Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ein blwyddyn sylfaen yn y gwyddorau cymdeithasol yn flwyddyn ychwanegol o astudio ar ddechrau eich gradd prifysgol. Ar ôl cwblhau eich blwyddyn sylfaen yn llwyddiannus, gallwch ddechrau blwyddyn gyntaf ystod eang o raddau Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd.
Bwriad y flwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch hyder.
Rydym yn eich croesawu i astudio blwyddyn sylfaen os ydych yn dod o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd a phrofiadau, gan gynnwys:
- Os nad ydych yn siŵr pa bwnc yr hoffech arbenigo ynddo
- Os nad oes gennych y cyfuniad cywir o bynciau ar gyfer mynediad uniongyrchol i Flwyddyn 1
- Os nad ydych yn bodloni'r gofynion disgwyliedig ar gyfer mynediad uniongyrchol i Flwyddyn 1
- Os ydych chi'n dychwelyd i addysg ar ôl cryn amser i ffwrdd
Mae ein blwyddyn sylfaen yn caniatáu i chi symud ymlaen i'r graddau canlynol sy'n cael eu cyflwyno yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd Caerdydd.
- BSc (Anrh) Gwyddor Biofeddygol
- BSc (Anrh) Gwyddor Biofeddygol (Iechyd, Ymarfer Corff a Maeth)
- BSc (Anrh) Iechyd yr Amgylchedd
- BSc (Anrh) Gwyddor Bwyd a Maeth
- BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff
- BSc (Anrh) Cyflyru, Adferiad a Thylino Chwaraeon
Gall ymgeiswyr hefyd ymgymryd â'r flwyddyn sylfaen ar gyfer mynediad i un o'r rhaglenni gradd canlynol ar ôl ei gwblhau'n llwyddiannus:
- BSc (Anrh) Technoleg Deintyddol
- BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd
- BSc (Anrh) Maethiad Dynol a Dieteteg
- BSc (Anrh) Podiatreg
Dylai ymgeiswyr wneud cais erbyn dyddiad cau UCAS, 25 Ionawr. Ni ellir sicrhau y caiff ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn gyfweliad a/neu ystyriaeth. Ar gyfer y rhaglenni hyn, ac eithrio Technoleg Ddeintyddol, caiff ymgeiswyr eu gwahodd am gyfweliad. Os byddant yn llwyddiannus yn y cyfweliad, bydd gofyn i ymgeiswyr basio'r flwyddyn sylfaen ar yr ymgais gyntaf erbyn 31 Awst yn ystod y flwyddyn mynediad. Gweler tudalennau’r rhaglenni unigol ar gyfer y cyflawniad sydd ei angen yn ystod y flwyddyn sylfaen.
Bydd y rhaglen sylfaen yn datblygu eich hyder a'ch cymhwysedd wrth i chi gaffael y sgiliau astudio sydd eu hangen i gychwyn ar radd Anrhydedd ym maes gwyddor iechyd, ac yn eich cyflwyno i gronfa sylfaenol o wybodaeth y gallwch adeiladu arno, naill ai drwy'r broses o hunan-astudio neu drwy raglenni pellach o astudio dan gyfarwyddyd. Byddwch yn cael eich integreiddio'n llawn i fywyd prifysgol a chymuned y myfyrwyr o'r diwrnod cyntaf.
Mae'r rhaglen yn cynnwys chwe modiwl 20 credyd ar Lefel 3::
Tymor 1
- Sgiliau Academaidd Tymor 1 (20 credyd)
- Gwyddoniaeth Sylfaenol (20 credyd)
- Cyflwyniad i Labordai a Dadansoddi Data (20 credyd)
Tymor 2
- Gwyddorau Biolegol (20 credyd)
- Gwyddorau Cemegol (20 credyd)
- Gwyddorau Labordy Cymhwysol a Dadansoddi Data (20 credyd)
Bydd elfennau o Gynllunio Datblygiad Personol (PDP) yn cael eu hymgorffori yn y modiwl Sgiliau Academaidd mewn Gwyddorau Iechyd. Yn ogystal, bydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i chi dderbyn arweiniad ar natur, cwmpas a rhagolygon cyflogaeth y rhaglenni israddedig a ddarperir yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd Caerdydd gan Gyfarwyddwyr Rhaglen perthnasol.
Cyfarwyddwr Rhaglen sy'n gyfrifol am drefnu a gweithredu'r rhaglen yn gyffredinol.
Bydd Arweinwyr y Modiwlau yn cydlynu cyflwyno ac asesu pob modiwl.
Bydd Tiwtor Personol yn cael ei neilltuo i chi yn ystod yr wythnos gyntaf a dyma fydd eich cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw anawsterau a allai fod gennych. Cynhelir tiwtorialau bugeiliol unigol yn rheolaidd drwy gydol y rhaglen, pan gewch gyfle i drafod gyda'ch Tiwtor Personol unrhyw faterion sy'n ymwneud yn benodol â chi'ch hun.
Dulliau Asesu
Mae'r rhaglen Sylfaen yn cael ei hasesu'n barhaus drwy gydol y flwyddyn. Asesir y rhan fwyaf o'r modiwlau drwy gyfuniad o arholiadau / profion dosbarth a gwaith cwrs, ac mae'n ofynnol i fyfyrwyr roi cynnig ar bob elfen asesu er mwyn cwblhau'r modiwlau yn llwyddiannus. Bydd dadansoddiad o'r patrwm asesu ar gyfer pob modiwl yn cael ei gadarnhau gan arweinwyr y modiwlau yn yr Wythnos Sefydlu. Bydd y meysydd hyn yn cael eu cyflwyno'n fanylach eto yn ystod wythnos gyntaf yr addysgu a'u harchwilio drwy gydol y flwyddyn.
Rheoliadau'r Rhaglen, presenoldeb a chodau ymarfer.
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr fynychu pob sesiwn addysgu, cynnal pob asesiad a dangos parch at eu cyfoedion, tiwtoriaid a'r sefydliad. Bydd canllawiau llawn ar fanylion y rheoliadau/codau ymarfer hyn a ble i ddod o hyd i'r wybodaeth yn sail i'r sesiynau sy'n digwydd yn yr Wythnos Sefydlu. Mae'n bwysig bod pawb yn mynychu'r sesiynau hyn.
Llyfrau/Adnoddau/Cefnogaeth i fyfyrwyr a'u dysgu
Bydd nifer o werslyfrau ar gyfer pob un o'r modiwlau yn cael eu hargymell i chi ar ddechrau addysgu.
Darperir amrywiaeth o gefnogaeth i fyfyrwyr sy'n cynnwys:
- Creu amgylchedd dysgu cefnogol
- Manylion cyn-gofrestru a rhaglen gynefino gynhwysfawr
- Llawlyfr myfyrwyr israddedig Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- Llawlyfr rhaglen i fyfyrwyr a chanllawiau modiwl manwl
- Pecynnau sgiliau llyfrgell ac astudio
- Llyfrgell ac adnoddau dysgu
- Cyfleusterau TG, gan gynnwys Rhith-amgylchedd dysgu Moodle a llwyfannau ar-lein eraill
- Tiwtor personol
- Labordai arbenigol a llwyfannau ar-lein fel Labster
- Gweithdai galw heibio pwrpasol i gefnogi cynnwys modiwl Lefel 3
- Gweithdai galw heibio Cemeg a Ffisioleg Ymroddedig i gefnogi cynnwys modiwl ar Lefel 3
- Mynediad i ystod o wasanaethau yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr
Asesir y rhan fwyaf o'r modiwlau gan ddull cytbwys o arholiad ysgrifenedig cyffredinol, gwaith aseiniadau a, lle bo'n berthnasol, portffolio ymarferol, gyda phob elfen wedi’i phwysoli yn unol â hynny.
Cynlluniwyd yr asesu i fod yn fwy heriol wrth i'r rhaglen fynd yn ei blaen. Bydd deilliannau dysgu penodedig yn cael eu hasesu gan ddefnyddio cyfuniad o aseiniadau gwaith cwrs ynghyd ag arholiadau ffurfiol llyfr caeedig a phrofion dosbarth. Mae gwaith cwrs yn amrywio o gwestiynau ateb byr, aseiniadau a thraethodau, adroddiadau ymarferol, ymarferion datrys problemau a dadansoddi data ynghyd â chyflwyniadau llafar. Ystyrir yr ystod o ddulliau asesu a ddefnyddir fwyaf priodol gan dîm y modiwl.
Bydd y tiwtorialau personol a'r amserlen asesu yn darparu archwiliad parhaus o weithgarwch dysgu effeithiol.
Byddwch yn derbyn amserlen asesu ar gyfer pob modiwl, yn manylu ar y cydbwysedd rhwng gwaith cwrs ac arholiadau, a dyddiadau unrhyw aseiniadau gwaith cwrs ac arholiadau. Bydd y marc cyffredinol a gafwyd o fodiwl yn cyfrannu at berfformiad y myfyriwr.
Mae ein blwyddyn sylfaen yn eich galluogi i symud ymlaen i'r graddau a restrir yn yr adran 'Cynnwys y Cwrs' ar y dudalen we hon.
I gael gwybodaeth benodol am gyflogadwyedd a gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â'r graddau hyn, cyfeiriwch at dudalennau'r cwrs unigol.
Fel arfer, dylai fod gan ymgeiswyr bum TGAU gan gynnwys Iaith Saesneg (neu Gymraeg Iaith Gyntaf), Mathemateg neu Mathemateg – Rhifedd a Gwyddoniaeth ar radd C neu uwch / gradd 4 neu uwch ynghyd ag un o'r canlynol:
- 56 pwynt o 2 gymhwyster Safon Uwch (o leiaf) neu’r hyn sy’n cyfateb iddynt ar safon briodol ar gyfer mynediad i Addysg Uwch ym Mlwyddyn 1, ond mewn meysydd pwnc nad ydynt yn bodloni’r gofynion mynediad ar gyfer eu rhaglen gradd israddedig arfaethedig.
- 56 pwynt o 2 gymhwyster Safon Uwch (o leiaf) neu’r hyn sy’n cyfateb iddynt mewn meysydd pwnc sy’n berthnasol i’w rhaglen gradd israddedig arfaethedig, ond ar safon sy’n methu â bodloni’r gofynion mynediad i Addysg Uwch ym Mlwyddyn 1.
- Gall darpar fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r meini prawf uchod gael eu hystyried yn unigol a gellir eu galw am gyfweliad.
*Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru sy’n sefyll y TGAU Mathemateg diwygiedig, byddwn yn derbyn naill ai TGAU Mathemateg neu Mathemateg – Rhifedd.
Derbynnir cyfuniadau o'r cymwysterau uchod os ydynt yn bodloni ein gofynion sylfaenol. Os nad yw eich cymwysterau wedi'u rhestru, cysylltwch â’r Adran Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cyrsiau UCAS. Mae rhagor o wybodaeth am gymwysterau tramor ar gael yma.
Datganiad Personol
Sicrhewch fod eich datganiad personol ar eich cais UCAS yn cyfeirio'n glir at eich maes diddordeb. Gweler y gofynion ychwanegol isod ar gyfer rhaglenni penodol:
BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd:
Dylai ymwybyddiaeth a disgwyliadau’r rhaglen a'r dyheadau gyrfa mewn perthynas â Gwyddor Gofal Iechyd fod yn amlwg.
BSc (Anrh) Technoleg Ddeintyddol:
Dylid rhestru profiad gwaith a gwybodaeth am waith technolegydd deintyddol gan gynnwys pryd a ble y gwnaed hyn, ynghyd â thystiolaeth o sgiliau cyfathrebu'n glir.
BSc (Anrh) Maeth Dynol a Deieteg:
Dylid rhestru profiad gwaith a gwybodaeth am waith dietegydd gan gynnwys pryd a ble y gwnaed hyn, ynghyd â thystiolaeth o sgiliau cyfathrebu'n glir.
BSc (Anrh) Podiatreg:
a) Wedi trefnu a chynnal eich arsylwad eich hun o podiatregwyr/ceiropodyddion yn y gwaith mewn lleoliad clinigol.
b) Bod ag ymwybyddiaeth sylfaenol o gwmpas podiatreg fel proffesiwn ac o waith beunyddiol podiatregydd.
c) Dangos brwdfrydedd dros ac ymrwymiad i bodiatreg fel gyrfa dewisol.
d) Bod ag ymwybyddiaeth sylfaenol o ofynion hyfforddiant podiatreg.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder hyd at safon IELTS 6.0 neu gyfwerth (o leiaf). I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg, ewch i'r tudalennau rhyngwladol ar y wefan.
Gweithdrefnau Dethol
Gwneir penderfyniad ar sail eich cais UCAS. Mewn rhai amgylchiadau, fel y mynno Cyfarwydd y Rhaglen, gellir gofyn i ymgeiswyr fynychu cyfweliad.
Mae'r rhaglenni canlynol yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr fynychu cyfweliad fel rhan o'r broses ddethol:
- BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd*
- BSc (Anrh) Maeth Dynol a Deieteg*
- BSc (Anrh) Podiatreg*
*Dilynwch y dyddiad cau ar 25 Ionawr oherwydd y broses gyfweld. Ni ellir sicrhau cyfweliad i geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn.
Os ydych yn ymgeisydd aeddfed neu os oes gennych brofiad perthnasol yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â derbyniadau.
Sut i Wneud Cais
Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais ar gael yma.
Myfyrwyr aeddfed
Ymgeisydd aeddfed yw unrhyw un dros 21 oed na aeth i'r brifysgol ar ôl ysgol neu goleg. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr aeddfed a gellir dod o hyd i ragor o gyngor a gwybodaeth yma.
Am ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch holiderbyniadau@metcaerdydd.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau penodol i’r cwrs sylfaen yn unig, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen, Dr Paul Foley.
- E-bost: PFoley@cardiffmet.ac.uk
- Ffôn: 02920 205632
Ar gyfer ymholiadau am raglenni gradd unigol, cyfeiriwch at dudalennau’r cwrs perthnasol i gael y manylion cyswllt.
-
Lleoliad
Campws Llandaf
-
Ysgol
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
-
Hyd
1 flwyddyn yn llawn amser, gyda 3 neu 4 blynedd (gan gynnwys lleoliad) ychwanegol o astudio llawn amser yn ofynnol i gwblhau eich gradd ddewisol.