Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs MSc Dylunio Cynnyrch ym Met Caerdydd yn rhaglen Meistri ymarferol a addysgir gyda chysylltiadau rhagorol â diwydiant a ffocws ar wella cyflogadwyedd ei graddedigion.
Mae'n cydbwyso datblygiad sgiliau dylunio ymarferol uwch gyda thrylwyredd academaidd ac ymchwil gymhwysol yn seiliedig ar weithgareddau ymchwil cyfredol Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd a'r brifysgol ehangach.
Bydd ein Gradd Meistr Dylunio Cynnyrch yn datblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth am ddylunio rhyngweithio sy'n canolbwyntio ar bobl, profi defnyddwyr, dylunio gwasanaethau, creadigrwydd, a thechnegau ymchwil ethnograffig.
Byddwch yn archwilio effeithiau cymdeithasol, cyfreithiol, moesegol a chynaliadwyedd amrywiaeth o ddulliau datblygu dylunio hefyd.
Byddwch yn archwilio amrywiaeth o safbwyntiau damcaniaethol a methodolegol cyfredol ac arweiniol, ac yn datblygu dealltwriaeth uwch o egwyddorion corfforol, canfyddiadol a gwybyddol mewn dylunio.
Mae'r MSc Dylunio Cynnyrch wedi'i ddatblygu drwy ymgynghori â'r diwydiant, ac mae'n cynnal cysylltiadau masnachol agos drwy fodiwlau lleoliad gwaith, noddi prosiectau mawr, a briffiau byw. Mae hyn yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach i raddedigion o arferion y diwydiant, a'r broses o ddatblygu dylunio mewn cyd-destun masnachol cyfannol.
Nod y cwrs hwn yw gwella eich cyflogadwyedd drwy roi'r sgiliau a'r wybodaeth y mae galw amdanynt gan ddiwydiannau gartref ac yn fyd-eang, yn ogystal â darparu cyfleoedd i ddatblygu eich galluoedd fel entrepreneur.
Wedi'i achredu gan
Mae myfyrwyr MSc yn dilyn y modiwlau canlynol:
- Canfyddiad, Gwybyddiaeth, Emosiwn a Chyd-destun (20 credyd)
- Egwyddorion ac Ymarfer Datblygu Cynnyrch (20 credyd)
- Technegau ac Egwyddorion Ymchwil (20 credyd)
- Materion Cynaliadwyedd mewn Dylunio ar gyfer Cynhyrchu (20 credyd)
- Profi a Gwerthuso Defnyddwyr (20 credyd)
- Lleoliad Gwaith Diwydiannol (20 credyd)
- Prosiect Mawr (60 credyd)
Pwyntiau Gadael y Rhaglen:
- I ennill Tystysgrif Ôl-raddedig, rhaid i chi lwyddo yn y modiwl Egwyddorion ac Ymarfer Datblygu Cynnyrch ynghyd â dau fodiwl 20 credyd arall. (60 credyd)
- I ennill MSc Dylunio Cynnyrch, rhaid i chi lwyddo ym mhob modiwl (180 credyd)
- I ennill Diploma Ôl-raddedig, rhaid i chi lwyddo ym mhob modiwl ac eithrio Prosiect Mawr (120 credyd)
Cyflwynir y modiwlau fel arfer drwy:
- Darlithoedd
- Seminarau
- Gweithdai
- Dysgu rhithwir, e.e. Blackboard neu flogiau myfyrwyr neu wicis.
- Astudiaeth hunangyfeiriedig.
Defnyddir darlithoedd i gyflwyno cysyniadau ac egwyddorion sylfaenol. Defnyddir tiwtorialau a seminarau i drafod ac esbonio meysydd problemus penodol. Defnyddir tiwtorialau grŵp cyfoedion i drafod ac esbonio meysydd problemus penodol. Defnyddir astudiaethau achos, ymarferion ac enghreifftiau i roi cyd-destun i broblemau ac ymarfer dylunio realistig. Gellir gwahodd arbenigwyr allanol i gyfrannu a gellid defnyddio ymweliadau safle hefyd. Bydd y lleoliad diwydiannol yn cael ei ddarparu drwy brofiad gwaith priodol, sy'n seiliedig ar brosiect fel arfer.
Bydd holl ddogfennau'r cwrs, gan gynnwys Llawlyfr Astudiaethau Ymchwil Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Canllaw Astudiaeth Ymchwil Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd, y Llawlyfr MA Celf a Dylunio gyda disgrifiadau o fodiwlau, canllawiau asesu a meini prawf, ar gael fel copi caled ac yn electronig. Yn ogystal, bydd cyflwyniadau PowerPoint o ddarlithoedd a deunydd a gynhyrchir gan weithdai, er enghraifft, paragraffau a dadansoddiadau testunol neu weledol a gyfansoddwyd yn ystod gweithdai, ar gael ar Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) Prifysgol Metropolitan Caerdydd).
Bydd cyswllt o bell neu electronig â staff ar gael drwy e-bost a/neu VLE. Bydd y tîm goruchwylio'n cyflawni, rheoli a monitro cynnydd pob myfyriwr drwy nifer o gyfarfodydd unigol a thîm. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael eu hannog i ffurfio a chynnal grwpiau dysgu cyfoedion, naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein. Cefnogir dysgu drwy ddefnyddio'r amgylchedd dysgu rhithwir, cyfathrebu electronig, a dulliau perthnasol eraill. Cynghorir unrhyw fyfyrwyr sydd angen cymorth dysgu i gysylltu â Chymorth Dysgu yn y Gwasanaethau Myfyrwyr. Drwy gydol y rhaglen, disgwylir i fyfyrwyr gynnal eu Cynllun/Portffolio Datblygiad Personol (CDP) eu hunain, gyda'r bwriad o ddarparu tystiolaeth o'u gwybodaeth a'u dealltwriaeth mewn perthynas â deilliannau dysgu pob modiwl.
Mae pob 20 credyd yn cyfateb i 240 o oriau dysgu (addysgir 80 fel arfer ac mae 160 yn astudio cyfeiriedig neu'n astudiaeth annibynnol).
Cyfleusterau
Gofod stiwdio pwrpasol. Mae Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd yn cynnig amrywiaeth eang o leoedd, gweithdai ac offer, gan greu amgylchedd dysgu bywiog a chreadigol, o fewn adeilad pwrpasol newydd ac estyniad wedi'i adnewyddu'n llawn. Mae'r cyfleusterau gweithdy a thechnegol yn cynnwys ffowndri; a mynediad i weithdai eraill ar draws y casgliad lawn o ddisgyblaethau Celf a Dylunio. Mae aelodaeth o'r Fablab wedi'i chynnwys yn y costau gwaith cwrs dangosol isod. Mae gan Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd amrywiaeth eang o offer a chyfarpar i'w ddefnyddio gan fyfyrwyr; hyfforddiant gweithdy angenrheidiol yn eu defnydd yn cynnwys mynediad at ddeunyddiau a ddefnyddir fel rhan o sesiynau cynefino gweithdai sydd ar yr amserlen. Mae gennych fynediad at ddeunyddiau wedi'u hailgylchu yn yr ardaloedd gweithdy hefyd.
Costau Gwaith Cwrs Dangosol
Bydd angen i chi brynu deunyddiau ar gyfer prosiectau unigol a ddefnyddir yn y stiwdio ac mewn gweithdai fel y bo'n briodol. Sylwch y bydd y costau'n amrywio yn dibynnu ar raddfa a gofynion unigol eich gwaith. Fel arfer, awgrymwn eich bod yn neilltuo cyllideb o £575 ar gyfer eich prosiectau yn ystod y Rhaglen MSc.
Costau Ychwanegol Eraill
Bydd costau ychwanegol yn gysylltiedig â phrynu offer a chyfarpar personol untro (yn enwedig unrhyw offer personol sy'n briodol i'ch maes ymarfer neu ymholiad eich hun) a theithiau astudio os byddwch yn cymryd rhan ynddynt. Costau eraill fel argraffu, prynu gwerslyfrau; a bydd angen talu cost lleoliadau dewisol hefyd. Gofynnwch i Gyfarwyddwr eich Rhaglen am ganllawiau penodol pan fyddwch yn derbyn ein cynnig o le.
Ar gyfer pob modiwl, mae'r asesu fel a ganlyn:
APD401M Egwyddorion ac Ymarfer Datblygu Cynnyrch (20 Credyd)
Aseiniad sy'n gyfwerth â 6000 gair. Aseiniad ysgrifenedig fydd hwn fel arfer.
APD403M Materion Cynaliadwyedd mewn Dylunio ar gyfer Cynhyrchu (20 Credyd)
Cyfwerth â 6000 gair. Bydd y modiwl hwn yn cael ei asesu drwy brosiect dylunio fel arfer. Fodd bynnag, gellir dyfarnu cyfran o'r aseiniad ar gyfer gwaith ysgrifenedig neu gyflwyniad.
MAA7001 Dulliau Ymchwil mewn Celf a Dylunio (20 Credyd)
Cyflwyniad ysgrifenedig, ynghyd â chyflwyniad seminar, sy'n 3,000 o eiriau fel arfer ynghyd â chyflwyniad 10-20 munud.
ApD405M Profi a Gwerthuso Defnyddwyr (20 Credyd)
Cyfwerth â 6000 gair. Gellir cysylltu'r modiwl hwn ag eraill er mwyn darparu dull ar gyfer prosiect dylunio. Beth bynnag, bydd yn cynnwys ymarferion ymarferol a gellir dyfarnu cyfran os nad y cyfan o'r aseiniad ar gyfer gwaith ysgrifenedig neu gyflwyniad.
ApD406M Ffurf, Siâp a Lliw (20 Credyd)
Cyfwerth â 6000 gair. Mae'r prosiect hwn yn debygol o gael ei asesu drwy weithgarwch dylunio ymarferol, er y gellir dyfarnu cyfran o'r aseiniad ar gyfer gwaith ysgrifenedig neu gyflwyniad.
Prosiect PD407M Mawr (60 credyd)
Cyfwerth â 18,000 gair. Caiff perfformiad ei fesur gan ddefnyddio'r Adroddiad Terfynol, Cyflwyniad Ffurfiol, arholiad Viva Voce a'r cynnyrch terfynol. O'r marciau sydd ar gael ar gyfer y prosiect, mae dyraniad y marciau i bob un o'r mesurau fel a ganlyn:
- Adroddiad Terfynol: 40%
- Cynnyrch Terfynol (prototeip): 40%
- Cyflwyniad Ffurfiol: 5%
- Viva Voce: 15%
APD408M(A) Lleoliad Diwydiannol (20 Credyd)
Cyfwerth â 6000 gair. Adroddiad 3000 gair (uchafswm) yn myfyrio ar brofiad y myfyriwr yn yr amgylchedd gwaith proffesiynol. Llyfr Log lleoliad myfyriol (neu Flog cyfatebol) sy'n cofnodi myfyrdodau beirniadol ar ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrofiadau. Nodyn Pwysig: Oherwydd anawsterau asesu yn y gweithle a'r potensial ar gyfer gwahaniaeth mewn triniaeth, ni ddyfernir marc i'r modiwl hwn heblaw "Llwyddo" neu "Fethu”.
Bydd cymorth ar gael drwy seminarau grŵp bach wythnosol (dim mwy nag 16 o fyfyrwyr fesul grŵp fel arfer), gan archwilio thema darlithoedd a rhoi cyfle i fyfyrwyr egluro eu dealltwriaeth.
Gall y sesiynau hyn fod yn weithdai hefyd lle cynhelir arddangosiadau ymarferol, sy'n cynnwys cyfranogiad myfyrwyr. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, ysgrifennu mewn grŵp neu ddadansoddiad drwy drafodaeth mewn grŵp bach. Bydd tiwtorialau wythnosol ar gael hefyd.
Nod y cwrs yn bennaf yw galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu gyrfaoedd ym myd dylunio a datblygu cynnyrch proffesiynol. Mantais allweddol wrth gyflawni'r nod hwn yw'r modiwl lleoliad diwydiannol. Rhoddir cymorth i bob myfyriwr gael lleoliad addas naill ai mewn diwydiant neu yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Dylunio a Datblygu Cynnyrch (PDR) sydd wedi'i leoli ar gampws y brifysgol.
Ar ôl cwblhau'r cwrs, gall graddedigion ddisgwyl dod o hyd i waith mewn ymgynghoriaethau dylunio neu gwmnïau gweithgynhyrchu unrhyw le yn y byd.
Mae eich blwyddyn/blynyddoedd astudio gyda ni yn eich galluogi i ddatblygu cysylltiadau proffesiynol, gweld sut mae ymarferwyr llwyddiannus yn gwneud eu bywoliaeth, ac yn mireinio eich sgiliau a'ch syniadau er budd masnachol a phroffesiynol. Bydd cydweithrediadau trawsddisgyblaethol o'r fath yn eich paratoi ar gyfer byd lle y bydd yn anochel y byddwch yn gweithio gyda phobl o bob cefndir. Bydd eich prosiectau a'ch asesiadau byw yn eich helpu i ddod yn gyfarwydd â phwysigrwydd terfynau amser a gweithio i friffiau penodol a manylebau tynn.
Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd yn datblygu cyfleoedd i ddeor cynigion busnes gan ei graddedigion a hyfforddiant ôl-raddedig i roi cyfleoedd busnes ar waith.
Disgwylir i bob myfyriwr gwblhau 'cofnod cyflawniad' cludadwy a defnyddio eu CDP i gefnogi cyflogadwyedd a dysgu gydol oes, ar ffurf blog fel arfer, sy'n integreiddio cyfleoedd ar gyfer hunanfyfyrio mewn rhaglenni er mwyn eu helpu i ddatblygu fel dysgwyr effeithiol a hyderus.
Fel arfer, bydd myfyrwyr wedi ennill gradd gyntaf dosbarth cyntaf neu adran uwch ail ddosbarth (dosbarthiad gradd 1af neu 2.1) mewn pwnc priodol, a/neu brofiad neu statws proffesiynol cyfatebol mewn disgyblaeth Dylunio (yn seiliedig ar Ddysgu Blaenorol Achrededig a aseswyd neu Ddysgu Drwy Brofiad Blaenorol Achrededig a aseswyd), neu ddisgyblaeth sy’n gysylltiedig â’u rhaglen astudio.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder hyd at o leiaf safon IELTS 6.0 neu gyfwerth. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg, ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar ein gwefan.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn i’r Brifysgol yn uniongyrchol drwy ein cyfleuster hunanwasanaeth.
Bydd gofyn i chi ddarparu: datganiad am eich gwaith a’ch ymarfer cyfredol a’r diddordebau sy’n ei lywio; datganiad cryno yn amlinellu pam yr hoffech ddilyn y cwrs hwn; amlinelliad o’r prosiect proffesiynol neu ymchwil yr hoffech ei ddatblygu ar y cwrs hwn; a phortffolio o’ch gwaith blaenorol (lle bo’n briodol) i gefnogi eich cais. Gellir cyflwyno delweddau o’ch gwaith neu enghreifftiau o waith ysgrifenedig drwy wefan bersonol neu drwy blatfform ar-lein priodol (e.e. Flickr, Tumblr neu WordPress). Dylid cyfeirio at o leiaf bedair enghraifft wahanol o’ch gwaith. Mae pob myfyriwr yn cael ei gyfweld ar gyfer y cwrs hwn. Lle nad yw cyfweliad wyneb yn wyneb yn bosibl, cynhelir y rhain trwy Microsoft Teams.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a’r cymorth ariannol a allai fod ar gael. Cyfeiriwch at www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd.
Ffioedd rhan-amser
Codir tâl fesul Modiwl Sengl oni nodir yn wahanol: Israddedig = 10 Credyd; Ôl-raddedig = 20 Credyd Yn gyffredinol, canfyddwn y bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cwblhau 60 credyd y flwyddyn ar gyfer astudiaethau Israddedig ac Ôl-raddedig; i gael gwir gost, gallwch gael mwy o eglurder ar hyn trwy gysylltu â Chyfarwyddwr y Rhaglen yn uniongyrchol.
Deunyddiau
Byddwch yn cael mynediad at ddeunyddiau a ddefnyddir fel rhan o sesiynau cynefino ar yr amserlen. Byddwch hefyd yn cael mynediad i ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a’u defnyddio o fewn ardaloedd gweithdai pan fyddant ar gael. Yn gyffredinol bydd angen i chi brynu deunyddiau ar gyfer prosiectau unigol a ddefnyddir mewn stiwdio a gweithdai fel y bo’n briodol.
Sylwch y bydd costau’n amrywio yn dibynnu ar raddfa a gofynion unigol eich gwaith. Yn ogystal, bydd angen cyllidebu ar gyfer pryniannau untro o offer a chyfarpar personol. Bydd angen i chi hefyd dalu am gostau eraill megis argraffu, prynu gwerslyfrau; a bydd angen i chi hefyd dalu am gostau lleoliadau sy’n ddewisol.
Yn bennaf, ni chodir tâl am ddefnyddio offer. Mae mynediad i FabLab Caerdydd yn destun negodi; mae’n cynnig ffioedd gostyngol at ddefnydd myfyrwyr.
I gael rhagor o wybodaeth am gostau cwrs ychwanegol, gan gynnwys ffioedd, gofynion cyfarpar a thaliadau eraill ar gyfer pob rhaglen ôl-raddedig, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/costauychwanegol.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ffoniwch y Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau sy'n benodol i'r cwrs , cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Aidan Taylor ar artaylor@cardiffmet.ac.uk.
-
Lleoliad
Campws Llandaf
-
Ysgol
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
-
Hyd
1 flwyddyn yn llawn amser.
2 flynedd yn rhan-amser.