgol yn adeiladu ar eich gallu i fyfyrio’n feirniadol ar addysgeg ac ymarfer a’u gwerthuso wrth wella’ch gallu i fodloni elfennau o’r Safonau SAC. Ar ben hynny, mae’r aseiniadau wedi’u cynllunio i feithrin eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymchwil, gan roi cyfle i gysylltu theori ag ymarfer mewn ffordd a gaiff effaith gadarnhaol ar ddisgyblion, gwella’r ysgol a’ch ymarfer proffesiynol eich hun. Bydd eich mentor yn yr ysgol a’ch Tiwtoriaid Prifysgol yn eich cefnogi i gwblhau’r aseiniadau hyn.
Byddwch yn cael eich asesu yn erbyn y Safonau SAC a rhaid pasio’r holl Safonau i ennill statws athro cymwysedig. Yn ystod yr ymarfer clinigol, byddwch yn cael adborth ffurfiannol parhaus ar lafar ac ar bapur yn ogystal ag adroddiadau crynodol. Fel rhan o’r cwrs, byddwch yn casglu tystiolaeth wrth ddangos eich cyrhaeddiad a’ch cyflawniad a bydd y dystiolaeth hon ar gael i diwtoriaid y brifysgol fel y gallant fonitro cynnydd yn rheolaidd. Archwilir eich gwybodaeth am bwnc ar ddechrau’r rhaglen, cyn cynhyrchu Cynllun Dysgu a Datblygu Unigol i fynd i’r afael ag unrhyw fylchau yn eich gwybodaeth am y pwnc, gyda chymorth Tiwtoriaid Prifysgol a’ch Uwch Fentor. Yna, bydd casgliad o fesurau yn cael eu mabwysiadu wedyn i sicrhau bod yr holl fylchau a nodwyd yn cael sylw, gan gynnwys ymchwil pwnc gyda mentoriaid yn yr ysgol ac astudio annibynnol dan gyfarwyddyd.
Bydd cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn arwain at argymhelliad i Gyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC) ac yn darparu cyfleoedd cyflogaeth ar lefel uwchradd. Gall graddedigion gael gwaith mewn ysgolion ledled Cymru, y DU a thramor.
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i ddarparu amrywiaeth eang o brofiadau a fydd yn rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i’n graddedigion i’w paratoi’n dda ar gyfer byd gwaith. Mae Ysgolion Arweiniol Partneriaeth Caerdydd wedi’u nodi fel darparwyr blaenllaw ym maes addysg a datblygiad proffesiynol yng Nghymru ac felly mae’r cyfle i ddysgu ganddynt hwy ac o fewn eu hamgylchedd yn golygu y dylai datblygiad gyrfa o fod yn athro dan hyfforddiant i fod yn Athro Newydd Gymhwyso fod yn ddi-dor. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Addysgwyr Cymru.
Beth Alla i Ddisgwyl ei Ennill Pan Fydda i’n Dechrau Addysgu?
Mae gwybodaeth ar gael ar wefan Gyrfa Cymru.
Datblygiad Proffesiynol
Mae’r rhaglen yn cynnig mantais tuag at ddatblygiad proffesiynol parhaus hefyd drwy roi 40 credyd ar lefel meistr. Gellir trosglwyddo’r credydau hyn tuag at gymhwyster meistr llawn a astudir yn amser llawn neu’n rhan-amser.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i MA mewn Addysg (gyda Llwybrau).
Meini Prawf Hanfodol:
Mae gofynion mynediad a gweithdrefnau dethol ar gyfer TAR i Weithwyr Ysgol yn dilyn proses ymgeisio ar y cyd sy’n cynnwys yr athro sy’n ymarfer a’r ysgol sy’n cyflogi. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod yr athro a’r ysgol wedi’u paratoi’n llawn i gefnogi taith yr athro sy’n ymarfer tuag at Statws Athro Cymwysedig (SAC) ac mae’n adlewyrchu pwyslais y rhaglen ar ffocws cydweithredol ysgol gyfan ar ddatblygiad proffesiynol.
Yna caiff ceisiadau eu hasesu yn erbyn y meini prawf ar gyfer mynediad i’r rhaglen hon a chaiff ymgeiswyr eu gwahodd i fynychu cyfweliad ar sail y wybodaeth hon.
Er mwyn cael ei ystyried, rhaid i’r ymgeisydd:
- cael ei gyflogi mewn rôl addysgu mewn ysgol erbyn dechrau’r rhaglen, gydag o leiaf dair blynedd o gyfrifoldebau addysgu parhaus.
- cael cytundeb ffurfiol gan ei gyflogwr presennol gyda chefnogaeth cais ar y cyd gan yr ysgol, fel y manylir ym meini prawf yr ysgol.
Dylai pob ymgeisydd fodloni’r amodau canlynol:
- Bod â 3 blynedd o brofiad addysgu yn ystod y chwe blynedd diwethaf (mae hyn yn caniatáu amser ar gyfer seibiannau gyrfa).
- Bod â phrofiad o addysgu dosbarth cyfan dros nifer o ddosbarthiadau.
- Dangos cyfrifoldeb am ddysgu a chynnydd dysgwyr, gan gynnwys asesu ar gyfer dysgu.
- Meddu ar y doniau, y gallu a’r cadernid i fodloni’r canlyniadau gofynnol SAC erbyn diwedd y rhaglen AGA.
- Meddu ar y rhinweddau personol a deallusol priodol i ddod yn ymarferwyr rhagorol.
- Gallu darllen yn effeithiol a chyfathrebu’n glir ac yn gywir yn y Gymraeg a / neu’n Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Dim cefndir troseddol a allai ei atal rhag gweithio gyda phlant neu bobl ifanc agored i niwed, neu fel ymarferydd addysg; heb ei wahardd na’i eithrio rhag addysgu neu weithio gyda dysgwyr o’r blaen. Bydd yn ofynnol i’r ysgol sy’n cyflogi gadarnhau bod hyn ar waith.
- Arddangos yn ystod y cyfweliad fod ganddo / ganddi’r sgiliau swyddogaethol personol priodol mewn llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol sydd eu hangen mewn cyd-destun dysgu ac addysgu proffesiynol.
- Dangos ei addasrwydd i fod yn athro rhagorol.
- Bodloni gofynion Rheoliadau Addysg (Safonau Iechyd) Llywodraeth Cymru (2004) *, gan gadarnhau ei iechyd a’i allu corfforol i ymgymryd â chyfrifoldebau athro.
Gofynion TGAU:
TGAU Gradd C / Gradd 4 neu uwch mewn Saesneg Iaith neu Cymraeg Iaith (Iaith Gyntaf), Mathemateg neu Mathemateg – Rhifedd (neu gymhwyster cyfwerth safonol). Mae angen Gradd C / Gradd 4 neu uwch mewn Gwyddoniaeth (neu gyfwerth safonol) ar gyfer TAR Addysg Gorfforol.
Bydd angen TGAU Gradd C neu uwch mewn Cymraeg (Iaith Gyntaf) ar fyfyrwyr sy’n astudio i addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Gellir ystyried Cymraeg Ail Iaith os astudiwyd ar lefel uwch, e.e., Safon Uwch.
Sylwch y dylai myfyrwyr fod eisoes wedi cael Gradd C / Gradd 4 neu uwch mewn TGAU Saesneg Iaith neu Gymraeg, Mathemateg neu Mathemateg – Rhifedd (neu gyfwerth) a Gwyddoniaeth (dim ond yn ofynnol ar gyfer TAR Addysg Gorfforol) er mwyn cael eu hystyried ar gyfer cyfweliad.
Cymwysterau Cyfwerth â TGAU:
Mae Met Caerdydd yn derbyn cymwysterau cyfwerth ar gyfer gofynion TGAU gan gwrs achrededig drwy sefydliad ag enw da. Edrychwch ar ofynion Met Caerdydd ar gymwysterau cyfwerth â TGAU gradd C.
Rydym yn derbyn cymwysterau cyfwerth gan Brifysgol De Cymru a Phrifysgol Aberystwyth, a hefyd Modiwl Cywerthedd Mathemateg (Cyflwyniad i Fathemateg 1 a 2) a’r Modiwl Cyfwerthedd Saesneg (Sgiliau Iaith Saesneg).
Mae cyngor pellach am ba gymwysterau cyfwerth a dderbynnir ar gael trwy gysylltu â’r tîm derbyniadau yn holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Gofynion Cychwynnol o ran Gradd:
Er ein bod yn disgwyl i’ch gradd gynnwys cyfran sylweddol o’r pwnc rydych am hyfforddi i’w addysgu, rydym yn rhoi ystyriaeth ffafriol i ymgeiswyr â gradd mewn pwnc y sydd â chysylltiad agos. Bydd eich cais a’ch cyfweliad (os cewch eich dewis) yn cael eu hasesu ar eich potensial i fodloni lefel SAC y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth sy’n ymwneud â’ch gwybodaeth, eich dealltwriaeth a’ch sgiliau mewn perthynas â’r pwnc, ac i ba raddau gallai’r rhain fod yn llwyddiannus fel sail i’ch ymarfer fel athro pwnc penodol, hyd at a chan gynnwys addysgu Safon Uwch a chwricwla ôl-16 eraill.
Disgwylir i chi fod â Gradd 2.2 Anrh o leiaf. Efallai y cewch eich ystyried ar gyfer rhai pynciau uwchradd os oes gennych radd Anrhydedd islaw dosbarth 2:2, ond bydd angen i chi fod â chymwysterau uwch a / neu brofiad perthnasol, e.e., Gradd Meistr, PhD.
Gwiriad Cofnodion Troseddol / Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS):
Mae mynediad yn amodol ar wiriad cofnodion troseddol boddhaol hefyd. Mae rhagor o fanylion am weithdrefnau cofnodion troseddol ar gael yma.
Ymgeiswyr Rhyngwladol:
Ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol, nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, bydd angen isafswm sgôr IELTS cyffredinol o 7.5 heb is-sgôr is na 7.0 (neu gymhwyster cyfwerth) i sicrhau lle ar y rhaglen. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Saesneg Iaith ewch i’r tudalennau ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.
Dylid gwneud cais am y cwrs hwn drwy Hunanwasanaeth Myfyrwyr.
Mae canllawiau pellach ar gael yma.
Mae lleoedd wedi’u cyfyngu i 10 myfyriwr / carfan o 10 (2025-26 – cyfrwng Cymraeg yn unig), ac 20 lle ar gyfer 2026-27 (10 cyfrwng Cymraeg a 10 cyfrwng Saesneg).
Wrth gyflwyno cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y dogfennau canlynol. DS – ni fyddwn yn asesu’ch cais tan ein bod wedi derbyn yr holl ddogfennau gorfodol:
- Datganiad Personol.
- CV, gan gynnwys tystiolaeth o gymwysterau TGAU.
- O leiaf un Geirda Academaidd (neu eirda proffesiynol os ydych wedi bod allan o addysg am y 5 mlynedd diwethaf).
- Copi o dystysgrif gradd neu drawsgrifiad terfynol swyddogol. Os ydych chi’n dal i ddilyn cwrs gradd israddedig pan fyddwch chi’n cyflwyno’r cais, yna bydd angen i chi ddarparu trawsgrifiad interim swyddogol. Dylai hyn gynnwys eich enw, enw’r Brifysgol, teitl y cwrs, modiwlau a wnaed hyd yma, a’r graddau ar gyfer y modiwlau hynny. Ni dderbynnir unrhyw ddogfen a gyflwynir heb y wybodaeth honno. Nid yw’n ofynnol i fyfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr Met Caerdydd ddarparu’r ddogfen hon. Darparwch gopi o’ch tystysgrif briodas os yw eich enw wedi newid ers i chi ennill eich gradd israddedig.
- Cwblhau’r Ffurflen Cais Atodol. Rhaid defnyddio’r templed a ddarperir yma.
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid i’ch ysgol wneud y canlynol:
- bod yn Ysgol Ymarfer Clinigol ar gyfer Partneriaeth Caerdydd, Ysgol Arweiniol Partneriaeth Caerdydd, neu fod wedi gwneud cais llwyddiannus am statws Ysgol Ymarfer Clinigol.
- dangos ymrwymiad i addysg athrawon: darparu tystiolaeth o ymrwymiad yr ysgol i addysg gychwynnol athrawon, gan gynnwys hanes profedig o gefnogi athrawon dan hyfforddiant a / neu athrawon newydd gymhwyso trwy raglenni strwythuredig, mentora, neu fentrau datblygiad proffesiynol.
- darparu adnoddau a chymorth datblygu: cadarnhau bod yr amser a’r adnoddau angenrheidiol ganddyn nhw fel bod yr athro sy’n ymarfer yn gallu cynllunio, adolygu, ac ymgysylltu’n llawn â’i addysg gychwynnol i athrawon, gan ganiatáu ar gyfer myfyrio a datblygiad strwythuredig.
- penodi ac enwi uwch fentor addas: neilltuo uwch fentor sydd nid yn unig yn wybodus mewn addysg athrawon ond sydd hefyd yn gallu tywys yr athro sy’n ymarfer drwy amserlen addysgu strwythuredig, raddol sy’n helpu i feithrin gwybodaeth a sgiliau cynyddol.
- dangos amgylchedd cefnogol ar gyfer y rôl ddeuol: darparu tystiolaeth o ymrwymiad i gefnogi rôl ddeuol yr athro sy’n ymarfer fel athro a dysgwr. Gall hyn gynnwys cyfeiriad at bolisïau, amserlenni, neu enghreifftiau o arferion datblygiad proffesiynol sy’n sicrhau bod yr athro sy’n ymarfer yn cael amser strwythuredig ar gyfer dysgu, myfyrio a thwf ochr yn ochr â’i gyfrifoldebau addysgu; a
- hyrwyddo diwylliant ymchwil-gyfoethog: dangos ymroddiad i fod yn ysgol sy’n gwerthfawrogi ac yn cymryd rhan weithredol mewn dysgu seiliedig ar ymchwil a gwelliant parhaus fel “sefydliad sy’n dysgu.” Dylai’r ymrwymiad hwn gynnwys integreiddio addysg athrawon i ddiwylliant ehangach yr ysgol.
Cynhelir cyfweliadau ar y safle ym Mhrifysgol Met Caerdydd. Cewch wybod am ddyddiad eich cyfweliad trwy diwtoriaid y brifysgol ac mewn e-bost gan Met Caerdydd. Bydd y cyfweliadau’n para tua 1 awr.
Yn dilyn cam cyntaf y cais, byddwch chi a’ch uwch fentor wedyn yn cael eich gwahodd i fynychu cyfarfod cychwynnol gyda dau aelod o dîm y rhaglen (y naill o’r Brifysgol a’r llall o un o Ysgolion Arweiniol y Bartneriaeth). Yn ystod y cyfarfod, byddwch yn cael eich asesu yn erbyn eich gallu i fynegi pa mor dda rydych chi’n bodloni’r meini prawf mynediad. Hefyd, bydd tîm y rhaglen yn archwilio pa mor dda allai’r ysgol sy’n cyflogi gefnogi’r athro sy’n ymarfer a’r uwch fentor yn eu rolau ac yn gwerthuso eu hymrwymiad i’r rhaglen. Bydd y cyfarfod hefyd yn rhoi cyfle i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi a’ch ysgol am ddisgwyliadau a hawliau.
Bydd yr holl ymatebion yn cael eu sgorio, a bydd yr ymgeiswyr â’r sgoriau uchaf yn cael cynnig lle ar y rhaglen.
Cymwysterau
Does gen i ddim TGAU Gradd C / Gradd 4 neu uwch mewn Saesneg Iaith neu Cymraeg Iaith a Mathemateg – ydw i’n dal i allu gwneud cais am y TAR?
Bydd angen Gradd C / Gradd 4 neu uwch mewn Saesneg / Cymraeg Iaith, Mathemateg neu Fathemateg – Rhifedd (neu gyfwerth) ar ymgeiswyr i gael eu hystyried ar gyfer cyfweliad. Hefyd, bydd TAR Addysg Gorfforol yn gofyn am Radd C / Gradd 4 mewn TGAU Gwyddoniaeth (neu gyfwerth).
Pa gymwysterau cyfatebol mae Met Caerdydd yn eu derbyn ar gyfer TGAU?
Cliciwch yma i weld canllawiau Met Caerdydd ar gymwysterau cyfwerth â gradd C.
Rydym yn derbyn cymwysterau cyfwerth Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Aberystwyth, a hefyd Modiwl Cyfwerthedd Mathemateg (Cyflwyniad i Fathemateg 1 a 2) a’r Modiwl Cyfwerthedd Saesneg (Sgiliau Saesneg Iaith).
Mae angen i gymwysterau cyfatebol gael eu hachredu gan sefydliad ag enw da. Mae cyngor pellach am y cymwysterau cyfwerth a dderbynnir ar gael trwy gysylltu â Derbyniadau yn holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ydy fy nghymwysterau i’n dderbyniol?
Mae cyfwerthedd cymwysterau tramor yn cael eu pennu gan UK NARIC.
Os ydych chi’n fyfyriwr rhyngwladol dylech gysylltu ag UK NARIC. Os ydych chi’n ymgeisydd Cartref / yr UE, cysylltwch â’n tîm Derbyniadau a fydd yn gallu cynnig cyngor pellach ar eich cymwysterau.
Gwneud Cais
Pryd mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau?
Y dyddiad cau cychwynnol ar gyfer ceisiadau fydd 2 Mai 2025. Ar ôl y dyddiad hwn, byddwn yn cau’r rhaglen os ydym wedi derbyn digon o geisiadau. Gall cystadleuaeth am leoedd fod yn uchel iawn ar gyfer y rhaglen unigryw hon, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi siom.
Ydw i’n gwneud cais yn uniongyrchol i Met Caerdydd?
Rhaid gwneud pob cais trwy Hunanwasanaeth Myfyrwyr.
Fydd raid i mi gwblhau Gwiriad Cofnodion Troseddol?
Fel aelod cyflogedig o ysgol, cyfrifoldeb eich Pennaeth fydd sicrhau bod hyn yn ei le. Bydd gofyn i’r Pennaeth gadarnhau hyn adeg gwneud y cais fel rhan o’r ffurflen gais atodol.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n ymgeisydd cyfrwng Cymraeg?
Dylai ymgeiswyr sy’n dymuno hyfforddi ar gyfer y sector cyfrwng Cymraeg wneud cais am y llwybr cyfrwng Cymraeg. Mae darpariaeth y brifysgol ar y cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ystod y broses gyfweld cewch eich asesu ar eich gallu yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Cyfweliadau
Sut bydda i’n cael gwybodaeth am y cyfweliad?
Bydd gwybodaeth yn cael ei hanfon mewn e-bost gan Brifysgol Met Caerdydd. Bydd dyddiad eich cyfweliad yn cael ei gadarnhau trwy e-bost.
Pa mor aml y cynhelir cyfweliadau? Oes dyddiadau penodol?
Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y rhaglen hon ym mis Mai, gan fod y cwrs yn dechrau ym mis Mehefin.
£3,500 yw’r ffi dysgu ar gyfer y rhaglen.
Bydd yr ysgol sy’n eich cyflogi hefyd yn ysgwyddo costau er mwyn cefnogi eich cyfranogiad, gan y bydd angen eich rhyddhau am yr amser angenrheidiol. Bydd y costau hyn yn amrywio yn dibynnu ar strwythur staffio a model ariannol eich ysgol.
Mae’r tabl isod yn rhoi canllaw dangosol ar gyfer yr oriau addysgu y gall eich ysgol eu neilltuo i chi yn ystod y rhaglen. Bydd yr amser sy’n weddill yn cael ei neilltuo i weithgareddau datblygiad proffesiynol gydag o leiaf pob dydd Gwener fel diwrnod digyswllt.
Wythnos y Rhaglen | Addysgu (yr Wythnos) | Arsylwi / Addysgu Tîm (yr Wythnos) | |
---|---|---|---|
Tymor yr Haf (9/6/25 – 18/7/25) | Wythnos 1 | 1.5 diwrnod | 0.5 diwrnod |
Wythnosau 2-4 | 1.5 diwrnod | 2.5 diwrnod | |
Wythnosau 5-6 | |||
Tymor yr Hydref (8/9/25 – 19/12/25) | Wythnosau 7-13 | 13 awr | 3 awr |
Wythnosau 15-21 | 15 awr | 1 awr | |
Tymor y Gwanwyn (5/1/26 – 23/1/26) | Lleoliad ysgol amgen (wythnosau 22-24) | ||
Tymor y Gwanwyn / Haf (26/1/26 – 8/5/26) | Wythnosau 25-37 | 18 awr |
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ffoniwch y Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau penodol i bwnc, cysylltwch ag Arweinydd y Rhaglen i ddechrau:
Tiwtoriaid:
- Dr Gina Morgan – gmorgan@cardiffmet.ac.uk
- Rhian Griffiths – rgriffiths2@cardiffmet.ac.uk
-
Lleoliad
Campws Cyncoed
-
Ysgol
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
-
Cychwyn
9 Mehefin 2025
-
Hyd
1 flwyddyn yn llawn amser.
Rydyn ni'n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â'r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu'r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae'n cadw'r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o'r fath yn angenrheidiol. I gael y wybodaeth lawn, darllenwch ein Telerau ac Amodau.